Prentis Corfforaethol
2 weeks ago
**Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £19,100 y flwyddyn pro-rata yn y rôl Prentis hwn gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol.**
Mae Cymorth Cynnar Caerdydd yn gasgliad o wasanaethau arloesol a blaengar i blant, pobl ifanc a theuluoedd o fewn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Rydym yn edrych i gyflogi **Crëwr Cynnwys (Lefel 3) Prentis Corfforaethol **ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a'r we, wedi'i leoli yng Nghanolfan y Gynhadledd, East Moors Road, Caerdydd, CF24 5RR.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at ein Gwasanaethau drwy ein helpu i ddarparu cynnwys atyniadol o ansawdd uchel ar y we i'r plant, y bobl ifanc, y teuluoedd, a phartneriaid proffesiynol rydym yn gweithio gyda nhw.
Gallai'r rôl hon olygu gweithio gartref a bydd angen rhywfaint o weithio dros y penwythnos.
**Am Y Swydd**
Yn y rôl Prentis Corfforaethol (Lefel 3) hon, byddwch yn dysgu sut i:
- Ddefnyddio sgiliau cyfathrebu ac ysgrifennu copi effeithiol i hysbysebu gwasanaethau Cymorth Cynnar ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Creu cynnwys digidol ar y we ac ar gyfryngau cymdeithasol
- Cynorthwyo i ddylunio ymgyrchoedd marchnata, gan sicrhau bod yr holl frandio a negeseuon yn glir.
- Gweithio'n effeithiol yn unigol ac ar y cyd fel rhan o dîm aml-ddisgyblaeth
- Adeiladu a chynnal perthnasoedd cadarnhaol gyda chwsmeriaid Cymorth Cynnar a sawl tîm proffesiynol
Caiff hyfforddiant llawn ei roi a bydd ein tîm yn eich helpu a'ch annog i ddatblygu yn y rôl a chewch eich annog i gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau. Cewch eich goruchwylio a’ch hyfforddi yn y swydd a bydd gennych fentor penodol i'ch cefnogi i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol gan ddefnyddio dull cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
Mae'r Cynllun Hyfforddai a Phrentis Corfforaethol hefyd yn cynnig cyfleoedd i wella eich sgiliau trosglwyddadwy i’ch helpu i ddatblygu yn eich gyrfa.
Mae llawer o'n timau wedi symud i fod ar-lein a gweithio gartref, a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu'r sgiliau er mwyn cefnogi hyn. Pan fo angen gweithio gartref, bydd yr offer angenrheidiol yn cael ei ddarparu i chi, fodd bynnag, bydd angen i chi drefnu eich cysylltedd rhyngrwyd eich hun (efallai y bydd rhywfaint o gymorth ar gael i helpu gyda hyn).
Efallai y bydd achlysuron fel digwyddiadau hyrwyddo arbennig lle efallai y bydd gofyn i chi weithio rhai nosweithiau a phenwythnosau. Gwneir y rhain gyda’ch cydsyniad a gyda digon o rybudd ymlaen llaw.
Mae'r rôl hon yn cynnwys Cymhwyster Fframwaith Prentisiaeth Llywodraeth Cymru mewn Cyfryngau Cymdeithasol i Lefel Busnes 3. *Gwiriwch eich cymhwysedd i wneud cais am y rôl hon gan ddefnyddio'r wybodaeth a nodir yn yr adran Gwybodaeth Ychwanegol isod ac yn y Fanyleb Person ar gyfer y rôl hon.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith ac sy’n awyddus i ddysgu yn y rôl ac i’n helpu i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd.
Mae ein **Prentisiaid** Corfforaethol yn cael profiad gwerthfawr wrth weithio i'r Cyngor mwyaf yng Nghymru. Er na allwn warantu y bydd yr ymgeisydd a benodir yn mynd ymlaen i sicrhau rôl arall ar ddiwedd y contract cychwynnol hwn, caiff ei gefnogi a'i annog i achub ar y cyfleoedd niferus sydd ar gael yn ein sefydliad er mwyn datblygu ei yrfa.
Rydym yn chwilio am rywun sy’n:
- Greadigol, Brwdfrydig ac yn gryf eich cymhelliad
- Angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau teuluoedd ledled y ddinas.
- Gallu datrys problemau
- Barod i gynnig a derbyn adborth gyda'r nod o wella'r gwasanaeth a ddarperir.
- Gallu blaenoriaethu ac addasu i anghenion y gwasanaeth.
Ar ôl darllen y swydd ddisgrifiad, os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl cysylltwch ag Andrew Proctor, Swyddog Ymgysylltu â Rhanddeiliaid, Cymorth Cynnar Caerdydd 07929767264
**Gallwch wneud cais am y rôl hon os nad ydych eisoes wedi ennill y cymhwyster prentis (neu NVQ) a gynigir yn y rôl hon, ar yr un lefel neu'n uwch.**
***
**Mae graddedigion yn gymwys i wneud cais am rolau Prentisiaeth sy’n cynnig Cymhwyster Prentisiaeth Lefel 3 neu uwch ar yr amod bod eu gradd mewn pwnc gwahanol.**
Nid yw’r swydd hon yn addas i’w rhannu.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swydd hon dros dro am **21** mis os caiff ei gweithio'n llawn amser neu'n hirach os caiff ei gweithio'n rhan amser. Mae'r rhan fwyaf o rolau yn seiliedig ar wythnos waith 37 awr, er y gellir gweithio llawer o rolau'n rhan amser ac o leiaf 16 awr yr wythnos ar gyfer rolau prentis.
Mae Tâl Atodol y Cyflog Byw’n berthnasol i’r cyflog hwn sy’n dod â’r gyfradd tâl sylfaenol i £9.90 yr awr. Bydd y tâl atodol yn cael ei adolygu bob mis Ebrill. Ceidw Cyngor Caerdydd yr hawl i wneud unrhyw newidiadau i Dâl Atodol y Cyflog Byw neu ei ddileu.
Wrth gwblhau eich cais ar-lein, dylech deilwra eich cais i'r
-
Prentis Corfforaethol
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £23,152 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr) neu £12.00 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i...
-
Prentis Corfforaethol Lefel 2
2 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd a, ph'un a yw ein gweithwyr wedi’u cyflogi mewn rôl sy'n delio â chwsmeriaid, rôl dechnegol, masnachol...
-
Prentis Corfforaethol
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £19,100 y flwyddyn pro-rata yn y rôl Prentis hon gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol.** Mae ein Timau Awdurdod yr Harbwr a Pharc Bute yn gobeithio cyflogi Prentis Corfforaethol (Lefel 2) yn Nhŷ’r Frenhines Alexandra, CF10 4LY a Chanolfan Addysg Parc Bute, CF10 3DX i gyfrannu at ein Gwasanaeth gan ein...
-
Prentis Corfforaethol
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae ein Tîm Cymorth Gweithredol yn gobeithio cyflogi Prentis Corfforaethol (Lefel 2) yn bennaf yn Nhŷ’r Frenhines Alexandra, CF10 4LY i gyfrannu at ein Gwasanaeth gan ein helpu i ddarparu cefnogaeth busnes i ystod amrywiol o feysydd gwasanaeth, gan gynnwys Parciau, Chwaraeon, Awdurdod yr Harbwr, Hamdden a Chwarae a Youth Foods. Gan...
-
Prentis Corfforaethol
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Gallwch wneud cais am y rôl hon os nad ydych eisoes wedi ennill y cymhwyster prentis (neu NVQ) a gynigir yn y rôl hon, ar yr un lefel neu'n uwch.** **Mae graddedigion yn gymwys i wneud cais am rolau Prentisiaeth sy’n cynnig Cymhwyster Prentisiaeth Lefel 3 neu uwch ar yr amod bod eu gradd mewn pwnc gwahanol.** Mae Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd am...
-
Hyfforddai Corfforaethol Cyngor Caerdydd
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £22,737 y flwyddyn yn gweithio’n llawn amser (37 awr), neu £12.00 yr awr yr awr pro rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw yn Wirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wasanaethau gwahanol i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu...
-
Welsh Headings
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â'r Gwasanaeth Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd a, ph'un a yw ein gweithwyr wedi’u cyflogi mewn rôl sy'n delio â chwsmeriaid,...