Hyfforddai Tai
2 weeks ago
**Am Y Gwasanaeth**
Caiff yr Hyfforddai Tai ei hyfforddi a’i fentora yn rôl y Swyddog Tenantiaeth Byddwch yn ennill profiad yn y gwaith rhagweithiol a wneir yn y tîm i sicrhau bod tenantiaid a lesddeiliaid yn cydymffurfio ag amodau eu tenantiaeth neu brydles, rhoi cyngor a chanllawiau yn ôl yr angen i gasglu tystiolaeth a gweithredu’n briodol o ran torri amodau tenantiaeth, a hefyd gwrthdaro rhwng tenant a landlord. Gan gynnwys cynorthwyo’r Swyddog Arweiniol yn y llys ac ar faterion troi allan
**Am Y Swydd**
Nid oes angen cymwysterau na phrofiad ffurfiol, ond bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu da a bydd yn gallu dysgu ac addasu’n gyflym. Mae agwedd gadarnhaol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer yn hanfodol, yn ogystal â'r gallu i weithio i dargedau a therfynau amser.
Byddai gwybodaeth am ieithoedd eraill, yn enwedig Cymraeg, o fantais.
Byddai profiad o ddefnyddio systemau TG hefyd yn fanteisiol.
Mae llawer o wahanol yrfaoedd ar gael o fewn y Cyngor sy’n cynnig cyfleoedd datblygu gyrfaol da. Mae trefniadau gweithio hyblyg hefyd ar gael. Nid oes unrhyw sicrwydd y cewch swydd ar ddiwedd y **cynllun hyfforddi 18 mis**, fodd bynnag rhoddir cyngor i’r sawl sy’n cwblhau’r hyfforddiant yn llwyddiannus o ran sut i wneud ceisiadau am swyddi priodol o fewn y gwasanaeth.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Am sgwrs anffurfiol, ar ôl darllen y disgrifiad swydd, cysylltwch â Stuart Clarke ar (029) 20537563.
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Dylai ymgeiswyr mewnol sy’n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael caniatâd cyn ymgeisio trwy gwblhau ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr/Dirprwy Gyfarwyddwr/Prif Swyddog perthnasol neu uwch swyddog arall a enwebwyd, nad ydynt ar raddfa is na RhG2, neu’r Pennaeth/Corff Llywodraethu yn achos staff ysgolion, sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PEO02042
-
Prentis Corfforaethol
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £19,100 y flwyddyn pro-rata yn y rôl Prentis hwn gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol.** Mae Cymorth Cynnar Caerdydd yn gasgliad o wasanaethau arloesol a blaengar i blant, pobl ifanc a theuluoedd o fewn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Rydym yn edrych i gyflogi **Crëwr...