Rheolwr Warws

3 days ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Tîm Cyd-Wasanaeth Offer Caerdydd a'r Fro (CWO) yn awyddus i gyflogi Rheolwr Warws wedi'i leoli yn ein warws, Unedau 2 a 3 Lambourne Crescent, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GF.

Mae tîm Cyd-Wasanaeth Offer y Cyngor yn rhoi offer i bobl yng Nghaerdydd a’r Fro. Rydym yn archebu, dosbarthu, casglu a chynnal amrywiaeth eang o gymhorthion symud i helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain.
Mae offer yn cael ei archebu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, fel Nyrsys Ardal, Therapyddion Galwedigaethol a Ffisiotherapyddion ac yn cynnwys amrywiaeth eang o eitemau, o welyau arbenigol a hoistiau i offer ystafell ymolchi ac offer eistedd a cherdded a ddefnyddir gan blant mewn ysgolion.

**Am Y Swydd**
Byddwch yn gyfrifol am reoli pob elfen o'r Warws yn ddiogel ac effeithlon gan gynnwys Staff, ymwelwyr â'r safle, nwyddau sy’n dod i mewn ac allan, storio, logisteg a pheiriannau.

Sicrhau rheolaeth stoc effeithiol drwy ddatblygu, gweithredu a monitro prosesau a gweithdrefnau cadarn. Mae hyn yn cynnwys y cyfrifoldeb cyffredinol am dderbyn, storio, a danfon nwyddau o fewn y warws/warysau a'u dosbarthu o fewn y gymuned. Rheoli ailgylchu offer (gan fod yr holl offer gael ei ddarparu ar sail benthyciad, mae angen dilyn gweithdrefnau/prosesau cadarn er mwyn casglu, dadhalogi ac ailstocio eitemau i'w hailgyhoeddi yn iawn).

Byddwch yn cymryd cyfrifoldeb am reoli tîm o Yrrwr/Gosodwyr a Goruchwyliwr y Warws. Byddwch yn gyfrifol am bob agwedd ar eu perfformiad (datblygiad personol, rheoli salwch, disgyblu ac ati). Ar hyn o bryd mae'r tîm Gyrwyr wedi'i rannu ar draws dau warws felly bydd angen teithio rhwng y ddau safle. Mae natur rolau'r gyrwyr yn golygu eu bod yn symudol iawn ac oddi ar y safle am y rhan fwyaf o'r dydd. Mae tîm y Warws yn gweithio ar y safle, ond unwaith eto maent wedi'u rhannu rhwng y ddau safle.

Mae'r gwasanaeth ar hyn o bryd yn gwneud rhai newidiadau sylfaenol (gan gynnwys symud i adeilad newydd) a bydd gofyn i chi arwain a chefnogi staff trwy'r broses hon er mwyn creu gwasanaeth unedig ac effeithlon sy'n gweithredu o un safle'n unig.

Sylwch fod y gwasanaeth hwn yn gweithredu o 8am tan 4pm o ddydd Llun i ddydd Iau ac o 8am tan 3:30pm ar ddydd Gwener.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gennych brofiad o reoli tîm o staff o fewn amgylchedd warws. Bydd gennych brofiad helaeth o weithio mewn gwasanaeth logistaidd modern gan ddefnyddio systemau rheoli stoc cyfrifiadurol a ryngwynebir drwy ddyfeisiau llaw di-wifr.

Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad o weithio mewn lleoliad benthyg offer cymunedol a reolir gan Awdurdod Lleol a byddwch yn gyfarwydd â phob agwedd ar y gwasanaeth hwnnw (e.e. sylfaen cleientiaid benodol iawn, clinigwyr cymwys yn ysgogi ceisiadau cyflenwi, dealltwriaeth o'r pwysau y mae clinigwyr a'u cleientiaid yn eu hwynebu wrth geisio defnyddio offer er mwyn datrys rhwystrau corfforol sy'n wynebu cleientiaid.)
Bydd angen i chi hefyd weithio'n agos gyda'r tîm gweinyddol sy'n trefnu'r amserlenni gwaith ar gyfer y gyrwyr ac felly mae'n rhaid i chi allu cyfathrebu'n glir ac yn hyderus gyda gyrwyr, staff gweinyddol, clinigwyr, cyflenwyr, contractwyr cynnal a chadw ac ati.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl ar ôl darllen y disgrifiad swydd, cysylltwch â Neal Hall - Rheolwr Gwasanaeth 02920 873 670

Wrth gwblhau eich cais ar-lein, dylech deilwra eich cais i'r rôl yn yr adran Gwybodaeth Ategol, gan nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol a restrir ar y Fanyleb Person. Dylech hefyd nodi sut rydych yn bodloni'r meini prawf dymunol gan y gallem ddefnyddio'r rhain i lunio'r rhestr fer os bydd nifer fawr o ymgeiswyr yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol. Mae adran Gwybodaeth Ategol y ffurflen gais ar-lein wedi'i chyfyngu i 4,000 o nodau - gallwch lanlwytho Gwybodaeth Ategol ychwanegol ond peidiwch â chyflwyno CV gan nad yw’n debygol o gynnig y wybodaeth sydd ei hangen. Darllenwch y canllaw ar sut i wneud cais.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i’r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwy


  • Goruchwylydd Warws

    5 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Tîm Cyd-Wasanaeth Offer Caerdydd a'r Fro (CWO) yn awyddus i gyflogi Goruchwylydd Warws wedi'i leoli yn ein warws, Unedau 2 a 3 Lambourne Crescent, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GF. Mae tîm Cyd-Wasanaeth Offer y Cyngor yn rhoi offer i bobl yng Nghaerdydd a’r Fro. Rydym yn archebu, yn dosbarthu, yn casglu ac yn...

  • Swyddog Storfa

    5 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â’r Gwasanaeth** Mae Tîm Cyd-Wasanaeth Offer Caerdydd a'r Fro (CWO) yn awyddus i gyflogi Swyddog Storfa wedi'i leoli yn ein warws, Unedau 2 a 3 Lambourne Crescent, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GF. Mae tîm CWO y Cyngor yn rhoi offer i bobl yng Nghaerdydd a’r Fro. Rydym yn archebu, yn dosbarthu, yn casglu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Tîm Cyd-Wasanaeth Offer (CWO) Caerdydd a'r Fro yn awyddus i gyflogi Technegydd Therapi Galwedigaethol wedi'i leoli yn ein warws, Unedau 2 a 3 Lambourne Crescent, Parc Busnes Caerdydd, Llanisien, Caerdydd, CF14 5GF. Mae tîm CWO y Cyngor yn darparu offer i bobl yng Nghaerdydd a’r Fro. Rydym yn archebu, yn dosbarthu, yn casglu ac yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Tîm Gwasanaeth Offer ar y Cyd Caerdydd a'r Fro yn bwriadu cyflogi Technegydd Therapi Galwedigaethol sydd wedi'i leoli yn ein warws, Uned B5 Ystad Ddiwydiannol Westpoint, Heol Penarth, Caerdydd CF11 8JQ. Mae tîm Cyd-Wasanaeth Offer y Cyngor yn rhoi offer i bobl yng Nghaerdydd a’r Fro. Rydym yn archebu, dosbarthu, casglu a chynnal...