Gweithiwr Cymdeithasol
3 days ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru, gan gynnig cyfle i weithwyr cymdeithasol weithio gyda phoblogaeth hynod amrywiol gydag amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth. Fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru rydym yn cefnogi bron i 5000 o unigolion i fyw'n dda, gan gynnig strwythur cymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn iddynt i sicrhau eu bod yn gallu diwallu eu hanghenion a'u canlyniadau eu hunain.
**_ Gwasanaethau Oedolion Cymunedol_** Dyma ein tîm mwyaf yng Nghaerdydd sy'n cefnogi unrhyw un dros 18 oed gydag anableddau corfforol a phobl hŷn. Mae'r timau'n cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol yn y gymuned ac mewn ysbytai sy'n cynnig gwasanaethau i unigolion a theuluoedd o'r tro cyntaf y bydd angen cymorth arnynt gan y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion drwy gydol eu taith gyda ni. Gan weithio ochr yn ochr gyda thîm amlddisgyblaethol ehangach, gan gynnwys timau Therapi Galwedigaethol, Cynorthwywyr Gwaith Cymdeithasol, timau Canolfan Ddydd a chydweithwyr Iechyd, rydym yn dod o hyd i atebion i gefnogi unigolion orau i gyflawni eu canlyniadau. Mae gennym ni berthnasoedd cytundebol gydag ystod eang o ddarparwyr gofal cartref er mwyn rhoi gofal a chymorth ledled Caerdydd a chartrefi gofal preswyl, gan sicrhau bod pob opsiwn ar gael i ddiwallu orau anghenion unigolion.
O fewn y Gwasanaethau Cymunedol Oedolion, mae nifer o dimau sy'n sicrhau bod unigolion yn cael cymorth yn y lle iawn ar yr adeg iawn.
- Tîm Cyswllt ac Asesu
- Tîm Ysbyty
- Tîm Rheoli Achosion
- Tîm Adolygu
- Tîm Dyletswydd Cymunedol:
**Am Y Swydd**
Mae'r swydd hon ar gyfer Uwch Weithiwr Cymdeithasol Gradd 8 sy'n gweithio yn ein Tîm Cyswllt ac Asesu, mae'r tîm yn gweithio gyda dinasyddion sy'n newydd i’r Gwasanaethau Oedolion
Bydd y rôl benodol hon yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau gwaith cymdeithasol ymhellach o fewn tîm proffesiynol, cefnogol, creadigol a gweithgar.
Byddwch yn gweithio'n uniongyrchol gyda dinasyddion a gofalwyr anffurfiol, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill gan ddefnyddio arfer sy'n seiliedig ar gryfderau sy'n ceisio gwneud y mwyaf o fyw'n annibynnol ac, ar adegau, gallant gynnwys delio â sefyllfaoedd cymhleth.
Bydd cyfle hefyd i chi gefnogi cydweithwyr eraill yn y tîm mewn swyddogaeth oruchwylio wrth ddarparu cefnogaeth barhaus i'r Rheolwr Tîm a'r Rheolwr Gwasanaeth yn ôl yr angen. Mae disgwyl y byddwch yn ymrwymo i ddatblygu gwasanaethau ac yn ffurfio rhan o grŵp ehangach o weithwyr proffesiynol sy'n gwneud penderfyniadau sy'n edrych ar ddatblygiad strategol y maes hwn.
Mae’r cyfle cyffrous hwn o fewn Tîm Cyswllt ac Asesu Caerdydd
Mae prifddinas fywiog Cymru yn cynnig y cyfle i chi weithio yng nghymuned fwyaf Cymru, o ran ei phoblogaeth a’i hamrywiaeth. Mae ein timau Gwasanaethau Oedolion yn cefnogi dros 5000 o unigolion ac yn cynnig ystod eang o gyfleoedd proffesiynol i weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso a phrofiadol.
Byddwch yn ymuno â thîm sy'n arbenigo mewn cefnogi pobl hŷn ac unigolion ag anableddau corfforol ac sydd wedi ymrwymo i waith cymdeithasol ataliol sy'n seiliedig ar gryfderau, gan gefnogi pobl i fyw bywydau llawn ac i aros mor annibynnol â phosibl.
Fel Gweithiwr Cymdeithasol Caerdydd, bydd gennych fynediad at ystod gynhwysfawr o adnoddau a chymorth i barhau â'ch datblygiad proffesiynol ac i’ch helpu i fod y gweithiwr cymdeithasol gorau posibl.
Rydym yn cymryd lles ein staff o ddifrif ac rydym yn ymdrechu i ddarparu trefniadau gweithio cadarnhaol sy'n cefnogi ein gweithlu i deimlo eu bod yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi.
Mae Cyngor Caerdydd hefyd yn cynnig buddion gwych i staff, gan gynnwys:
- Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 27 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 32 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod.
- Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn). Adolygir y taliad hwn bob 12 mis.
- Mae ein diwylliant gwaith yn hyblyg, gyda chynllun oriau hyblyg yn eich galluogi i weithio i amserlen sy'n addas i chi, gan gynnwys mynediad at safleoedd swyddfa ledled y ddinas.
- Mynediad at Gronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwgsy'n rhan o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), sy'n cynnig cynllun pensiwn diogel, hyblyg, dibynadwy sy’n rhoi tawelwch meddwl.
- Cyfleoedd hyfforddiant a datblygu
- Cymorth a gynigir drwy fentoriaeth gyda chymorth gan uwch reolwyr
(I gael rhagor o wybodaeth am weithio fel gweithiwr cymdeithasol yng Nghaerdydd, ewch i’n Gwefan Gwaith Cymdeithasol lle gallwch ddarllen mwy am yr hyn y gallwch ei ddisgwyl wrth weithio i Gaerdydd a mwy am yr hyn sydd gennym i'w gynnig: Hafan - Gwaith Cymdeithasol Caerdydd : Gwaith Cymdeithasol Caerdydd)
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am Weithiwr Cymdeithasol cymwys gydag o leiaf dwy flynedd o brofiad. Fel yr ymgeisydd llwyddiannus, byddwch yn gallu gweithio'n annibynnol a rheoli eich amser. Bydd angen i chi allu dangos sgiliau asesu ard
-
Gweithiwr Cymdeithasol
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd a Syndrom Tourette’s sydd ag anghenion gofal a chymorth. Mae'r tîm yn...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys atodiad marchnad gwerth £3,000 yn ychwanegol at y cyflog rhestredig. Mae'r gwasanaeth Niwroamrywiaeth yn wasanaeth newydd sy'n datblygu ac yn rhan o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion. Byddwn yn gweithio gydag oedolion sydd â diagnosis o niwroamrywiaeth gan gynnwys Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol yn eich blwyddyn olaf yn y Brifysgol? Cael swydd Gweithiwr Cymdeithasol parhaol yn syth erbyn cymhwyso’r flwyddyn nesaf. **Cyflog Cystadleuol** **Taliad Atodol ar sail y Farchnad** **Rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr** **Tyfu a datblygu** **_ Dinas sy’n Dda i Blant UNICEF_** **Dull Ffocws ar y...
-
Gweithiwr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso
6 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Ydych chi'n Fyfyriwr Gwaith Cymdeithasol yn eich blwyddyn olaf yn y brifysgol?** **Mae gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd yn cynnig cyfle unigryw i sicrhau swydd Gweithiwr Cymdeithasol parhaol yn barod ar gyfer pan fyddwch yn cymhwyso y flwyddyn nesaf.** **Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cyflwyno cais; byddwn yn gwarantu cyfweliad...
-
Gweithiwr Cymdeithasol Ardal
6 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Mae Caerdydd yn cynnig y...
-
Gweithiwr Cymdeithasol Ardal
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn elwa o fod yn brifddinas Cymru ac yn ddinas sy'n tyfu gyda phoblogaeth amrywiol. Mae plant Caerdydd angen gweithwyr cymdeithasol sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o anghenion a phrofiadau sydd yn ei dro yn rhoi cyfle i weithwyr cymdeithasol ddatblygu arbenigedd ac i arwain ymarfer yng Nghymru. Mae Caerdydd yn cynnig y...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol. Rydym yn chwilio am weithiwr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â'n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion mewn tîm iechyd meddwl cymunedol integredig...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
4 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy swydd ar gael ar hyn o bryd - un rhan-amser wedi ei lleoli yn Nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol Links yn Adamsdown, Caerdydd ac un llawn amser yn TIMC Pentwyn ym Mhentwyn, Caerdydd. Mae gweithio yn y...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
4 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae ein timau Anableddau Dysgu yn rhan o gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau o fewn Cyngor Caerdydd. Fel cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a materol i fywydau pobl bob dydd. Mae gennym ddau dîm anableddau dysgu sy'n cwmpasu dwyrain a...
-
Gweithiwr Cymdeithasol
5 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae'r swydd hon yn cynnwys ychwanegiad marchnad o £3,000 yn ychwanegol at y cyflog a restrir. Telir lwfans AMHP pellach o £2800 yn ychwanegol at y cyflog ac atodiad y farchnad, os yn berthnasol. Rydym yn chwilio am weithwyr cymdeithasol cofrestredig i ymuno â’n timau Iechyd Meddwl Cymunedol amlddisgyblaethol yng Nghaerdydd. Mae dwy...