Swyddog Cyswllt Porth I'r Teulu
6 days ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r gwasanaeth, a enillodd Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn ddiweddar, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd i blant bach, plant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ledled y ddinas.
Mae'r gwasanaeth yn defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar y teulu, yn seiliedig ar gryfderau, ac yn gynhwysol i nodi’r gefnogaeth fwyaf priodol a fydd yn bodloni anghenion unigolion a’u teuluoedd. Mae'r timau o fewn y gwasanaeth yn cydweithio gydag ystod o weithwyr proffesiynol a phartneriaid i sicrhau bod cefnogaeth ar y lefel iawn ac ar yr adeg iawn.
**Am Y Swydd**
Rydym am benodi Arweinydd Tîm Porth Teulu Gradd 7 a fydd yn arwain, yn datblygu ac yn cefnogi tîm o Swyddogion Cyswllt ar y cyd i ddarparu gwybodaeth a chyngor o ansawdd uchel ynglŷn ag ystod eang o faterion lles sy'n effeithio ar deuluoedd ledled y ddinas. Bydd deiliad y swydd yn cydgysylltu ac yn cyfathrebu gydag ystod o ddefnyddwyr gwasanaeth, gan gynnwys teuluoedd a gweithwyr proffesiynol, a bydd hefyd yn gweithio ochr yn ochr â'r Rheolwr Gwasanaeth i gefnogi datblygiad parhaus ac ansawdd y gwasanaethau.
Byddwn yn cynnig y canlynol i chi:
- Amgylchedd gwaith cyfeillgar a chefnogol.
- Cefnogaeth a goruchwyliaeth reolaidd i'ch cefnogi yn eich gwaith.
- Rhaglen hyfforddiant eang a helaeth gyda chyfleoedd i hyfforddi mewn meysydd penodol.
- Systemau a thechnoleg sy’n galluogi ac yn hyrwyddo gweithio hybrid.
- Cyfle i ddarparu gwasanaeth i blant bach, plant, pobl ifanc a’u rhieni/gofalwyr sy’n gwneud gwahaniaeth iddyn nhw a’u lles.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am bobl â’r nodweddion canlynol:
- Brwdfrydedd, cymhelliant a phositifrwydd.
- Gwydnwch a gallu ymateb yn gadarnhaol dan bwysau.
- Brwd dros wneud gwahaniaeth i fywydau teuluoedd ledled y ddinas.
- Profiad o reoli staff a gweithio o fewn tîm.
- Gallu i arwain drwy esiampl, gan arddangos tegwch ac uniondeb.
- Gallu i gyfoethogi perfformiad personol a pherfformiad y staff trwy roi adborth adeiladol a chynnig cyfleoedd datblygu creadigol.
- Profiad amlwg o feithrin cydberthnasau gwaith effeithiol gydag unigolion a grwpiau amrywiol.
- Dealltwriaeth gynhwysfawr o anghenion cymhleth plant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
- Gallu amlwg i greu prosesau ysgrifenedig a chyfarwyddiadau gwaith er mwyn darparu’r gwasanaeth.
- Gwybodaeth ymarferol gynhwysfawr am becyn Microsoft Office ac am systemau rheoli achosion.
Bydd yr unigolyn iawn hefyd yn gallu nodi a yw unigolyn mewn perygl ac yn gallu ymgynghori a chydgysylltu â Gweithwyr Cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol neu asiantaethau partner eraill yn ôl y gofyn.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
I gael rhagor o wybodaeth neu sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â Sarah Manley, Rheolwr y Porth Teuluoedd a Chymorth Cynnar ar 07790 939549.
Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Felly, er nad yw’n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, gan gynnwys y rheiny:
- Dan 25 oed.
- Nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant.
- O’n cymunedau lleol gan gynnwys yn enwedig unigolion anabl, gofalwyr a’r rheiny o gymunedau Pobl Ddu a Lleiafrifol Ethnig a LHDT+ Caerdydd.
- Sy’n gallu cyfathrebu’n llawn yn y Gymraeg
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PEO02988
-
Swyddog Cyswllt Porth y Teulu
4 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â’r Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gyfarwyddiaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cyswllt Porth y Teulu yng Ngwasanaeth Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd. Mae’r gwasanaeth yn allweddol i ddarparu dull ‘dim drws anghywir’ y Cyngor i sicrhau bod plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn....
-
Swyddog Cyswllt Porth Teulu
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gyfarwyddiaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cyswllt Porth y Teulu yng Ngwasanaeth Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd. Mae’r gwasanaeth yn allweddol i ddarparu dull ‘dim drws anghywir’ y Cyngor i sicrhau bod plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn. Drwy...
-
Swyddog Cyswllt Ysgolion X2
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Drwy bartneriaethau ag ysgolion, cyflogwyr, cymunedau a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, mae Addewid Caerdydd yn ceisio sicrhau cyfleoedd sy'n creu uchelgais ac yn cyflwyno sgiliau i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ac sy’n eu cefnogi i symud ymlaen i Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant. Dilynwch Addewid Caerdydd ar Facebook,...
-
Swyddog Cyswllt Lles
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae swydd barhaol wedi dod ar gael gyda'r Tîm Cyswllt Lles.** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig sydd â sgiliau gofal cwsmeriaid rhagorol ymuno â'r Tîm Cyswllt Lles, gan ddarparu gwasanaeth budd-dal lles wyneb yn wyneb proffesiynol a chynghori ariannol i denantiaid Cyngor Caerdydd. Mewn ymateb i Covid-19, mae gwaith...
-
Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Gofal Plant...
-
Swyddog Cyngor Ar Ddigartrefedd
6 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Swyddog Cyngor Digartrefedd yn y Gwasanaeth Dewisiadau Tai. Mae'r Gwasanaeth Dewisiadau Tai yn rhoi cyngor a chymorth i bobl ag anghenion tai yng Nghaerdydd. **Ynglŷn â’r Swydd** Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd hon gyflawni nifer o swyddi o fewn y gwasanaeth gan gynnwys cynorthwyo â gwaith y Swyddogion Tai gan roi cyngor...
-
Family Gateway Team Leader
1 week ago
Cardiff, United Kingdom CARDIFF COUNTY COUNCIL Full timeJob DescriptionCardiff Family Advice and Support is an innovative and progressive service within the directorate of Children Services in Cardiff Council. Recently accredited with a Families First Quality Aware, the service provides high quality information, advice and assistance for infants, children, young people, families and professionals across the...
-
Family Gateway Team Leader
1 week ago
Cardiff, United Kingdom CARDIFF COUNTY COUNCIL Full timeCardiff Family Advice and Support is an innovative and progressive service within the directorate of Children Services in Cardiff Council. Recently accredited with a Families First Quality Aware, the service provides high quality information, advice and assistance for infants, children, young people, families and professionals across the city.The service...
-
Family Gateway Team Leader
1 week ago
Cardiff, United Kingdom CARDIFF COUNTY COUNCIL Full timeCardiff Family Advice and Support is an innovative and progressive service within the directorate of Children Services in Cardiff Council. Recently accredited with a Families First Quality Aware, the service provides high quality information, advice and assistance for infants, children, young people, families and professionals across the city. The service...
-
Swyddog Atebion Llety
4 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig gyda sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol i ymuno â'n gwasanaeth Pwynt Cyswllt Cyntaf rhyddhau o’r Ysbyty, o fewn Gwasanaethau Byw'n Annibynnol, fel swyddog atebion llety. **Am Y Swydd** Mae’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol yn cynorthwyo oedolion sy’n agored i niwed i fyw...