Cynorthwy-ydd Casglu
5 days ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae swydd ar gael gyda’r tîm Ardrethi Busnes yn Is-adran Refeniw’r Gwasanaethau Corfforaethol.
**Am Y Swydd**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am helpu i filio a chasglu ardrethi busnes o tua 13,000 o fusnesau yn y ddinas a phrif ddiben y swydd fydd i ddiweddaru a chynnal gwybodaeth am gyfrifon yn gywir.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Disgwylir i chi ymdrin â threthdalwyr yn ysgrifenedig ac ar y ffôn. Croesewir yn arbennig geisiadau gan bobl sydd â phrofiad blaenorol o weithio mewn amgylchedd Refeniw.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae'r swydd hon yn addas ar gyfer gweithio hybrid unwaith y bydd hyfforddiant wedi'i gwblhau ond bydd yn seiliedig ar swyddfa ar gyfer y cyfnod hyfforddi cychwynnol.
Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Safonol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae'r swydd wag hon yn addas i'w rhannu.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_._
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: RES01231