Swyddog Cyswllt Porth y Teulu

2 days ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Ynglŷn â’r Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gyfarwyddiaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cyswllt Porth y Teulu yng Ngwasanaeth Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd.

Mae’r gwasanaeth yn allweddol i ddarparu dull ‘dim drws anghywir’ y Cyngor i sicrhau bod plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn. Drwy gynnig cymorth ar y lefel ymyrraeth isaf, mae’r gwasanaeth hwn yn ceisio lleihau nifer y teuluoedd sydd angen ymyrraeth adferol, gan sicrhau bod pob teulu yn gallu cyflawni eu canlyniadau gorau.

**Ynglŷn â’r swydd**
Bydd deiliad y swydd hon yn gweithio fel rhan o’r Tîm Porth y Teulu (Pwynt Cyswllt Cyntaf e.e. ymholiadau dros y ffôn, y we ac e-bost) i gynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth fel rhan o’r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd.

Mae’r llinell ffôn ar agor o 8.30am i 5pm bob dydd, ac mae patrwm shifftiau ar waith i gyflenwi ar ran pobl eraill. Caiff patrymau shifft eu hadolygu yn ôl anghenion busnes.

Byddwn yn cynnig:

- Amgylchedd gweithio cyfeillgar a chefnogol.
- Cefnogaeth a goruchwyliaeth reolaidd i’ch cefnogi yn eich gwaith.
- Rhaglen hyfforddi eang a helaeth gyda chyfleoedd i hyfforddi mewn meysydd penodol.
- Mae ein systemau a thechnoleg yn galluogi ac yn hyrwyddo gweithio hybrid ac mae gan Gyngor Caerdydd amrywiaeth o bolisïau cefnogol ar gyfer ei gweithwyr.
- Cyfle i ddarparu gwasanaeth i fabanod, plant, pobl ifanc a’u rhieni/gofalwyr sy’n gwneud gwahaniaeth i’r rhai rydym ni yn cefnogi.

**Beth rydym am ei gael gennych chi**
Croesewir ceisiadau gan y rheiny sydd â’r gallu i ddangos empathi, yn ogystal â sgiliau rhyngbersonol, gwrando a chyfathrebu rhagorol i ddatblygu perthnasau effeithiol a rhoi cyngor cywir. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddelio’n brydlon a phriodol ag ymholiadau, gan nodi a lle bo'n bosibl, ateb anghenion pobl ar y pwynt cynharaf. Bydd yr unigolyn cywir yn gallu nodi ble mae unrhyw bryderon diogelu ac yn gallu ymgynghori a chydgysylltu â Gweithwyr Cymdeithasol â gweithwyr proffesiynol / asiantaethau partner eraill, yn ôl y gofyn.

Disgwyli'r ceisiadwyr llwyddiannus weithio'n effeitiol, gan deilio gyda nifer o alwadau ffôn, a'r gallu i blaenori a newid gyda anghenion ei llwyth gwaith. Bydd gennych y sgiliau i aros yn ddigynwrf dan bwysau a fod yn hunanddibynnol mewn hamgylcheddau brysur.

Bydd angen i’r ymgeisydd fod yn cyfarwydd gweithio gyda mapiau dros Caerdydd i darparu cyfeiriadau i proffesiynau a asiantaethau dros y dinas.

Bydd gwybodaeth helaeth a chyfredol o wasanaethau sy’n cefnogi teuluoedd, y gallu i weithio ar draws systemau gweinyddu a gwybodaeth ymarferol gadarn o feddalwedd Microsoft yn cyd-fynd â’ch gallu i flaenoriaethu llwythi gwaith.

**Gwybodaeth ychwanegol**
I gael rhagor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Jade Miles
07585211078 neu Laura Perriam 07870484726, Arweinyddau Tîm Porth y Teulu ar 02920 872054.

3 contract llawn amser parhaol ar gael.

Swydd llawn amser yw hon (37 awr yr wythnos). Mae tair swydd ar gael dan amodau yma.

Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Felly, er nad yw’n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, gan gynnwys:

- rhai sy’n 25 oed ac iau;
- pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant;
- pobl o’n cymunedau lleol, yn benodol unigolion anabl, gofalwyr a’r rheiny o gymuned Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a Phobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol Caerdydd;
- pobl sy’n gallu cyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Job Reference: PEO02274



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gyfarwyddiaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cyswllt Porth y Teulu yng Ngwasanaeth Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd. Mae’r gwasanaeth yn allweddol i ddarparu dull ‘dim drws anghywir’ y Cyngor i sicrhau bod plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn. Drwy...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r gwasanaeth, a enillodd Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn ddiweddar, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd i blant bach, plant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Drwy bartneriaethau ag ysgolion, cyflogwyr, cymunedau a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, mae Addewid Caerdydd yn ceisio sicrhau cyfleoedd sy'n creu uchelgais ac yn cyflwyno sgiliau i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ac sy’n eu cefnogi i symud ymlaen i Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant. Dilynwch Addewid Caerdydd ar Facebook,...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae swydd barhaol wedi dod ar gael gyda'r Tîm Cyswllt Lles.** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig sydd â sgiliau gofal cwsmeriaid rhagorol ymuno â'r Tîm Cyswllt Lles, gan ddarparu gwasanaeth budd-dal lles wyneb yn wyneb proffesiynol a chynghori ariannol i denantiaid Cyngor Caerdydd. Mewn ymateb i Covid-19, mae gwaith...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Swyddog Cyngor Digartrefedd yn y Gwasanaeth Dewisiadau Tai. Mae'r Gwasanaeth Dewisiadau Tai yn rhoi cyngor a chymorth i bobl ag anghenion tai yng Nghaerdydd. **Ynglŷn â’r Swydd** Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd hon gyflawni nifer o swyddi o fewn y gwasanaeth gan gynnwys cynorthwyo â gwaith y Swyddogion Tai gan roi cyngor...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Gofal Plant...


  • Cardiff, United Kingdom CARDIFF COUNTY COUNCIL Full time

    Cardiff Family Advice and Support is an innovative and progressive service within the directorate of Children Services in Cardiff Council. Recently accredited with a Families First Quality Aware, the service provides high quality information, advice and assistance for infants, children, young people, families and professionals across the city.The service...


  • Cardiff, United Kingdom CARDIFF COUNTY COUNCIL Full time

    Cardiff Family Advice and Support is an innovative and progressive service within the directorate of Children Services in Cardiff Council. Recently accredited with a Families First Quality Aware, the service provides high quality information, advice and assistance for infants, children, young people, families and professionals across the city. The service...


  • Cardiff, United Kingdom CARDIFF COUNTY COUNCIL Full time

    Job DescriptionCardiff Family Advice and Support is an innovative and progressive service within the directorate of Children Services in Cardiff Council. Recently accredited with a Families First Quality Aware, the service provides high quality information, advice and assistance for infants, children, young people, families and professionals across the...

  • Swyddog Hyb

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. Mae ein hybiau Cymunedol yn cynnig cyfle gwych i ymgeiswyr...