Swyddog Addysg

4 days ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Rydym yn sefydlu'r rôl newydd hon o fewn y Gyfarwyddiaeth Addysg. Bydd yr ymgeisydd yn athro cymwys.

Y swydd hon fydd y prif gyswllt â'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) ac felly bydd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y gwasanaeth hwnnw yn ogystal â'r timau Cyflawniad a Chynhwysiant yn y gwasanaeth Addysg.

Diben y rôl yw gwella canlyniadau addysgol a dileu rhwystrau i ymgysylltu i bobl ifanc sy'n gysylltiedig â'r GCI.

Mae'r rôl yn gofyn am wybodaeth a phrofiad o Anghenion Dysgu Ychwanegol a dealltwriaeth o addysg cyn-16 a llwybrau ôl-16.

Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd weithio'n agos gydag asiantaethau partner eraill i wella canlyniadau a mabwysiadu arferion cyfranogol.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw rhoi cymorth i blant ac oedolion sy’n agored i niwed gan sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.

Mae’n ofynnol i ddeiliad y swydd gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

**Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein **gwefan**:
**Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- **
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

**Gwybodaeth Ychwanegol:

- **
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: EDU00363


  • Rheolwr RHaglen

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae ein tîm Rhaglen MIS Addysg wedi ymrwymo i lywio trawsnewid digidol ar lefel strategol ar draws y Gyfarwyddiaeth Addysg, gan gefnogi blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor. Ein nod yw gwella gwasanaethau drwy wella systemau rheoli gwybodaeth a galluoedd digidol, gan sicrhau bod allbynnau addysg yn cael eu darparu’n effeithlon. Mae'r...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Drwy bartneriaethau ag ysgolion, cyflogwyr, cymunedau a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, mae Addewid Caerdydd yn ceisio sicrhau cyfleoedd sy'n creu uchelgais ac yn cyflwyno sgiliau i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ac sy’n eu cefnogi i symud ymlaen i Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant. Dilynwch Addewid Caerdydd ar Facebook,...

  • Swyddog

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi ar gyfer** **Swyddog, yn gweithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Darparu.** **Am Y Swydd** Mae Dylunio, Contractau a Darparu yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac mae’n allweddol o ran cynllunio a chyflawni prosiectau seilwaith yng Nghaerdydd. Bydd angen i ddeiliad y swydd ddarparu cymorth technegol ac AutoCad mewn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Gofal Plant...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Teitl y Swydd**:Swyddog Digwyddiadau’r Swyddfa Gyflogaeth** **Contract**:Llawn Amser, Cyfnod penodol tan 07/22** **Cyflog: £21801 - £23736 y flwyddyn pro rata** **Lleoliad: Caerdydd a'r Fro** Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn chwilio am Gydlynydd Digwyddiadau wedi’i leoli ar ein Campws Canol y Ddinas ond bydd disgwyl iddo weithio ar gampysau eraill yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaeth Swyddogion Iechyd a Diogelwch Ysgolion yn cynnig gwasanaeth cymorth proffesiynol i Benaethiaid i helpu i reoli iechyd a diogelwch yn eu hysgolion. **Am Y Swydd** Mae angen Swyddogion Iechyd a Diogelwch profiadol a deinamig i ymuno â’r tîm. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn rhoi cyngor a chymorth Iechyd a Diogelwch...

  • Swyddog Derbyniadau

    1 week ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Metropolitan University Full time

    Join to apply for the Swyddog Derbyniadau (2526184) role at Cardiff Metropolitan University. Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd am benodi Swyddog Derbyn brwdfrydig i gefnogi gweithgareddau Uned Dderbyn ganolog brysur. Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo gyda'r holl brosesau sy'n ymwneud â derbyn myfyrwyr i'r brifysgol. Mae rôl y Swyddog Derbyn yn chwarae...

  • Swyddog Derbyniadau

    1 week ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Metropolitan University Full time

    Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd am benodi Swyddog Derbyn brwdfrydig i gefnogi gweithgareddau Uned Dderbyn ganolog brysur. Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo gyda'r holl brosesau sy'n ymwneud â derbyn myfyrwyr i'r brifysgol. Mae rôl y Swyddog Derbyn yn chwarae rhan hanfodol wrth brosesu ceisiadau myfyrwyr a sicrhau profiad ymgeisydd cadarnhaol i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Ardal yn gydweithrediad caffael newydd ar draws y pedwar awdurdod lleol sy'n gwasanaethu pobl a chymunedau Caerdydd, Sir Fynwy, Torfaen a Bro Morgannwg. Caiff mwy na £1 biliwn ei wario bob blwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith yn y pedwar awdurdod. **Am Y Swydd** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'n Tîm Strategaeth a...