Swyddog Cyswllt
2 days ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Cymunedau a Thai ar gyfer Swyddog Cyswllt o fewn y Gwasanaethau Byw'n Annibynnol.
Mae’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol yn cynorthwyo oedolion sy’n agored i niwed i fyw yn annibynnol gartref a bod yn gysylltiedig yn eu cymunedau eu hunain trwy wybodaeth, cyngor a chefnogaeth wedi'i theilwra - gan alluogi pobl i reoli eu bywydau eu hunain
**Am Y Swydd**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio fel aelod o'r tîm Pwynt Cyswllt Cyntaf, yn cynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth o ran Gwasanaethau Byw’n Annibynnol i aelodau’r cyhoedd, gan gysylltu â Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chyfeirio at asiantaethau eraill.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a TG ardderchog a phrofiad o weithio ym maes Gofal Cymdeithasol, Iechyd, y 3ydd Sector neu amgylchedd cynghori. Bydd gennych hanes o lwyddiant o ran rheoli adnoddau’n effeithiol a sicrhau canlyniadau ardderchog i gwsmeriaid.
Bydd angen i chi ddangos eich bod yn gallu ymateb yn sensitif i amgylchiadau unigolyn yn ogystal â bod ag agwedd gadarnhaol.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swydd hon yn destun Gwiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn brif flaenoriaethau i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg a Saesneg. Ni chaiff ceisiadau a dderbynnir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Am ragor o wybodaeth neu i gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â Maggie Friend, Rheolwr y Tîm Pwynt Cyswllt Cyntaf ar 029 20 2184 1992.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PEO02926
-
Swyddog Cyswllt Ysgolion X2
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Drwy bartneriaethau ag ysgolion, cyflogwyr, cymunedau a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, mae Addewid Caerdydd yn ceisio sicrhau cyfleoedd sy'n creu uchelgais ac yn cyflwyno sgiliau i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ac sy’n eu cefnogi i symud ymlaen i Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant. Dilynwch Addewid Caerdydd ar Facebook,...
-
Swyddog Cyswllt Porth y Teulu
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â’r Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gyfarwyddiaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Cyswllt Porth y Teulu yng Ngwasanaeth Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd. Mae’r gwasanaeth yn allweddol i ddarparu dull ‘dim drws anghywir’ y Cyngor i sicrhau bod plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn....
-
Swyddog Cyngor Ar Ddigartrefedd
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Swyddog Cyngor Digartrefedd yn y Gwasanaeth Dewisiadau Tai. Mae'r Gwasanaeth Dewisiadau Tai yn rhoi cyngor a chymorth i bobl ag anghenion tai yng Nghaerdydd. **Ynglŷn â’r Swydd** Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd hon gyflawni nifer o swyddi o fewn y gwasanaeth gan gynnwys cynorthwyo â gwaith y Swyddogion Tai gan roi cyngor...
-
Swyddog Atebion Llety
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig gyda sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol i ymuno â'n gwasanaeth Pwynt Cyswllt Cyntaf rhyddhau o’r Ysbyty, o fewn Gwasanaethau Byw'n Annibynnol, fel swyddog atebion llety. **Am Y Swydd** Mae’r Gwasanaethau Byw’n Annibynnol yn cynorthwyo oedolion sy’n agored i niwed i fyw...
-
Swyddog Hyb
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae'n bwysig i ni fod ein gweithlu'n adlewyrchu gwerthoedd ein sefydliad, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well. Mae ein hybiau Cymunedol yn cynnig cyfle gwych i ymgeiswyr...
-
Swyddog Amserlennu Opti-time
6 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Swyddog Amserlennu Opti-Time rhan-amser (18.5 awr yr wythnos) gyda’r Uned Cynnal a Chadw Ymatebol. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynnig rheolaeth amserlennu effeithiol ac yn gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau a phroblemau. **Beth...
-
Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...
-
Swyddog Prosiect Aduno Teuluol
3 days ago
Cardiff, United Kingdom British Red Cross Full time**Swyddog Prosiect Aduno Teuluol** **Lleoliad**:Caerdydd** **Cytundeb Tymor Penodol: tan 31 Mawrth 2027** **Oriau**:Rhan-amser, 24.5 awr yr wythnos** **Cyflog**:£30,070 (£21,049 pro rata) y flwyddyn** Mae pob ffoadur yn haeddu bod mewn cysylltiad â'u teulu. A allech chi chwarae rhan allweddol wrth helpu i aduno teuluoedd sydd wedi'u gwahanu? Mae...
-
Swyddog Cyswllt y Porth Teuluoedd
19 hours ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Wedi'i achredu'n ddiweddar gyda Gwobr Ansawdd Cyntaf Teuluoedd, mae'r gwasanaeth yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd uchel i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr...
-
Swyddog Cyswllt Porth I'r Teulu
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r gwasanaeth, a enillodd Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn ddiweddar, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd i blant bach, plant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol...