Rheolwr Gwasanaethau Llety a Reolir
3 days ago
**Ynglŷn â'r Gwasanaeth**
Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol:
- Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol
- Gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw
- Gwasanaethau Cymorth
Mae'r gwasanaeth yn ffordd newydd o fodloni anghenion y rheiny sydd angen llety, gan greu cyfle cyffrous i unigolion ymuno â'r tîm wrth i'r gwasanaeth ddatblygu a thyfu yn y dyfodol.
**Ynglŷn â’r swydd**
Rydym am recriwtio Rheolwr Gwasanaeth Llety a Reolir.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu’r Gwasanaeth Llety a Reolir yn weithredol a bydd ganddo gyfrifoldeb rheoli llinell dros dîm o staff.
Bydd y Rheolwr Gwasanaethau Llety a Reolir yn gyfrifol am:
Reoli gwasanaeth Llety a Reolir y Cyngor, sy'n cynnig llety ar draws nifer o safleoedd.
Rheoli a chydlynu iechyd a diogelwch y safleoedd Llety a Reolir a gwasanaethau llety â chymorth eraill.
Lletya defnyddwyr gwasanaeth, gydag amrywiaeth o aelodau o staff cymorth a rheoli.
Rheoli cyllideb y gwasanaeth.
Arwain ar ddatblygu llety a safleoedd newydd.
**Yr Hyn Rydym yn ei Ddisgwyl Gennych Chi**
Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus allu dangos profiad sylweddol o reoli safleoedd Llety a dylai fod ganddo ddealltwriaeth gadarn o ddarparu Gwasanaethau Cymorth o fewn cyd-destun Amlddisgyblaethol.
Byddwch yn berson llawn cymhelliant, gan ddangos ymrwymiad i'r gwasanaeth gyda'r gallu i feithrin perthynas gadarnhaol â sefydliadau partner.
Byddai profiad o reoli iechyd a diogelwch mewn adeiladau preswyl neu amgylchedd tebyg o fantais.
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gynnal a datblygu ei wybodaeth am ddeddfwriaeth a chyflwyno mentrau a gweithdrefnau newydd i hyrwyddo safonau ar draws y gwasanaeth.
**Gwybodaeth ychwanegol**
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Bydd y rôl hon yn rhan o rota ar alw, y tu allan i oriau swyddfa arferol.
Mae trwydded yrru ddilys a llawn, a defnydd o’ch cerbyd eich hun yn un o ofynion hanfodol y swydd hon.
Dylai ymgeiswyr mewnol sy’n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael caniatâd cyn ymgeisio trwy lenwi ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y canlynol sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau: y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig perthnasol, nad yw ar raddfa is na RhG2, neu, yn achos staff ysgolion, y Pennaeth/Corff Llywodraethu.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Job Reference: PEO02736
-
Swyddog Llety Wedi'i Reoli
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...
-
Uwch Swyddog Llety â Chymorth
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**YNGLŶN Â'R GWASANAETH** Mae gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol sy'n darparu llety, cyngor a chymorth i bobl sengl agored i niwed sy'n wynebu digartrefedd ac sydd ag ystod o anghenion cymorth. Mae hyn yn cael ei ddarparu trwy nifer o safleoedd ledled y ddinas. Trwy weithio ar y cyd â gwasanaethau tai a MDT...
-
Uwch Swyddog Llety â Chymorth X 2
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd sy’n agored i niwed ac sydd ag anghenion tai. Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. Rydym wedi ehangu'n gyflym yn ddiweddar ac mae ein gwasanaeth wedi gorfod gwneud newidiadau mawr, felly rydym yn recriwtio...
-
Swyddog Atebion Llety
1 day ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig gyda sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol i ymuno â'n gwasanaeth Pwynt Cyswllt Cyntaf rhyddhau o’r Ysbyty, o fewn Gwasanaethau Byw'n Annibynnol, fel swyddog atebion llety. **Am Y Swydd** Mae’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol yn cynorthwyo oedolion sy’n agored i niwed i fyw...
-
Swyddog Llety â Chymorth
5 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd agored i niwed sydd angen tai. Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. **Ynglŷn â’r swydd** Swydd dros dro yw hon, yn cwmpasu cyfnod mamolaeth tan 31 Gorffennaf 2025. Mae'r tîm Llety â Chymorth i...
-
Swyddog Llety â Chymorth
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd agored i niwed sydd angen tai. Mae ein gwasanaethau ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. **Am Y Swydd** Mae'r tîm Llety â Chymorth i deuluoedd wedi'i leoli mewn 4 ardal yn y ddinas sef Trelái, Gabalfa, Grangetown ac...
-
Swyddog Llety  Chymorth Nos
5 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Llety â Chymorth Cyngor Caerdydd yn cynnig llety, cyngor a chymorth i unigolion a theuluoedd sy’n agored i niwed ac sydd ag anghenion tai. Rydym yn cefnogi pobl gan ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn gweithio gydag amrywiaeth o asiantaethau allanol i ddiwallu eu hanghenion cymorth a thai. Mae ein...
-
Rheolwr Prosiect
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Social Care Wales Full time**Rheolwr Prosiect** Caerdydd/Llanelwy (gweithio hybrid) **Amdanom ni** Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth genedlaethol ac arbenigedd mewn gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr. I wneud hyn, rydym yn...
-
Rheolwr Prosiect
2 days ago
Cardiff, Cardiff, United Kingdom Gofal Cymdeithasol Cymru Social Care Wales Full timeRheolwr ProsiectCaerdydd neu Landudno (gweithio hybrid)Amdanom NiMae Gofal Cymdeithasol Cymru'n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, a'u teuluoedd a'u gofalwyr.I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a...
-
Rheolwr Tîm
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd fel prifddinas Cymru yn cynnig nid yn unig y profiad o weithio mewn dinas fywiog a llwyddiannus ond hefyd mynediad hawdd i arfordir a chefn gwlad gwych rhanbarth De Cymru sydd â statws byd-eang. P'un a ydych yn dewis byw yn y ddinas neu o fewn pellter teithio byr, mae gennych ddigon o ddewis o ran llety, a llwybrau...