Rheolwr Prosiect
6 days ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i gefnogi Strategaeth Ddata a Fframwaith Cynllunio a Pherfformiad Cyngor Caerdydd drwy gyflwyno cyfres o brosiectau gwybodaeth busnes. Nod y prosiectau hyn yw defnyddio data fel ased strategol ac ymgorffori penderfyniadau a arweinir gan dystiolaeth ar draws y sefydliad.
**Am Y Swydd**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'r Tîm Perfformiad a Mewnwelediad o fewn Perfformiad a Phartneriaethau. Byddwch yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gynllunio a chydlynu gweithgareddau prosiect, cefnogi llywodraethu prosiect cryf, a chynnal dogfennau prosiect gofynnol. Byddwch yn rhan o dîm brwdfrydig, ymroddedig a chefnogol iawn, gydag ymrwymiad i gyflawni gwaith o ansawdd uchel.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, sy'n gallu cyflwyno gwybodaeth gymhleth i amrywiaeth o gynulleidfaoedd. Mae'n rhaid bod gennych hanes o gyflawni prosiectau'n llwyddiannus, gyda phrofiad o arwain timau traws-swyddogaethol. Byddwch yn drefnus ac yn gallu rheoli eich tasgau eich hun yn effeithlon, a thasgau eraill, gan flaenoriaethu ac amserlennu gwaith yn ôl yr angen.
Bydd angen bod yn hyderus wrth ddefnyddio TGCh, a byddai’n fanteisiol bod yn gyfarwydd â meddalwedd mwy arbenigol, fel Microsoft Visio a Microsoft Project.
Yn bwysicaf oll, rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sy'n frwd dros wella gwasanaethau cyhoeddus ac yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm effeithiol.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae hon yn swydd barhaol.
Mae’r swydd wag hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Am y gofynion llawn ar gyfer y rôl hon, darllenwch drwy'r Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person. Wrth gwblhau eich cais, rhan Gwybodaeth Ategol y cais yw’r rhan bwysicaf. Rhowch sylw manwl iddi. Yn y rhan hon byddwch yn dweud pam rydych chi’n addas ar gyfer y swydd ac asesir eich cais yn ôl meini prawf y Fanyleb Person.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal yn rhithiwr gan ddefnyddio Microsoft Teams.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PEO02878
-
Rheolwr Prosiect
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Social Care Wales Full time**Rheolwr Prosiect** Caerdydd/Llanelwy (gweithio hybrid) **Amdanom ni** Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth genedlaethol ac arbenigedd mewn gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr. I wneud hyn, rydym yn...
-
Rheolwr Prosiect
2 days ago
Cardiff, Cardiff, United Kingdom Gofal Cymdeithasol Cymru Social Care Wales Full timeRheolwr ProsiectCaerdydd neu Landudno (gweithio hybrid)Amdanom NiMae Gofal Cymdeithasol Cymru'n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, a'u teuluoedd a'u gofalwyr.I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a...
-
Rheolwr Prosiect
3 days ago
Cardiff, United Kingdom Social Care Wales Full timeRheolwr Prosiect Caerdydd neu Landudno (gweithio hybrid) Amdanom Ni Mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, a’u teuluoedd a’u gofalwyr. I wneud hyn, rydym yn arwain ar...
-
Gweinyddwr Prosiect
4 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time**SWYDD DDISGRIFIAD A MANYLEB PERSON** **SWYDD**:Gweinyddwr Prosiect** **LLEOLIAD**:TEL** **YN ATEBOL I’R**:Pennaeth TEL** **YN GYFRIFOL AM**:Gynnig gwasanaeth gweinyddol i’r Tîm TEL a phrosiectau eraill ar draws y coleg** **CYFLOG**:£19,979 - £21,399 y flwyddyn** **pro rata** **CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL** - Cynorthwyo Coleg Caerdydd a’r Fro...
-
Swyddog Prosiect
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Tîm Gwastraff Masnach Cyngor Caerdydd yn cynnig gwasanaethau casglu gwastraff cystadleuol o ansawdd uchel i fusnesau a sefydliadau lleol. Mae'r tîm yn cefnogi dros 3000 o gwsmeriaid drwy ddarparu gwastraff wedi'i drefnu neu ad hoc, gan gynnwys llogi sgipiau, clirio gwastraff swmpus a chasgliadau biniau a bagiau. **Am Y Swydd** Bydd...
-
Project Manager
12 hours ago
Cardiff, Cardiff, United Kingdom Gofal Cymdeithasol Cymru Social Care Wales Full timeRheolwr ProsiectCaerdydd neu Landudno (gweithio hybrid)Amdanom NiMae Gofal Cymdeithasol Cymru'n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, a'u teuluoedd a'u gofalwyr.I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a...
-
Rheolwr Gweithredol
2 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Datblygu Cyngor Caerdydd. Rydym yn ymateb yn uniongyrchol i angen tai Caerdydd drwy weithredu rhaglen adeiladu newydd fawr lwyddiannus sydd â’r gallu i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd a buddsoddi'n sylweddol yn ein cymunedau presennol. Mae gennym Gyllideb Cyfalaf gwerth dros £950 miliwn a...
-
Rheolwr RHaglen
2 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae ein tîm Rhaglen MIS Addysg wedi ymrwymo i lywio trawsnewid digidol ar lefel strategol ar draws y Gyfarwyddiaeth Addysg, gan gefnogi blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor. Ein nod yw gwella gwasanaethau drwy wella systemau rheoli gwybodaeth a galluoedd digidol, gan sicrhau bod allbynnau addysg yn cael eu darparu’n effeithlon. Mae'r...
-
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig ymuno â'r Tîm Cyflawni Partneriaethau i gynorthwyo nifer o brosiectau gan gynnwys y Rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin. Mae'r gronfa hon yn rhan o agenda Codi'r Gwastad Llywodraeth San Steffan i hybu cynhyrchiant, swyddi a safonau byw, adfer ymdeimlad gymuned, balchder lleol a pherthyn a...
-
Rheolwr Cyflawni
2 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Oherwydd ail-strwythuro ardal gwasanaeth mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw (DAChC) newydd am Reolwr Cyflawni cymwys i arwain, rheoli a datblygu tîm cyflenwi sy'n cynnwys Rheolwyr Prosiect, Syrfewyr Meintiau a thîm cynnal a chadw DLO. Mae'r Tîm hwn sydd newydd ei sefydlu yn gyfrifol am...