Uwch Gynorthwy-ydd Adennill Dyledion

4 days ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae swydd Uwch Gynorthwy-ydd Adennill Dros Dro wedi dod ar gael yn Adran Adennill y Gwasanaethau Refeniw hyd at y 1af o Hydref 2025. Mae deiliad y swydd hon yn gyfrifol am adennill y Dreth Gyngor, Ardrethi Busnes, Dirwyon Parcio, Throseddau Traffig sy’n Symud a Mân ddyled sydd heb eu talu. Mae'r adran yn brysur, ac mae’r llwyth gwaith yn uchel.

Bydd cyfle i ymwneud â gwaith yr Adain Adennill Incwm sy'n codi anfonebau i ddefnyddwyr gwasanaeth i'w talu am wasanaethau amrywiol y Cyngor.
**Am Y Swydd**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag Adran brysur fawr. Gan weithio i derfynau amser tynn, bydd y dyletswyddau'n eang ac yn amrywiol a byddant yn cynnwys cyfrifoldebau goruchwylio, dirprwyo ar gyfer Swyddogion Adennill Dyledion absennol, dyrannu gwaith i Gynorthwywyr Adennill Incwm a'r Tîm Adennill Incwm a monitro terfynau amser ac allbwn at ddibenion ansawdd a hyfforddiant. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn cymryd rhan yn y gwaith o hyfforddi aelodau newydd ac aelodau presennol y Timau. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr o ddyletswyddau.

Mae cyswllt ffôn dyddiol â chwsmeriaid yn rhan hanfodol o'r rôl, felly mae'n rhaid meddu ar sgiliau cyfathrebu llafar a sgiliau negodi da.

Yn ogystal, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn cymryd rhan yn nyletswyddau dyddiol y Tîm Adennill Incwm. Ymhlith y dyletswyddau dyddiol hyn mae cysylltu ag Gwasanaethau i ddatrys ymholiadau anfonebau, echdynnu data o SAP mewn perthynas ag anfonebau hwyr a darparu adroddiadau i Wasanaethau mewn perthynas ag anfonebau sydd heb eu talu. Mae mynychu cyfarfodydd â Gwasanaethau i drafod anfonebau sydd heb eu hateb hefyd yn un o ofynion y rôl.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Byddwch yn unigolyn hynod frwdfrydig â chymwysterau TGAU mewn pum pwnc neu fwy. Dylai fod gennych sgiliau cyfathrebu a negodi rhagorol a phrofiad o weithio mewn amgylchedd adennill dyledion. Mae’r gallu i weithio dan bwysau ac i fodloni terfynau amser yn hanfodol. At hynny, gan y bydd rhaid monitro a chadw cofnodion, mae sgiliau TG da yn hanfodol.

Bydd y swydd yn cynnwys siarad â’r cyhoedd dros y ffôn bob dydd a byddwch hefyd yn cynnig arweiniad a chyngor ar achosion cymhleth i Gynorthwywyr Adennill Dyledion a'r Tîm Adennill Incwm. Felly, mae'n hanfodol eich bod yn gallu dangos sgiliau cyfathrebu hyderus a phendant ac yn gallu datrys problemau.

Dylai fod gennych brofiad o weithio mewn amgylchedd swyddfa prysur a dylech allu gweithio fel rhan o dîm.Dylech ddangos dull hyblyg o weithio gan fod y dyletswyddau'n niferus ac yn amrywiol, mae llawer o waith i’w wneud a gall gwaith blaenoriaeth newid ar fyr rybudd felly mae gallu i addasu i newid yn hanfodol.

I gyflawni’r rôl hon, bydd gofyn i chi ddangos bod gennych:

- Sgiliau rhifedd rhagorol
- Sgiliau negodi datblygedig
- Gallu datrys problemau
- Gallu paratoi gwaith cywir
- Manwl gywirdeb.
- Sgiliau cyfathrebu clir yn ysgrifenedig ac ar lafar
- Sgiliau bysellfwrdd amlwg
- Sgiliau gofal cwsmeriaid rhagorol
- Sgiliau trefnu da.
- Mae dull hyblyg o weithio a hyblygrwydd o ran lleoliad gwaith yn hanfodol, gan y bydd disgwyl mynd i’r swyddfa sawl diwrnod bob wythnos - ar fyr rybudd ar adegau.

Mae hyn yn hanfodol oherwydd yr amrywiaeth o dasgau a nifer y terfynau amser a thargedau y mae'n rhaid eu cynnal.

Gan fod y rôl yn cynnwys cefnogi tîm o Gynorthwywyr Adennill a'r Tîm Adennill Incwm, bydd argaeledd a pharodrwydd i fynychu'r swyddfa sawl gwaith yr wythnos, bob wythnos yn hanfodol i gynnig cymorth a hyfforddiant i'r Timau. Felly, mae hyblygrwydd yn ofyniad pwysig i'r rôl.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Swydd dros dro yw hon tan 01/10/2025.

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr/Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Prif Swyddog perthnasol neu uwch swyddog enwebedig ar raddfa heb fod yn is na OM2 neu’r Pennaeth / Corff Llywodraethu yn achos staff mewn ysgolion all gymeradwyo ceisiadau.

Cynigir y swydd hon ar sail gweithio hybrid pan fydd deiliad y swydd wedi’i hyfforddi’n llawn - fodd bynnag, dylid nodi y bydd angen mynd i’r swyddfa sawl diwrnod **bob**wythnos i gefnogi'r Gwasanaeth, y Swyddogion Adennill Dyledion, y Cynorthwywyr Adennill Dyledion, a'r Tîm Adennill Incwm.

Mae’r swydd wag hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

I gael sgwrs anffurfiol, ar ôl darllen y Disgrifiad Swydd / Manyleb Person, cysylltwch â Joe Norman / Emma O’Hanlon / Sonia Marshall / Fiona Williams ar (029) 20871280.

Rydym yn deall y gallech ddefnyddio AI ac adnoddau eraill ar gyfer eich cais: fodd bynnag sicrhewch fod yr holl wybodaeth a roddwch yn ffeithiol gywir, yn gywir, yn wreiddiol ac nad yw'n cynnwys syniadau neu waith nad yw'n eiddo i chi.

Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodo



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Nod y Gwasanaethau Plant yw sicrhau bod plant a theuluoedd Caerdydd yn cael y gwasanaeth a'r cymorth gorau. Mae Caerdydd wedi ymrwymo i fod yn 'Ddinas sy’n Dda i Blant’ sy’n rhoi hawliau plant ar flaen y gad o ran datblygu polisi a strategaeth. **Am Y Swydd** Mae cyfle Parhaol cyffrous wedi codi yn nhîm Cyllid Gwasanaethau Plant...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Hyb Diogelu Amlasiantaethol yn un o’r drysau ffrynt i Wasanaethau Plant Caerdydd. Yma rydym yn prosesu atgyfeiriadau ac adroddiadau gan yr heddlu sy’n nodi pryderon am blant yng Nghaerdydd. Mae'r Hyb hefyd yn ymdrin â galwadau gan aelodau o'r cyhoedd yn ogystal â gweithwyr proffesiynol, o athrawon i swyddogion prawf sy'n...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn ceisio darparu gwasanaeth cyllid tai hygyrch o ansawdd uchel. Ar hyn o bryd mae gan y Gwasanaeth swydd wag lawn amser ar gyfer Swyddog Rheoli Dyledion Gradd 5 yn y Tîm Cyllid Tai. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am adennill dyledion gan gynnwys gordaliadau budd-dal tai, dyledion...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Yr Hyb Diogelu Amlasiantaethol (y MASH) yw'r pwynt cyswllt cyntaf i unrhyw un a allai fod yn poeni am les plentyn yng Nghaerdydd. Mae'r MASH yn ymateb i aelodau'r cyhoedd, ac i weithwyr proffesiynol a allai fod angen cyngor neu sydd eisiau adrodd am bryderon. Mae ansawdd ac amseroldeb y wybodaeth a gesglir ac a gofnodir yn helpu i lunio...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous ar hyn o bryd i Gynorthwy-ydd Domestig ymuno â’n tîm profiadol ac ymroddedig. - Swydd barhaol Cynorthwy-ydd Domestig 16 Awr gan gynnwys gweithio ar benwythnosau (am daliad uwch). Mae Crosslands, sy'n rhan o Gyngor Caerdydd, yn Gartref Plant yn ardal Trelái yng Nghaerdydd, sy'n darparu gofal o ansawdd uchel i 6 o...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â Thîm Cymorth Nam Synhwyraidd Gwasanaeth Cynhwysiant Addysg Caerdydd fel Cynorthwy-ydd Addysgu yn cefnogi dysgwyr â Nam ar y Golwg. Fel Gwasanaeth, rydym yn gweithio mewn partneriaeth i hwyluso cynhwysiant i ddysgwyr â Nam ar y Golwg yn eu hysgolion lleol, colegau a lleoliadau blynyddoedd cynnar...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r swydd hon yn Is-adran y Dreth Gyngor. Mae’r Is-adran hon yn gyfrifol am gasglu dros £200 miliwn y flwyddyn i helpu’r Cyngor i ariannu ei wasanaethau. Rydym yn ymdrechu’n barhaus i gynnal a gwella ein cyfraddau casglu sy’n helpu i sicrhau’r grym gwario mwyaf posib i’r Cyngor. Mae’r is-adran hon hefyd yn gyfrifol am...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Bryn y Deryn a Chanolfan Carnegie yn Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) CA4 ar gyfer 90 o ddisgyblion sydd ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol, cymdeithasol ac iechyd meddwl. Rydym yn edrych i benodi Swyddog Cymorth Gweinyddol i'n tîm positif presennol. **Am Y Swydd** Trefnu a goruchwylio systemau gweinyddol yn yr ysgol. Cyfrannu at...

  • Swyddog Cyllid

    6 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Nod Cyngor Caerdydd yw darparu gwasanaeth hygyrch o ansawdd uchel. Ar hyn o bryd, mae gan y gwasanaeth 2 swydd wag amser llawn, dros dro hyd nes 31.3.23 ar gyfer swyddogion cyllid o fewn y tîm cyllid. **Am Y Swydd** Prif swyddogaeth y swydd yw bod yn gyfrifol am adennill ôl-ddyledion rhent ardal yn y ddinas a chymryd pob cam adfer...