Prentis Corfforaethol

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £19,100 y flwyddyn pro-rata yn y rôl Prentis hon gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol.**

Mae ein Timau Awdurdod yr Harbwr a Pharc Bute yn gobeithio cyflogi Prentis Corfforaethol (Lefel 2) yn Nhŷ’r Frenhines Alexandra, CF10 4LY a Chanolfan Addysg Parc Bute, CF10 3DX i gyfrannu at ein Gwasanaeth gan ein helpu i gyflwyno prosiectau a digwyddiadau cyswllt cymunedol yn ogystal â marchnata lleoliadau allweddol a chyrchfannau o amgylch Bae Caerdydd a Pharc Bute i wneud y gorau o'r cynnig twristiaeth ac ymwelwyr er budd economaidd Caerdydd. Bydd deiliad y swydd hefyd yn cael profiad gwerthfawr mewn prosiectau Parciau, Hamdden, Chwaraeon a Chwarae eraill lle bo angen cymorth.

Gallai'r rôl hon olygu gweithio gartref ar adegau ond prif ganolfan y rôl fydd swyddfeydd yr Harbwr a/neu Barc Bute.

**Am Y Swydd**
Yn y rôl **Prentis Corfforaethol** **(Lefel 2)** hon byddwch yn dysgu i gefnogi Timau Marchnata Awdurdod yr Harbwr a Pharc Bute, yn ogystal â thimau eraill yn ôl y galw, i helpu i gynnal gwaith marchnata cyrchfannau, digwyddiadau a phrosiectau a fydd yn codi proffil lleoliadau gan gynnwys Ynys Echni, Parc Bute, Morglawdd Caerdydd, Gwlyptiroedd Caerdydd a CBWAC i ddylanwadu'n uniongyrchol ar nifer yr ymwelwyr a'r incwm a gynhyrchir, gan felly gyfrannu at effaith economaidd y ddinas. Bydd hyn yn cynnwys dysgu i:

- Gasglu a threfnu data ymchwil y farchnad
- Cyfrannu at fesur perfformiad y farchnad
- Gweithio gydag eraill mewn amgylchedd busnes
- Gwella eich perfformiad eich hun mewn amgylchedd busnes
- Dysgu a defnyddio’r egwyddorion cyfryngau cymdeithasol i hysbysebu’n ddigidol ac ar y cyfryngau cymdeithasol i gynyddu nifer yr ymwelwyr ac incwm mewn lleoliadau
- Cynorthwyo, cynllunio neu gyflawni digwyddiadau ar gyfer marchnata cyrchfannau neu mewn lleoliadau
- Cyflwyniad i reoli chwilotwyr a chynnwys at ddibenion marchnata ar gyfer gwahanol leoliadau yng Nghaerdydd.
- Byddwch yn cynnig gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol dros y ffôn, trwy e-bost neu wyneb yn wyneb.

Caiff hyfforddiant llawn ei roi a bydd ein tîm yn eich helpu a'ch annog i ddatblygu yn y rôl a chewch eich annog i gyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau ar draws amrywiaeth o sectorau gan gynnwys yr Harbwr, Parciau, Chwaraeon a Hamdden a Chwarae. Cewch eich goruchwylio a’ch hyfforddi yn y swydd a bydd gennych fentor penodol i'ch cefnogi i ddarparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol gan ddefnyddio dull cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.

Mae'r Cynllun Prentisiaethau a Hyfforddeion Corfforaethol hefyd yn cynnig cyfleoedd i wella eich sgiliau trosglwyddadwy i’ch helpu i ddatblygu yn eich gyrfa.

Mae llawer o'n timau wedi symud i fod ar-lein ac i weithio gartref, a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu sgiliau er mwyn cefnogi hyn. Pan fo angen gweithio gartref, bydd yr offer angenrheidiol yn cael ei roi i chi. Fodd bynnag, bydd angen i chi drefnu eich cysylltiad rhyngrwyd eich hun (efallai y bydd rhywfaint o gymorth ar gael i helpu gyda hyn).

Efallai y bydd angen gweithio gyda'r nos a dros y penwythnos o bryd i’w gilydd.

Mae'r rôl hon yn cynnwys Cymhwyster Fframwaith Prentisiaeth Llywodraeth Cymru mewn Marchnata ar Lefel 2. *Gwiriwch eich cymhwysedd i wneud cais am y rôl hon gan ddefnyddio'r wybodaeth a nodir yn yr adran Gwybodaeth Ychwanegol isod ac yn y Fanyleb Person ar gyfer y rôl hon.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i barhau i ddarparu gwasanaethau hyd yn oed yn ystod y cyfnodau mwyaf heriol. Rydym yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb yn ein gwaith ac sy’n awyddus i ddysgu yn y rôl ac i’n helpu i wneud gwahaniaeth i'n cwsmeriaid trwy ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol yng Nghaerdydd.

Mae ein **Prentisiaid** Corfforaethol yn cael profiad gwerthfawr wrth weithio i'r Cyngor mwyaf yng Nghymru. Er na allwn warantu y bydd yr ymgeisydd a benodir yn mynd ymlaen i sicrhau rôl arall ar ddiwedd y contract cychwynnol hwn, caiff ei gefnogi a'i annog i achub ar y cyfleoedd niferus sydd ar gael yn ein sefydliad er mwyn datblygu ei yrfa.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl ar ôl darllen y disgrifiad swydd, cysylltwch â Natalie Taylor ar 029 2087 7941 neu Julia Sas ar 029 2078 8401.

**Gallwch wneud cais am y rôl hon os nad ydych eisoes wedi ennill y cymhwyster prentis (neu NVQ) a gynigir yn y rôl hon, ar yr un lefel neu'n uwch.**

**Mae graddedigion ond yn gymwys i wneud cais am rolau Prentisiaeth sy’n cynnig Cymhwyster Prentisiaeth Lefel 3 o leiaf ac ar yr amod bod eu gradd mewn pwnc gwahanol.**

Nid yw’r swydd hon yn addas i’w rhannu.

Mae'r swydd hon yn un dros dro am **18** mis os byddwch yn gweithio ar sail lawn-amser, neu'n hirach os byddwch yn gweithio'n rhan amser. Mae'r rhan fwyaf o rolau yn seiliedig ar wythnos waith 37 awr, er y gellir gweithio llawer o rolau'n rhan amser ac o leiaf 16 awr yr wythnos ar gyfer rolau prentis.

Mae Tâl Atodol y Cyflog Byw’n berthnasol i’r cyf


  • Prentis Corfforaethol

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £23,152 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr) neu £12.00 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd a, ph'un a yw ein gweithwyr wedi’u cyflogi mewn rôl sy'n delio â chwsmeriaid, rôl dechnegol, masnachol...

  • Prentis Corfforaethol

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £19,100 y flwyddyn pro-rata yn y rôl Prentis hwn gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol.** Mae Cymorth Cynnar Caerdydd yn gasgliad o wasanaethau arloesol a blaengar i blant, pobl ifanc a theuluoedd o fewn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Rydym yn edrych i gyflogi **Crëwr...

  • Prentis Corfforaethol

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae ein Tîm Cymorth Gweithredol yn gobeithio cyflogi Prentis Corfforaethol (Lefel 2) yn bennaf yn Nhŷ’r Frenhines Alexandra, CF10 4LY i gyfrannu at ein Gwasanaeth gan ein helpu i ddarparu cefnogaeth busnes i ystod amrywiol o feysydd gwasanaeth, gan gynnwys Parciau, Chwaraeon, Awdurdod yr Harbwr, Hamdden a Chwarae a Youth Foods. Gan...

  • Prentis Corfforaethol

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Gallwch wneud cais am y rôl hon os nad ydych eisoes wedi ennill y cymhwyster prentis (neu NVQ) a gynigir yn y rôl hon, ar yr un lefel neu'n uwch.** **Mae graddedigion yn gymwys i wneud cais am rolau Prentisiaeth sy’n cynnig Cymhwyster Prentisiaeth Lefel 3 neu uwch ar yr amod bod eu gradd mewn pwnc gwahanol.** Mae Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd am...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £22,737 y flwyddyn yn gweithio’n llawn amser (37 awr), neu £12.00 yr awr yr awr pro rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw yn Wirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wasanaethau gwahanol i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu...

  • Welsh Headings

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â'r Gwasanaeth Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd a, ph'un a yw ein gweithwyr wedi’u cyflogi mewn rôl sy'n delio â chwsmeriaid,...