Swyddog Contractau a Datblygu Gwasanaethau

1 day ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae gan Dîm Comisiynu Gwasanaethau Oedolion Cyngor Caerdydd rôl allweddol wrth brynu gwasanaethau a rheoli a monitro'r gwasanaethau sy'n cefnogi oedolion ag anghenion Gofal Cymdeithasol yn gyffredinol, ar draws swyddogaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn prynu gwerth tua £140 miliwn o wasanaethau allanol i ddinasyddion Caerdydd.

Prif flaenoriaethau'r Gwasanaeth yw:
Darparu gwasanaethau cymdeithasol o’r ansawdd uchaf posibl
- Integreiddio gwasanaethau iechyd a chymdeithasol
- Goresgyn y rhwystrau a chydlynu gwasanaethau yn y Gymuned ac ar draws y Cyngor
- Sicrhau gwerth am arian i'r Cyngor a thrigolion Caerdydd cymaint â phosibl

Bydd deiliad y swydd yn darparu swyddogaeth gomisiynu a chymorth rheoli contractau effeithiol o fewn y Gwasanaethau i Oedolion fel rhan o Dîm Contractau a Chomisiynu cyffredinol

**Am Y Swydd**
Bydd y Swyddog Contractau a Datblygu Gwasanaethau yn gweithio o fewn y Tîm Contractau a Chomisiynu Gwasanaethau Oedolion.

Bydd y rôl yn gyfrifol am y canlynol:

- Sicrhau bod blaenoriaethau comisiynu gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu cyflawni'n effeithiol drwy adolygu a datblygu systemau / prosesau a safonau gweithredu proffesiynol.
- Galluogi a chefnogi darparwyr a gomisiynir i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau cytundebol a chytundebau lefel gwasanaeth
- Ochr yn ochr â'r Rheolwr Tîm, gan arwain ar sicrhau ansawdd a monitro canlyniadau ystyrlon a chynaliadwy ar gyfer darparu gofal cymdeithasol gan ddarparwyr a gomisiynir yn allanol
- Bod yn gyswllt allweddol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol (e.e. Darparwyr, Defnyddwyr Gwasanaethau, Gweithwyr Cymdeithasol, Arolygiaeth Gofal Cymru, yr Heddlu, Iechyd) i sicrhau bod cydymffurfiaeth gytundebol a'r canlyniadau gorau yn cael eu sicrhau i drigolion Caerdydd a'r Awdurdod Lleol.
- Cyfrannu at gyflawni amcanion strategol a gweithredol blaenoriaethau'r Cyngor a'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae pobl leol (gan gynnwys y rhai sy'n agored i niwed) yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn y cyfnodau mwyaf heriol.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus eithriadol yng Nghaerdydd, ac sydd â phrofiad a gwybodaeth o gomisiynu a darparu gwasanaethau'n effeithiol ar gyfer y Gwasanaethau i Oedolion. Bydd gan ddeiliad y swydd brofiad o fonitro contractau a rheoli perfformiad, a dealltwriaeth o gomisiynu, caffael a deddfwriaeth iechyd a gofal cymdeithasol.

Byddai'r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig y Gymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol yn fantais.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03950



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Ardal yn gydweithrediad caffael newydd ar draws y pedwar awdurdod lleol sy'n gwasanaethu pobl a chymunedau Caerdydd, Sir Fynwy, Torfaen a Bro Morgannwg. Caiff mwy na £1 biliwn ei wario bob blwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith yn y pedwar awdurdod. **Am Y Swydd** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n Tîm Strategaeth a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Comisiynu Gwasanaethau Plant yng Nghyngor Caerdydd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau a gomisiynir yn allanol i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd sy’n hysbys i, neu sy'n ymwneud â, Gwasanaethau Plant Caerdydd. Mae'r gwasanaeth wedi ymrwymo i weithio gyda'r farchnad a'i datblygu i gynyddu nifer ac ansawdd y gwasanaethau sydd...


  • Cardiff, United Kingdom Social Care Wales Full time

    **Swyddog Cynllunio'r Gweithlu** Caerdydd neu Lanelwy (gweithio hybrid) **Amdanom ni** Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth genedlaethol ac arbenigedd mewn gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr. I wneud...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i helpu i gyflawni arferion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor a’i helpu i ddatblygu yn barod ar gyfer cam nesaf ein hymateb i ddarparu gwasanaethau i’r dinasyddion yr ydym yma i’w helpu. Dewch i ymuno â thîm sy’n tyfu a datblygu drwy weithio ochr yn ochr â...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Comisiynu Gwasanaethau Plant yng Nghyngor Caerdydd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau a gomisiynir yn allanol i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd sy’n hysbys i, neu sy'n ymwneud â, Gwasanaethau Plant Caerdydd. Mae'r gwasanaeth wedi ymrwymo i weithio gyda'r farchnad a'i datblygu i gynyddu nifer ac ansawdd y gwasanaethau sydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) Caerdydd yn bartneriaeth amlasiantaethol sydd ar flaen y gad o ran datblygu ymyriadau arloesol i blant a phobl ifanc 10-17 oed sydd wedi troseddu neu mewn perygl o droseddu. **Am Y Swydd** Rydym yn chwilio am rywun i lenwi’r swydd ganlynol yn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) - Swyddog...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Nhîm Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor i helpu i gyflawni arferion Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor a’i helpu i ddatblygu yn barod ar gyfer cam nesaf ein hymateb i ddarparu gwasanaethau i’r dinasyddion yr ydym yma i’w helpu. Dewch i ymuno â thîm sy’n tyfu a datblygu drwy weithio ochr yn ochr â...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **YNGLŶN Â'R GWASANAETH** Mae gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol sy'n darparu llety, cyngor a chymorth i bobl sengl agored i niwed sy'n wynebu digartrefedd ac sydd ag ystod o anghenion cymorth. Mae hyn yn cael ei ddarparu trwy nifer o safleoedd ledled y ddinas. Trwy weithio ar y cyd â gwasanaethau tai a MDT...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Tîm Trafnidiaeth Teithwyr yn dîm bach o 9 swyddog sy'n rheoli pob agwedd ar ofynion Trafnidiaeth Teithwyr y Cyngor, gan gynnwys trafnidiaeth brif ffrwd o’r cartref i’r ysgol, Trafnidiaeth Anghenion Addysgol Ychwanegol, trafnidiaeth y Gwasanaethau Plant ac Oedolion ac unrhyw drafnidiaeth ad-hoc y mae’r cyngor ei hangen. Mae'r...