Current jobs related to Swyddog Cymorth Maethu - Cardiff - Cardiff Council


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Bryn y Deryn a Chanolfan Carnegie yn Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) CA4 ar gyfer 90 o ddisgyblion sydd ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol, cymdeithasol ac iechyd meddwl. Rydym yn edrych i benodi Swyddog Cymorth Gweinyddol i'n tîm positif presennol. **Am Y Swydd** Trefnu a goruchwylio systemau gweinyddol yn yr ysgol. Cyfrannu at...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cymorth Busnes Parhaol llawn-amser (37 awr yr wythnos) yn yr Uned Cynnal a Chadw Ymatebol. **Mae’r cyflog hwn yn destun yr Ychwanegiad Cyflog Byw sy’n codi’r gyfradd gyflog sylfaenol i £12.00 yr awr. Bydd yr ychwanegiad yn cael ei adolygu bob mis...

  • Swyddog

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi ar gyfer** **Swyddog, yn gweithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Darparu.** **Am Y Swydd** Mae Dylunio, Contractau a Darparu yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac mae’n allweddol o ran cynllunio a chyflawni prosiectau seilwaith yng Nghaerdydd. Bydd angen i ddeiliad y swydd ddarparu cymorth technegol ac AutoCad mewn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Swyddog Cyngor Digartrefedd yn y Gwasanaeth Dewisiadau Tai. Mae'r Gwasanaeth Dewisiadau Tai yn rhoi cyngor a chymorth i bobl ag anghenion tai yng Nghaerdydd. **Ynglŷn â’r Swydd** Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd hon gyflawni nifer o swyddi o fewn y gwasanaeth gan gynnwys cynorthwyo â gwaith y Swyddogion Tai gan roi cyngor...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaeth Swyddogion Iechyd a Diogelwch Ysgolion yn cynnig gwasanaeth cymorth proffesiynol i Benaethiaid i helpu i reoli iechyd a diogelwch yn eu hysgolion. **Am Y Swydd** Mae angen Swyddogion Iechyd a Diogelwch profiadol a deinamig i ymuno â’r tîm. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn rhoi cyngor a chymorth Iechyd a Diogelwch...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rheoli Adeiladu yn ddarparwr gwasanaeth cyhoeddus deinamig ac amrywiol sy'n arbenigo mewn Rheoliadau Adeiladu a diogelwch y cyhoedd yn bennaf drwy Ddeddf Adeiladu 1985. Fel aelod gweithgar o LABC Services, mae Rheoli Adeiladu Caerdydd hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â chwmnïau lleol a chenedlaethol ac awdurdodau lleol ledled...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **YNGLŶN Â'R GWASANAETH** Mae gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol sy'n darparu llety, cyngor a chymorth i bobl sengl agored i niwed sy'n wynebu digartrefedd ac sydd ag ystod o anghenion cymorth. Mae hyn yn cael ei ddarparu trwy nifer o safleoedd ledled y ddinas. Trwy weithio ar y cyd â gwasanaethau tai a MDT...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd sy’n agored i niwed ac sydd ag anghenion tai. Rydym yn cefnogi pobl gan ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn gweithio gydag amrywiaeth o asiantaethau allanol i ddiwallu eu hanghenion cymorth a thai. Mae ein...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...

Swyddog Cymorth Maethu

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r boblogaeth gynyddol yng Nghaerdydd ac ymrwymiad Caerdydd i sicrhau bod plant a'u teuluoedd yn derbyn _dim ond y gorau_ wedi arwain at gyfleoedd o fewn y gwasanaeth maethu, Maethu Cymru Caerdydd.

Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain ac mae’n ymrwymedig i ddod yn _'Ddinas sy’n Dda i Blant'_ sy'n rhoi hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd ein polisïau a'n strategaethau. Rhieni sy’n cael y dylanwad mwyaf ar blant a’u dyfodol. Pan na fydd plant yn gallu aros yng ngofal eu rhieni biolegol yn ddiogel mwyach, rydym wedi ymrwymo i'w cefnogi i aros yng ngofal aelodau eu teulu. Yn ein barn ni, mae plant yn cyflawni’r canlyniadau gorau pan gânt eu cynorthwyo i dyfu a llwyddo o fewn eu teuluoedd eu hunain. Y gred hon arweiniodd at ddefnyddio’r dull _‘Ffocws ar _y Teulu’, sy’n ystyried y teulu cyfan ac yn cydlynu cymorth ar draws y gwasanaethau cyhoeddus, wedi’i deilwra i anghenion a chryfderau pob teulu.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o ymdrech Caerdydd i fod yn un o'r dinasoedd mwyaf bywiog a llwyddiannus yn y DU, sy'n rhoi plant yn gyntaf, gyda'r uchelgais o arwain y ffordd o ran datblygu arfer yng Nghymru, byddem yn falch iawn o glywed gennych.

**Am Y Swydd**
Rydym yn ceisio penodi Swyddog Cymorth Maethu i weithio o fewn ein Gwasanaeth Maethu gan Berthynas.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa mewn Gwaith Cymdeithasol?

Mae dod yn Swyddog Cymorth Maethu yn cynnig cyfle gwych i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghaerdydd.

Mae Maethu Cymru Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa, gan gynnwys secondiadau wedi'u hariannu ar gyfer gwahanol gyrsiau gradd a hyfforddiant ôl-raddedig.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gennych brofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc a’u gofalwyr, profiad o weithio gyda gweithwyr proffesiynol amlasiantaethol, sgiliau cynorthwyo ac agwedd hyblyg wrth i’r gwasanaeth ddatblygu.

Byddai dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth berthnasol ar gyfer maethu, gan gynnwys trosolwg o'r Rheoliadau Maethu a rhywfaint o wybodaeth am Arwyddion Diogelwch neu fodelau gweithio tebyg sy'n seiliedig ar gryfderau yn fuddiol.

Byddwch yn gallu diwallu anghenion cymorth unigolion, gan ddefnyddio systemau i gofnodi gwybodaeth a darparu cymorth. Byddwch yn gyfrifol am adolygu ansawdd gofal a sicrhau bod anghenion hyfforddi gofalwyr yn cael eu diwallu yn unol â fframweithiau hyfforddiant rheoleiddiol. Dylech fod yn barod i ddilyn hyfforddiant priodol i’ch cefnogi yn eich rôl a gallu gweithio mewn tîm.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a’r fanyleb person wrth ymgeisio am y swydd uchod.

Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02892