Gweithiwr Cymorth

2 weeks ago

Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle wedi codi i ymuno â'r Tîm Byw â Chymorth Caerdydd. Rydym yn chwilio am weithwyr cymorth i roi cymorth i unigolion ag anabledd dysgu. Rydym yn ymrwymedig i gynnig gwasanaeth o safon uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion yn cynnig gwaith prysur a diddorol y byddech yn ei ddisgwyl mewn prifddinas. Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm blaengar yn gweithio gyda phobl i hyrwyddo a gwneud y gorau o fyw'n annibynnol.

Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd ein hymyriadau ac yn darparu cymorth parhaus i'ch galluogi i gyflawni hyn drwy ddarparu sesiynau sefydlu, amser gwarchodedig, goruchwyliaeth reolaidd a'n fframwaith sicrwydd ansawdd. Mae Gwasanaethau Oedolion Caerdydd yn cynnig rhaglen hyfforddi eang a helaeth sy'n cael ei diweddaru'n rheolaidd.

Rydym yn ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles oedolion ac yn disgwyl i'n staff rannu'r ymrwymiad hwn.

**Am Y Swydd**
Rydym am recriwtio nifer o rolau Gweithiwr Cymorth Gradd 5 o dan gontract parhaol mewn lleoliad byw â chymorth. Rydym yn gweithio’n greadigol gan ddefnyddio model sy’n seiliedig ar gryfderau ac arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gyflawni’r canlyniadau gorau i’n hoedolion a’u teuluoedd.

Bydd y rôl hon yn cynnwys gweithio gydag unigolion ag anabledd dysgu, i'w cefnogi i gyflawni canlyniadau cadarnhaol yn eu bywydau. Mae CSL (Byw â Chymorth Caerdydd) yn rhan o Dîm Integredig ehangach, ac mae’r gwaith yn cynnwys cydweithio a gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr ar draws sefydliadau iechyd, gofal cymdeithasol a thrydydd parti sy’n rhannu’r nod o sicrhau bod oedolion yn hybu eu hannibyniaeth ac yn cynnal eu lles.

Rydym yn wasanaeth a reoleiddir, a byddem yn disgwyl i chi fodloni'r meini prawf i'ch galluogi i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Byddwch yn gweithio gydag oedolion a'u teuluoedd i ddilyn cynlluniau gofal a chymorth priodol a fydd yn eu galluogi i gyflawni eu canlyniadau personol a'r hyn sy'n bwysig iddynt. Byddwch yn cael eich goruchwylio’n rheolaidd gan Uwch Weithiwr Cymdeithasol Gradd 6 yn eich tîm. Fel aelod staff gwerthfawr o Wasanaethau Oedolion Cyngor Caerdydd, bydd cyfleoedd hyfforddi ar gael i sicrhau eich datblygiad proffesiynol parhaus.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
- Rydym yn awyddus i recriwtio staff sy’n frwd dros ein gwasanaeth. Rydym yn chwilio am bobl sydd wedi ymrwymo i roi ein hoedolion wrth wraidd y gwaith a wnawn ac sydd am weithio mewn maes gwaith cyflym, deinamig ac amrywiol.
- Byddwch yn barod i ymgymryd â hyfforddiant i wella sgiliau a gwybodaeth i ddarparu cymorth o safon sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
- Byddwch yn ymrwymedig i hyfforddiant, mynychu sesiynau cymorth cymheiriaid a goruchwylio.
- Byddwch yn barod i weithio'n hyblyg a chefnogi pobl yn gadarnhaol ym mhob agwedd ar eu bywyd bob dydd.
- Byddwch am weithio ym mhrifddinas Cymru mewn Gwasanaethau lle rydym yn cefnogi ein gilydd ac yn Gweithio
- Byddai'r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn enwedig y Gymraeg, ac Ieithoedd Cymunedol yn fantais.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac yn addas ar gyfer rhannu swydd.

Mae diogelu oedolion ac amddiffyn plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor a'n nod yw cefnogi plant ac oedolion i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y cyngor a phob ysgol.

Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03896

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae nifer o gyfleoedd cyffrous ar gael ar hyn o bryd yn nhîm Polisi a Gwasanaethau Ymfudo Cyngor Caerdydd. Mae'r rhain yn rolau newydd wrth i ni ehangu ein tîm presennol a thyfu ein cynnig gwasanaeth lleol i gefnogi newydd-ddyfodiaid yn y ddinas. Mae'r Tîm Polisi a Gwasanaethau Ymfudo wedi'i leoli yn yr adran Polisi a Phartneriaethau,...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Dydd Caerdydd yn Wasanaeth Dydd arbenigol sy’n cynnig cymorth i oedolion ag anableddau dysgu sydd ag anghenion cymorth cymhleth. Caiff pobl eu cynorthwyo gan y gwasanaeth i fanteisio ar amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfleoedd gwerthfawr yn y gymuned leol â’r nod o gyflawni’r canlyniadau a nodwyd. **Am Y...

    **Am Y Gwasanaeth** Myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol yn eich blwyddyn olaf yn y Brifysgol? Cael swydd Gweithiwr Cymdeithasol parhaol yn syth erbyn cymhwyso’r flwyddyn nesaf. **Cyflog Cystadleuol** **Taliad Atodol ar sail y Farchnad** **Rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr** **Tyfu a datblygu** **_ Dinas sy’n Dda i Blant UNICEF_** **Dull Ffocws ar y...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn brifddinas fywiog, amrywiol a chyffrous i bawb. Nid nepell o lan y môr, y cymoedd a’r mynyddoedd, siopa penigamp a bywyd nos neu leoliadau pentrefol llonydd. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Chaerdydd, sy’n Awdurdod ar daith weithredu drwy ddefnyddio’r dull Arwyddion Diogelwch i ganolbwyntio ar gynorthwyo ein...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Dydd Caerdydd yn Wasanaeth Dydd arbenigol sy’n cynnig cymorth i oedolion ag anableddau dysgu sydd ag anghenion cymorth cymhleth. Caiff pobl eu cynorthwyo gan y gwasanaeth i fanteisio ar amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfleoedd gwerthfawr yn y gymuned leol â’r nod o gyflawni’r canlyniadau a nodwyd. **Am Y...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi'n Fyfyriwr Gwaith Cymdeithasol yn eich blwyddyn olaf yn y brifysgol?** **Mae gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd yn cynnig cyfle unigryw i sicrhau swydd Gweithiwr Cymdeithasol parhaol yn barod ar gyfer pan fyddwch yn cymhwyso y flwyddyn nesaf.** **Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cyflwyno cais; byddwn yn gwarantu cyfweliad...

  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd a Syndrom Tourette’s sydd ag anghenion gofal a chymorth. Mae'r tîm yn...