Swyddog Cyswllt Lles

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae swydd barhaol wedi dod ar gael gyda'r Tîm Cyswllt Lles.**

Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig sydd â sgiliau gofal cwsmeriaid rhagorol ymuno â'r Tîm Cyswllt Lles, gan ddarparu gwasanaeth budd-dal lles wyneb yn wyneb proffesiynol a chynghori ariannol i denantiaid Cyngor Caerdydd.

Mewn ymateb i Covid-19, mae gwaith wedi newid dros dro i fod o gartref, gyda gweithio unigol achlysurol o Hybiau. Fodd bynnag, mae'r swydd fel arfer wedi'i lleoli'n bennaf o Neuadd Y Sir Caerdydd, gyda'r rôl yn gofyn am weithio unigol mewn Hybiau a chartrefi tenantiaid.
**Am Y Swydd**
Mae’r rôl yn cynnwys cynyddu incwm i'r eithaf, cyngor cyllidebu, cyngor ar fudd-daliadau a helpu tenantiaid i sefydlu cytundebau fforddiadwy i dalu rhent, y dreth gyngor a chyfleustodau.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gennych wybodaeth arbenigol am y Ddeddf Diwygio Lles a’r opsiynau sydd ar gael i helpu’r rheiny y mae’n effeithio arnynt.

Bydd gennych brofiad o weithio wyneb yn wyneb gyda chwsmeriaid a byddwch yn ymrwymedig i roi gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a TG da a byddwch yn gallu datrys anghydfod mewn modd cadarnhaol ac adeiladol.

Byddwch yn gweithio'n dda mewn tîm, yn rheoli amser yn rhagorol ac yn weithiwr hyblyg.

Byddai profiad o weithio ym maes budd-daliadau neu gyngor ariannol o fantais sylweddol ond nid yw'n hanfodol gan y darperir hyfforddiant.

Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn benodol y Gymraeg, Somalieg, Arabeg neu Bwyleg, o fantais.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
O ganlyniad i’r amgylchiadau COVID-19 presennol, bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir a/neu os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd ar ôl darllen y Disgrifiad Swydd, cysylltwch â Chris Tovey ar 029 20537397

Bydd angen gweithio gyda’r nos ac ar y penwythnos yn achlysurol.

Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r swydd hon yn addas i’w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Job Reference: PEO01689



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Drwy bartneriaethau ag ysgolion, cyflogwyr, cymunedau a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, mae Addewid Caerdydd yn ceisio sicrhau cyfleoedd sy'n creu uchelgais ac yn cyflwyno sgiliau i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ac sy’n eu cefnogi i symud ymlaen i Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant. Dilynwch Addewid Caerdydd ar Facebook,...

  • Swyddog Hyb

    3 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. Mae ein hybiau Cymunedol yn cynnig cyfle gwych i ymgeiswyr...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â’r Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gyfarwyddiaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cyswllt Porth y Teulu yng Ngwasanaeth Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd. Mae’r gwasanaeth yn allweddol i ddarparu dull ‘dim drws anghywir’ y Cyngor i sicrhau bod plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn....


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gyfarwyddiaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cyswllt Porth y Teulu yng Ngwasanaeth Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd. Mae’r gwasanaeth yn allweddol i ddarparu dull ‘dim drws anghywir’ y Cyngor i sicrhau bod plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn. Drwy...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig gyda sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol i ymuno â'n gwasanaeth Pwynt Cyswllt Cyntaf rhyddhau o’r Ysbyty, o fewn Gwasanaethau Byw'n Annibynnol, fel swyddog atebion llety. **Am Y Swydd** Mae’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol yn cynorthwyo oedolion sy’n agored i niwed i fyw...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer unigolyn ymroddedig, gyda sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i ymuno â'n Tîm Ymgysylltu Iechyd a Lles. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cydlynu ac yn helpu i ddarparu rhaglenni gwaith iechyd a lles e.e. Dementia, Gofalwyr Di-dâl, HIV, dinas Sy'n Dda i Bobl Hŷn ac ati. Byddwch...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r gwasanaeth, a enillodd Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn ddiweddar, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd i blant bach, plant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Swyddog Cyngor Digartrefedd yn y Gwasanaeth Dewisiadau Tai. Mae'r Gwasanaeth Dewisiadau Tai yn rhoi cyngor a chymorth i bobl ag anghenion tai yng Nghaerdydd. **Ynglŷn â’r Swydd** Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd hon gyflawni nifer o swyddi o fewn y gwasanaeth gan gynnwys cynorthwyo â gwaith y Swyddogion Tai gan roi cyngor...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae dwy rôl barhaol ar gyfer Swyddog Gorfodi Sifil Gradd 5 wedi codi yn y Tîm Gorfodi Parcio Sifil. **Am Y Swydd** Bydd deiliad/deiliaid y swydd yn gyfrifol am y canlynol: - Patrolio’r ardaloedd lle mae mannau parcio ar y stryd ac oddi ar y stryd ar waith ar draws y ddinas, yn unol â’r Strategaeth Orfodi a’r Rota Waith. - Nodi...