Swyddog Cyflawni Canlyniadau Gradd 6 Dros Dro Tan
1 day ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig ymuno â'r Tîm Cyflawni Partneriaethau i gynorthwyo nifer o brosiectau gan gynnwys y Rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin. Mae'r gronfa hon yn rhan o agenda Codi'r Gwastad Llywodraeth San Steffan i hybu cynhyrchiant, swyddi a safonau byw, adfer ymdeimlad gymuned, balchder lleol a pherthyn a lledaenu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus.
Mae'r Tîm Cyflawni Partneriaeth ehangach yn rheoli ystod o gyllid arall gan gynnwys grantiau Llywodraeth Cymru megis y Grant Cymorth Tai, Grant Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) a'r Grant Plant a Chymunedau.
**Am Y Swydd**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo'r Rheolwr Prosiect (Cronfa Ffyniant Gyffredin) i ddatblygu a rheoli fframwaith rheoli perfformiad effeithiol er mwyn galluogi darparu a gweithredu'r gwasanaethau a chynlluniau sydd yn rhan o Raglen y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Elfen allweddol o'r rôl yw dadansoddi perfformiad amrywiaeth o wasanaethau a phrosiectau, gan drosi hyn i ddatblygu adroddiadau monitro perfformiad clir i fodloni gofynion Llywodraeth leol a Llywodraeth San Steffan. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain ar ddatblygu offer monitro pwrpasol a chynhyrchu adroddiadau perfformiad ac ariannol; yn y pen draw, bydd y data hwn yn helpu i bennu llwyddiant ac effaith y Rhaglen.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gennych brofiad blaenorol o weithgaredd prosiect neu reoli perfformiad, gan gynnwys ymwybyddiaeth o ystod o offer i fonitro canlyniadau llwyddiannus (tebyg i Atebolrwydd yn Seiliedig ar Ganlyniadau). Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn llawn ysgogiad sydd â phrofiad o weithio gyda thechnoleg newydd yn ogystal â sgiliau digidol rhagorol. Bydd angen i chi weithio’n dda mewn tîm a gallu gweithio o’ch pen a’ch pastwn eich hun.
Bydd gennych brofiad o weithio mewn partneriaeth gydag amrywiaeth o bartneriaid un ai o’r sector statudol, y trydydd sector neu fyd busnes ac felly mae sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol yn hanfodol.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PEO03904
-
Swyddog Effro Dros Nos
3 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous yng Ngwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd, ac rydym yn recriwtio Staff Effro Dros Nos ar gyfer ein Cartref newydd i Blant dan Asesiad, yn gweithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed. Mae hwn yn amser cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn wrth wraidd ei waith. Mae'r ddarpariaeth...
-
Swyddog Cynllunio
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf ac yn un o’r dinasoedd mwyaf medrus ym Mhrydain. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu. Mae’r Gwasanaeth Cynllunio yn cynnwys tri Thîm: Polisi Cynllunio; Rheoli Datblygu Strategol a Chreu...
-
Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Gofal Plant...
-
Swyddog Llety â Chymorth
5 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd agored i niwed sydd angen tai. Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. **Ynglŷn â’r swydd** Swydd dros dro yw hon, yn cwmpasu cyfnod mamolaeth tan 31 Gorffennaf 2025. Mae'r tîm Llety â Chymorth i...
-
Swyddog Hyb
1 day ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. Mae ein hybiau Cymunedol yn cynnig cyfle gwych i ymgeiswyr...
-
Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl
3 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i fodloni eu hanghenion unigol a goresgyn heriau gan eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thŷ Storrie, ein Cartref Preswyl, sy'n darparu llety seibiant byr i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Yn ogystal â chael effaith...
-
Dirprwy Swyddog Cyfrifol
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Cyf. **PEO02930*** **Swydd Dirprwy Swyddog Cyfrifol** **Gradd 7**: - £33,945 - £38,223** **Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Dirprwy Swyddog Cyfrifol, i weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Ddirprwy Reolwr hyderus, annibynnol ac effeithiol ar gyfer ein Cartref Plant...
-
Swyddog Cyswllt Porth y Teulu
1 day ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â’r Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gyfarwyddiaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cyswllt Porth y Teulu yng Ngwasanaeth Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd. Mae’r gwasanaeth yn allweddol i ddarparu dull ‘dim drws anghywir’ y Cyngor i sicrhau bod plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn....
-
Swyddog Cyfathrebu
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Samaritans Full time**Swyddog Cyfathrebu**: Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu i ymuno â’r Samariaid yng Nghymru. Byddwch yn rhoi cymorth cyfathrebu i Samariaid Cymru, gan chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gynllunio a chyflawni prosiectau allweddol. Byddwch hefyd yn cefnogi agwedd Cymru ar ymgyrchoedd y Samariaid, y rhai sy’n benodol i Gymru a’r rhai lle ceir...
-
Swyddog Cymorth Maethu
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae'r boblogaeth gynyddol yng Nghaerdydd ac ymrwymiad Caerdydd i sicrhau bod plant a'u teuluoedd yn derbyn _dim ond y gorau_ wedi arwain at gyfleoedd o fewn y gwasanaeth maethu, Maethu Cymru Caerdydd. Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain ac mae’n ymrwymedig i ddod yn _'Ddinas sy’n Dda i Blant'_ sy'n...