Prentis Corfforaethol Lefel 2

3 days ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd a, ph'un a yw ein gweithwyr wedi’u cyflogi mewn rôl sy'n delio â chwsmeriaid, rôl dechnegol, masnachol neu gymorth, maen nhw’n ein helpu i wneud gwahaniaeth i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Mae ein Gwasanaeth Dydd Anghenion Cymhleth Anableddau Dysgu yn awyddus i gyflogi **Prentis Corfforaethol (Lefel 2)** wedi'i leoli yng Ngwasanaeth Dydd Caerdydd, Heol Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2RR er mwyn cyfrannu at ein gwasanaeth i’n helpu i ddarparu cymorth i oedolion ag anabledd dysgu sydd ag anghenion cymorth cymhleth. Caiff pobl eu cynorthwyo gan y gwasanaeth i fanteisio ar amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfleoedd gwerthfawr yn y gymuned leol gyda’r nod o gyflawni eu hamcanion.

Byddwch yn gweithio’n rhan o dîm cymorth medrus iawn i ddatblygu sgiliau, mewn modd sydd â phobl yn ganolog iddo, i gefnogi defnyddwyr gwasanaeth i gyflawni’r deilliannau a nodir yn eu Cynllun Gwasanaeth Dydd.
**Am Y Swydd**
Yn y rôl **Prentis Corfforaethol (Lefel 2),** byddwch yn dysgu sut i:
Fel Prentis Corfforaethol sy'n ymgymryd â Phrentisiaeth Sylfaen Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) Lefel 2, byddwn yn eich helpu a'ch annog i ddatblygu sgiliau a fydd yn eich cefnogi gyda'ch gyrfa yn y dyfodol. Byddwch yn cael eich annog i fanteisio ar ystod eang o gyfleoedd, gan gynnwys rhoi cymorth i ddefnyddwyr gwasanaeth mewn ystod eang o weithgareddau a chyfleoedd, y bydd llawer yn cael eu cynnal mewn lleoliadau cymunedol, gan gysylltu â theuluoedd defnyddwyr gwasanaeth a gwasanaethau eraill, cadw cofnodion, cyflawni tasgau gweinyddol, cyfrannu at y gwaith o gynllunio gwasanaethau a chymryd rhan mewn cyfarfodydd staff a rhaglenni datblygu staff.

Caiff hyfforddiant llawn ei roi a bydd ein tîm yn eich helpu a'ch annog i ddatblygu yn y rôl a chewch eich annog i gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau. Cewch eich goruchwylio a’ch hyfforddi yn y swydd a bydd gennych fentor penodol i'ch cefnogi i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol gan ddefnyddio dull cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.

Mae'r Cynllun Prentisiaethau a Hyfforddeion Corfforaethol hefyd yn cynnig cyfleoedd i wella eich sgiliau trosglwyddadwy i’ch helpu i ddatblygu yn eich gyrfa.

Mae llawer o'n timau wedi symud i fod ar-lein ac i weithio gartref, a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu sgiliau er mwyn cefnogi hyn. Pan fo angen gweithio gartref, bydd yr offer angenrheidiol yn cael ei roi i chi. Fodd bynnag, bydd angen i chi drefnu eich cysylltedd rhyngrwyd eich hun (efallai y bydd rhywfaint o gymorth ar gael i helpu gyda hyn).

Mae'r Gwasanaeth yn gweithredu rhwng 8.00am a 4.30pm o Ddydd Llun i Ddydd Gwener.

Mae'r rôl hon yn cynnwys Cymhwyster Fframwaith Prentisiaeth Llywodraeth Cymru mewn Prentisiaeth Sylfaenol Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion) ar Lefel 2. *Sicrhewch eich bod yn gymwys i wneud cais am y rôl hon gan ddefnyddio'r wybodaeth a nodir yn yr adran Gwybodaeth Ychwanegol isod ac yn y Fanyleb Person ar gyfer y rôl hon.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith ac sy’n awyddus i ddysgu yn y rôl ac i’n helpu i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd.

Mae ein **Prentisiaid** Corfforaethol yn cael profiad gwerthfawr wrth weithio i'r Cyngor mwyaf yng Nghymru. Er na allwn warantu y bydd yr ymgeisydd a benodir yn mynd ymlaen i sicrhau rôl arall ar ddiwedd y contract cychwynnol hwn, caiff ei gefnogi a'i annog i achub ar y cyfleoedd niferus sydd ar gael yn ein sefydliad er mwyn datblygu ei yrfa.
**Gwybodaeth Ychwanegol** Gallwch wneud cais am y rôl hon os nad ydych eisoes wedi ennill y cymhwyster prentis (neu NVQ) a gynigir yn y rôl hon, ar yr un lefel neu'n uwch.**

**Mae graddedigion yn gymwys i wneud cais am rolau Prentisiaeth sy’n cynnig Cymhwyster Prentisiaeth Lefel 3 o leiaf ac ar yr amod bod eu gradd mewn pwnc gwahanol.**

Nid yw’r swydd hon yn addas i’w rhannu.

Mae'r swydd hon yn un dros dro am 18 mis os byddwch yn gweithio ar sail lawn-amser, neu'n hirach os byddwch yn gweithio'n rhan amser. Mae'r rhan fwyaf o rolau yn seiliedig ar wythnos waith 37 awr, er y gellir gweithio llawer o rolau'n rhan amser ac o leiaf 16 awr yr wythnos ar gyfer rolau prentis.

Wrth gwblhau eich cais ar-lein, dylech deilwra eich cais i'r rôl drwy roi enghreifftiau yn yr adran **Gwybodaeth Ategol**, gan nodi sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol a restrir ar y Fanyleb Person. Dylech hefyd nodi sut rydych yn bodloni'r meini prawf dymunol gan y gallem ddefnyddio'r rhain i lunio'r rhestr fer os bydd nifer fawr o ymgeiswyr yn bodloni'r holl feini


  • Prentis Corfforaethol

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £23,152 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr) neu £12.00 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i...

  • Prentis Corfforaethol

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae ein Tîm Cymorth Gweithredol yn gobeithio cyflogi Prentis Corfforaethol (Lefel 2) yn bennaf yn Nhŷ’r Frenhines Alexandra, CF10 4LY i gyfrannu at ein Gwasanaeth gan ein helpu i ddarparu cefnogaeth busnes i ystod amrywiol o feysydd gwasanaeth, gan gynnwys Parciau, Chwaraeon, Awdurdod yr Harbwr, Hamdden a Chwarae a Youth Foods. Gan...

  • Prentis Corfforaethol

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £19,100 y flwyddyn pro-rata yn y rôl Prentis hon gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol.** Mae ein Timau Awdurdod yr Harbwr a Pharc Bute yn gobeithio cyflogi Prentis Corfforaethol (Lefel 2) yn Nhŷ’r Frenhines Alexandra, CF10 4LY a Chanolfan Addysg Parc Bute, CF10 3DX i gyfrannu at ein Gwasanaeth gan ein...

  • Prentis Corfforaethol

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £19,100 y flwyddyn pro-rata yn y rôl Prentis hwn gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol.** Mae Cymorth Cynnar Caerdydd yn gasgliad o wasanaethau arloesol a blaengar i blant, pobl ifanc a theuluoedd o fewn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Rydym yn edrych i gyflogi **Crëwr...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Gallwch wneud cais am y rôl hon os nad ydych eisoes wedi ennill y cymhwyster prentis (neu NVQ) a gynigir yn y rôl hon, ar yr un lefel neu'n uwch.** **Mae graddedigion yn gymwys i wneud cais am rolau Prentisiaeth sy’n cynnig Cymhwyster Prentisiaeth Lefel 3 neu uwch ar yr amod bod eu gradd mewn pwnc gwahanol.** Mae Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd am...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £22,737 y flwyddyn yn gweithio’n llawn amser (37 awr), neu £12.00 yr awr yr awr pro rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw yn Wirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wasanaethau gwahanol i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu...

  • Welsh Headings

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â'r Gwasanaeth Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd a, ph'un a yw ein gweithwyr wedi’u cyflogi mewn rôl sy'n delio â chwsmeriaid,...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Math o Gontract:Prentisiaeth Cyfnod Penodol Llawn-amser am 24 misLleoliad:Caerdydd - 3 Sgwâr CanologCyflog:22950AI UN O BRENTISIAETHAUR BBC YWR SWYDD NESAF I CHI Ymunwch â ni fel prentis yn y BBC i roi hwb ich gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Rydym ni wedi ymrwymo ich helpu chi i ddatblygu eich sgiliau ach talent. Byddwch yn dysgu yn y...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Math o Gontract:Prentisiaeth Cyfnod Penodol Llawn-amser am 24 misLleoliad:Caerdydd - 3 Sgwâr CanologCyflog:22950AI UN O BRENTISIAETHAUR BBC YWR SWYDD NESAF I CHI Ymunwch â ni fel prentis yn y BBC i roi hwb ich gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Rydym ni wedi ymrwymo ich helpu chi i ddatblygu eich sgiliau ach talent. Byddwch yn dysgu yn y...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Math o Gontract:Prentisiaeth Cyfnod Penodol Llawn-amser am 24 misLleoliad:Caerdydd - 3 Sgwâr CanologCyflog:22950AI UN O BRENTISIAETHAUR BBC YWR SWYDD NESAF I CHI Ymunwch â ni fel prentis yn y BBC i roi hwb ich gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Rydym ni wedi ymrwymo ich helpu chi i ddatblygu eich sgiliau ach talent. Byddwch yn dysgu yn y...