Current jobs related to Swyddog Cyfathrebu - Cardiff - Samaritans


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig gyda sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol i ymuno â'n gwasanaeth Pwynt Cyswllt Cyntaf rhyddhau o’r Ysbyty, o fewn Gwasanaethau Byw'n Annibynnol, fel swyddog atebion llety. **Am Y Swydd** Mae’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol yn cynorthwyo oedolion sy’n agored i niwed i fyw...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Swyddog Cyngor Digartrefedd yn y Gwasanaeth Dewisiadau Tai. Mae'r Gwasanaeth Dewisiadau Tai yn rhoi cyngor a chymorth i bobl ag anghenion tai yng Nghaerdydd. **Ynglŷn â’r Swydd** Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd hon gyflawni nifer o swyddi o fewn y gwasanaeth gan gynnwys cynorthwyo â gwaith y Swyddogion Tai gan roi cyngor...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y tîm Gorfodi Traffig sy’n Symud ar gyfer swyddog Gorfodi Traffig sy’n Symud. **Am Y Swydd** Prif swyddogaeth y swydd yw gweithredu offer camerâu gorfodi, monitro a chofnodi yn y swyddfa parcio a cherbydau gorfodi symudol, er mwyn gorfodi rheoliadau parcio a thraffig perthnasol, i wneud...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd agored i niwed sydd angen tai. Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. **Ynglŷn â’r swydd** Swydd dros dro yw hon, yn cwmpasu cyfnod mamolaeth tan 31 Gorffennaf 2025. Mae'r tîm Llety â Chymorth i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae dau gyfle llawn amser wedi dod ar gael gyda Caerdydd ar Waith. Mae cyfle cyffrous ar gyfer unigolyn ymrwymedig sydd meddu ar sgiliau gofal cwsmeriaid gwych i ymuno â Caerdydd ar Waith. Caerdydd ar Waith yw’r asiantaeth recriwtio fewnol ar gyfer Cyngor Caerdydd. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio ar Raglen...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd agored i niwed sydd angen tai. Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. **Am Y Swydd** Mae'r tîm Llety â Chymorth i deuluoedd wedi'i leoli mewn 4 ardal yn y ddinas sef Trelái, Gabalfa, Grangetown ac...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaeth Swyddogion Iechyd a Diogelwch Ysgolion yn cynnig gwasanaeth cymorth proffesiynol i Benaethiaid i helpu i reoli iechyd a diogelwch yn eu hysgolion. **Am Y Swydd** Mae angen Swyddogion Iechyd a Diogelwch profiadol a deinamig i ymuno â’r tîm. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn rhoi cyngor a chymorth Iechyd a Diogelwch...

  • Swyddog Hyb

    6 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Bydd gofyn i chi gynnal Cyfweliadau gyda chwsmeriaid sy'n dymuno ymuno â'r rhestr aros tai, gan eu cynghori ar yr holl opsiynau tai sydd ar gael yn ogystal â chynnal cyfweliadau cofrestru tenantiaeth. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo â’r gwaith o gydlynu ystod eang o wasanaethau’r cyngor a bydd gofyn iddo gydweithio ag...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cymorth Busnes Parhaol llawn-amser (37 awr yr wythnos) yn yr Uned Cynnal a Chadw Ymatebol. **Mae’r cyflog hwn yn destun yr Ychwanegiad Cyflog Byw sy’n codi’r gyfradd gyflog sylfaenol i £12.00 yr awr. Bydd yr ychwanegiad yn cael ei adolygu bob mis...

Swyddog Cyfathrebu

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Samaritans Full time

**Swyddog Cyfathrebu**:
Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu i ymuno â’r Samariaid yng Nghymru. Byddwch yn rhoi cymorth cyfathrebu i Samariaid Cymru, gan chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gynllunio a chyflawni prosiectau allweddol. Byddwch hefyd yn cefnogi agwedd Cymru ar ymgyrchoedd y Samariaid, y rhai sy’n benodol i Gymru a’r rhai lle ceir cyfraniad gan Gymru i ymgyrch ehangach, gan gysylltu â chydweithwyr yng Nghymru ac yn y sefydliad ehangach.

Mae’n adeg wych i ymuno â’r Samariaid gan ein bod ni’n gweithredu cynllun cyflawni strategol 2-flynedd Samariaid

Cymru ar hyn o bryd.

Mae’r swydd yn un amrywiol. Un diwrnod gallech chi fod yn drafftio datganiad i’r wasg a’r nesaf yn cefnogi cangen leol gyda digwyddiad neu’n ein helpu ni i gyflawni ein galwadau polisi ehangach am newid.

Rydym yn sefydliad hyblyg a chynhwysol. Mae ein tîm yn tyfu a byddwch yn cyflawni mwy o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth, polisi a chodi arian yng Nghymru. Rydym yn mynd o nerth i nerth a bydd y rôl hon yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a hirhoedlog i sicrhau y caiff llai o fywydau eu colli i hunanladdiad.
- £27,000-£30,000 y flwyddyn a buddion
- Swydd barhaol
- Amser llawn (35 awr yr wythnos)
- Gweithio hybrid: Gweithio’n rheolaidd yn swyddfa Caerdydd a gweithio gartref
- Gweithio yn y swyddfa: Mae’r tîm yn gweithio’n aml o’r swyddfa, unwaith neu ddwywaith yr wythnos
- Rydym ni’n angerddol dros weithio hyblyg. Siaradwch â ni am beth fyddai’n well gennych chi

**Samariaid yng Nghymru**

Ymunwch â thîm o staff cyfeillgar, cefnogol ac uchelgeisiol yng Nghymru. Mae ein swyddfa yng nghanol Caerdydd (Heol yr Eglwys Gadeiriol); swyddfa mewn adeilad a rennir, yn agos i siopau. Mae oddeutu 600 o wirfoddolwyr gan y Samariaid yn gweithio ar draws 10 o leoliadau yng Nghymru. Mae’r gwirfoddolwyr hyn yn ymateb i alwadau am gymorth bob dydd o’r wythnos dros y ffôn, drwy e-bost, negeseuon testun a wyneb yn wyneb yn ein canghennau neu mewn digwyddiadau ledled Cymru. Rydym hefyd yn gweithio gyda’r cyhoedd a’r cyfryngau i roi gwybod iddynt am y Samariad ac esbonio sut allwn ni helpu pobl i ddod o hyd i’w ffordd eu hunain ymlaen.

Rydym yn estyn allan i grwpiau sydd â risg uchel o hunanladdiad a thrallod emosiynol. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill i gyflawni newid yn lleol a llywio penderfyniadau polisi sy’n cael effaith ar risg hunanladdiad.

**Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person yma**

**Buddion Cyflogeion**

Rydym yn cynnig buddion bendigedig gan gynnwys gweithio hyblyg, polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd, a hyfforddiant i gefnogi eich datblygiad. Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau blynyddol, a gwyliau banc, a byddwn yn talu cyfraniad cyfatebol i’ch pensiwn hyd at 5%. Gallwch hawlio arian yn ôl trwy Gynllun Arian Iechyd ac opsiynau llesiant gan gynnwys tanysgrifiad am ddim i Headspace a chyfrif PerkBox.

**Ymgeisio**

Mae’r Samariaid wedi ymrwymo’n llwyr i gynhwysiant ac amrywiaeth, ac i adeiladu diwylliant ac amgylchedd lle caiff pawb eu gwerthfawrogi fel unigolion unigryw. Mae croeso cynnes i geisiadau oddi wrth amrywiaeth o bobl â chefndiroedd a phrofiadau gwahanol. Rydym wedi ymrwymo i wneud ein prosesau recriwtio yn hygyrch i bawb ac rydym yn hyblyg o ran sut yr ydym yn derbyn gwybodaeth. Os hoffech ymgeisio mewn fformat gwahanol neu adael inni wybod sut allwn ni eich cefnogi chi i fod y gorau allwch chi fod, cysylltwch â’r tîm Pobl.

Os yw’r cyfle hwn yn ddelfrydol ichi, dylech ymgeisio. Byddwn yn gofyn i chi lanlwytho eich CV a llythyr eglurhaol yn nodi eich sgiliau a phrofiad trosglwyddadwy. Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw hanner nos ar 27 Awst. Caiff cyfweliadau fideo eu cynnal ar 5 a 6 Medi.