Rheolwr Tîm Ardal

2 days ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r tîm rheoli o fewn Ardal Dwyrain Caerdydd fel y Rheolwr Tîm wrth i’r un presennol gadael.

Mae'r swydd ar agor i'r rhai sy'n ceisio dychwelyd i Gaerdydd i weithio a'r rhai sydd am weithio i Gaerdydd am y tro cyntaf. Mae ymdeimlad o gyffro o fewn gweithlu'r Gwasanaethau Plant wrth i Gaerdydd symud drwy ei thaith newid gydag arweinyddiaeth gref gan dîm rheoli ymroddedig.

Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac mae'n un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf ym Mhrydain sy'n cael ei chyfoethogi gan amrywiaeth ei phobl. Mae Caerdydd, wedi ymrwymo i fod yn '_Ddinas sy'n Dda i Blant_' sy'n rhoi hawliau plant a phobl ifanc wrth wraidd ein polisïau a'n strategaethau. Mae angen ymarferwyr ar blant Caerdydd sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i’r unigolyn ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru gan sicrhau bod plant a'u teuluoedd yn derbyn _dim ond _y gorau. Mae Caerdydd yn cynnig y cyfle i dyfu a datblygu trwy hyfforddiant o ansawdd uchel, goruchwyliaeth ac amrywiaeth eang o gyfleoedd i ddatblygu gyrfa.

Rhieni a theuluoedd sy'n cael y dylanwad mwyaf sylweddol ar blant ac ar eu bywydau yn y dyfodol. Ein cred ni yw mai’r canlyniadau gorau i blant yw pan gânt eu cefnogi i dyfu a chyflawni o fewn eu teuluoedd eu hunain, y gred hon fu'r sbardun y tu ôl i'n strategaeth '_symud cydbwysedd y gofal_' sydd yn, ac a fydd yn parhau i fod yn, ganolbwynt i ni wrth symud ymlaen dros y 3 blynedd nesaf.

Mae Caerdydd wedi ailgynllunio ein gwasanaethau i ddilyn taith y plentyn ac wedi creu timau ardal sy'n galluogi gweithwyr i gysylltu'n agos â chymunedau a gwasanaethau lleol. Sefydlwyd y timau hyn mewn tair ardal yn y ddinas - Llaneirwg yn y dwyrain, Y Tyllgoed yn y gogledd a Bae Caerdydd yn y De - gan alluogi staff i gael eu lleoli o fewn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae'r model ardal yn cynnig manteision nid yn unig i blant a'u teuluoedd ond hefyd i staff gan gynnwys llai o amser teithio a chostau.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o ymdrech Caerdydd i fod yn un o'r dinasoedd mwyaf bywiog a llwyddiannus yn y DU, sy'n rhoi plant yn gyntaf, gyda'r uchelgais o arwain y ffordd o ran datblygu arfer yng Nghymru, byddem yn falch iawn o glywed gennych.
**Am Y Swydd**
Arweinir y tîm gan Reolwr Gweithredol parhaol profiadol a byddwch yn ymuno â thri rheolwr tîm sefydledig i gwblhau'r tîm. Byddwch yn olynu'r rheolwr sy'n gadael sy'n chwilio am heriau newydd ond a fydd yn parhau i weithio o fewn y gwasanaeth.

Gan ymuno â'r tîm byddwch yn cynnig arweiniad i dîm o weithwyr cymdeithasol a staff cymorth a dau Brif weithiwr Cymdeithasol. Bydd y Prif Weithiwr Cymdeithasol yn eich cynorthwyo i oruchwylio staff a dirprwyon. Bydd eich apwyntiad yn ein galluogi i wneud y cam olaf yn ein model Ardal ac yn ein galluogi i weithio o fewn ardaloedd clwstwr ysgolion sy'n cyd-fynd yn agos â'r cymunedau a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gwasanaethu'r cymunedau hynny. Rhagwelir y bydd y rhwydwaith agos hwn o weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'r gymuned yn creu '_pentref o fewn y ddinas'_ rithwir i gefnogi pob plentyn yn y gymuned i ffynnu.

O fewn ardal ddaearyddol y tîm byddwch yn cefnogi plant a phobl ifanc drwy asesiad cadarn, cynllunio gofal sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ac ymyrraeth effeithiol i'w cefnogi i gyflawni canlyniadau cadarnhaol o fewn eu teuluoedd a'u cymunedau. Gan weithio o fewn dull ymarfer adferol, byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd a chydweithwyr amlasiantaethol wrth ymyrryd i fynd i'r afael â'r pryderon sy'n codi a’r anawsterau sy’n sail iddynt.

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn wrth wraidd ein gwaith. Mae'r timau'n gweithio o ddull sy'n seiliedig ar gryfderau gan ddefnyddio modelau fel Fframwaith Arwyddion Diogelwch ac Ailuno i lywio ymarfer a diwallu anghenion pobl ifanc a'u teuluoedd.

Mae gennym amrywiaeth amrywiol o waith achos, cefnogaeth unigol, ymroddedig a rheolaidd gan uwch reolwyr ochr yn ochr â chyfleoedd dilyniant i'r ymgeiswyr llwyddiannus.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn modelu’r dull Arwyddion Diogelwch, a bydd yn

gyfrifol am sicrhau bod safonau arferion gwaith rhagorol ar waith yn y timau, a diweddaru a datblygu gwybodaeth am waith ymchwil, arferion, mentrau a gweithdrefnau newydd ac yn defnyddio’r rhain wrth oruchwylio a chynllunio ar gyfer plant.

Bydd angen i chi fod yn Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig, yn ogystal â phrofiad sylweddol mewn amgylchedd Gwasanaethau wedi'i Dargedu gyda goruchwyliaeth staff a myfyrwyr. Byddwch yn gallu gweithio’n dda mewn tîm ac yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Yn weithredol o 1 Ebrill 2021, bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £5,000 (cyfwerth ag amser llawn).**

**(£45,876, - £48,857) **Adolygir y taliad hwn bob 12 mis.**

Cyfeiriwch at



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r rôl hon yn cael taliad atodol ar sail y farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.** Mae cyfle cyffrous wedi codi i reolwr tîm â chymwysterau addas weithio yng Ngwasanaethau Oedolion Caerdydd. Mae swyddi Rheolwr Tîm ar gael yn y Gwasanaeth Ysbytai sy'n gweithio gyda phobl dros ddeunaw oed sydd ag...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** **Ynglŷn â’r Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Rheolwr Ardal gyda’r Gwasanaeth Atgyweirio Ymatebol. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn sicrhau bod gwasanaeth atgyweirio ymatebol rhagorol yn cael ei ddarparu ar gyfer ardal o'r ddinas, gan roi cymorth rheoli i dimau...

  • Rheolwr Warws

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Tîm Cyd-Wasanaeth Offer Caerdydd a'r Fro (CWO) yn awyddus i gyflogi Rheolwr Warws wedi'i leoli yn ein warws, Unedau 2 a 3 Lambourne Crescent, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GF. Mae tîm Cyd-Wasanaeth Offer y Cyngor yn rhoi offer i bobl yng Nghaerdydd a’r Fro. Rydym yn archebu, dosbarthu, casglu a chynnal...

  • Rheolwr Tîm

    1 week ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd fel prifddinas Cymru yn cynnig nid yn unig y profiad o weithio mewn dinas fywiog a llwyddiannus ond hefyd mynediad hawdd i arfordir a chefn gwlad gwych rhanbarth De Cymru sydd â statws byd-eang. P'un a ydych yn dewis byw yn y ddinas neu o fewn pellter teithio byr, mae gennych ddigon o ddewis o ran llety, a llwybrau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig ymuno â'r Tîm Hyfforddi a Datblygu Gofal Cymdeithasol Gwasanaethau Oedolion sydd wedi'i leoli yn Neuadd y Sir, Caerdydd. Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae'r Tîm Hyfforddi a Datblygu Gofal Cymdeithasol wedi ymrwymo i ddatblygu ac annog ei staff yn...

  • Rheolwr Prosiect

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Social Care Wales Full time

    **Rheolwr Prosiect** Caerdydd/Llanelwy (gweithio hybrid) **Amdanom ni** Yn Gofal Cymdeithasol Cymru, rydym yn darparu arweinyddiaeth genedlaethol ac arbenigedd mewn gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion a’u teuluoedd a’u gofalwyr. I wneud hyn, rydym yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Mae Caerdydd yn cynnig y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Mae Caerdydd yn cynnig y...

  • Rheolwr Cyflawni

    4 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Oherwydd ail-strwythuro ardal gwasanaeth mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw (DAChC) newydd am Reolwr Cyflawni cymwys i arwain, rheoli a datblygu tîm cyflenwi sy'n cynnwys Rheolwyr Prosiect, Syrfewyr Meintiau a thîm cynnal a chadw DLO. Mae'r Tîm hwn sydd newydd ei sefydlu yn gyfrifol am...


  • Cardiff, United Kingdom Eteach Full time

    Cyfle gwych i siaradwr Cymraeg brodorol â chefndir Rheoli Cyfrifon blaenorol i groesi hyfforddiant i'r sector Addysg gan weithio ochr yn ochr â'n tîm Rheoli Llwyddiant Cwsmer hynod lwyddiannus. Rhoddir hyfforddiant llawn i'r ymgeiswyr llwyddiannus gyda chefnogaeth barhaus a hyfforddiant pellach lle bo angen. Mae'r swydd hon yn cynnig cyfleoedd gyrfa...