Rheolwr Gwasanaethau Adeiladau
2 days ago
**Am Y Gwasanaeth**
Ar hyn o bryd mae Gwasanaethau Ystâd yn chwilio am unigolyn diwyd a phrofiadol i ymuno â'n Tîm Gwasanaethau Gofalu fel Rheolwr Gofalu y Gwasanaethau Adeiladau. Yn y rôl hon, byddwch yn arwain ein tîm i ddarparu gwasanaethau glanhau a gofalu rhagorol ar gyfer blociau o fflatiau ac adeiladau yng Nghaerdydd.
**Am Y Swydd**
Fel Rheolwr Gofalu y Gwasanaethau Adeiladau, byddwch yn gyfrifol am oruchwylio gweithrediadau o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod gwasanaethau rheoli adeiladau a gofalu o ansawdd uchel yn cael eu darparu mewn blociau uchel, hosteli pobl sengl a theuluoedd, a chynlluniau byw yn y gymuned (cyfadeiladau tai gwarchod). Byddwch yn cydweithio'n agos â'n Gwasanaethau Tenantiaeth, Uned Rheoli Eiddo Gwag a Thimau Digartref i gydlynu gweithgareddau clirio a glanhau ar gyfer eiddo gwag neu denantiaid sy’n agored i niwed.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Kelly Hall, Rheolwr yr Ystâd, ar y rhif ffôn 07976003182.
Rydym yn chwilio am ymgeisydd â:
- Phrofiad blaenorol mewn rôl reoli debyg, yn ddelfrydol ym maes rheoli tai.
- Sgiliau cyfathrebu ac arwain cryf.
- Gwybodaeth am reoliadau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch.
- Y gallu i reoli cyllidebau ac adnoddau’n effeithiol.
- Profiad o reoli, hyfforddi a datblygu staff.
- Sgiliau trefnu a datrys problemau rhagorol.
- Ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel a sicrhau boddhad cwsmeriaid.
- Y gallu i arwain ac ysgogi staff, darparu hyfforddiant a chefnogaeth, a rheoli perfformiad.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Kelly Hall, Rheolwr yr Ystâd, ar y rhif ffôn 07976003182.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PEO03878
-
Rheolwr Gwasanaethau Llety a Reolir
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...
-
Rheolwr Comisiynu
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Oherwydd ail-strwythuro’r gwasanaeth mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw newydd ar gyfer Rheolwr Comisiynu sydd wedi cymhwyso'n briodol i arwain ar gomisiynu a rheoli gwasanaethau proffesiynol allanol. Mae'r Tîm hwn sydd newydd ei sefydlu yn gyfrifol am ddylunio a darparu ystod eang o...
-
Rheolwr Dylunio
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Oherwydd ail-strwythuro gwasanaeth, mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw newydd ar gyfer Rheolwr Dylunio cymwysedig i arwain, rheoli a datblygu tîm technegol sy'n cynnwys Penseiri, Peirianwyr Mecanyddol a Thrydanol, Peirianwyr Strwythurol a Phrif Ddylunydd. Mae'r Tîm hwn sydd newydd ei sefydlu...
-
Rheolwr Strwythurol
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Yn sgil ailstrwythuro gwasanaeth mae cyfle gwych wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw newydd ar gyfer Rheolwr Strwythurol cymwys i arwain ar ystod o brosiectau cysylltiedig â pheirianneg strwythurol gan ddefnyddio adnoddau mewnol ac allanol. Mae'r Tîm hwn sydd newydd ei sefydlu yn gyfrifol am ddylunio a darparu...
-
Rheolwr Gwasanaeth Mesur Meintiau
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Oherwydd ail-strwythuro gwasanaeth mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw (DAChC) newydd ar gyfer Rheolwr Gwasanaeth Mesur Meintiau cymwys i arwain, rheoli a datblygu tîm o syrfëwr meintiol. Mae'r Tîm hwn sydd newydd ei sefydlu yn gyfrifol am ddylunio a darparu ystod eang o brosiectau sy’n...
-
Rheolwr Prosiectau
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Oherwydd ail-strwythuro gwasanaeth, mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw (DAChC) newydd i Reolwr Prosiectau arwain, rheoli a datblygu tîm yn cynnwys Rheolwyr Prosiectau sy’n gyfrifol am gwmpasu a chyflawni gwaith cynnal a chadw, a thîm cynnal a chadw’n cynnwys gweithredwyr llafur...
-
Rheolwr Gwasanaeth
2 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle gwych wedi codi i unigolyn uchelgeisiol a brwdfrydig chwarae rhan allweddol wrth gyflawni gwelliant parhaus yn ein Gwasanaethau Trafnidiaeth Canolog, wedi'i leoli yn ein cyfleuster 'o'r radd flaenaf' yn Coleridge Road, Grangetown, Caerdydd. Mae Gwasanaeth Fflyd y Cyngor yn cynnal fflyd cymysg o tua 900 o gerbydau, o geir a...
-
Swyddog Contractau a Datblygu Gwasanaethau
5 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae gan Dîm Comisiynu Gwasanaethau Oedolion Cyngor Caerdydd rôl allweddol wrth brynu gwasanaethau a rheoli a monitro'r gwasanaethau sy'n cefnogi oedolion ag anghenion Gofal Cymdeithasol yn gyffredinol, ar draws swyddogaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn prynu gwerth tua £140 miliwn o...
-
Rheolwr Cyllid a Chontractau
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu. Mae'r Gyfarwyddiaeth Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd yn chwarae rhan bwysig ym mywiogrwydd y ddinas ac...
-
Gwasanaethau 24/7 - Canolfan Derbyn Galwadau
2 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Ar hyn o bryd, rydym yn datblygu ac yn ehangu'r Gwasanaeth 24/7 ac mae cyfle i unigolyn ymuno â'n tîm o fewn y Ganolfan Derbyn Galwadau Larymau fodern, fel Wardeiniaid Ardal yn Nhŷ Willcox, Dunleavy Drive (Bae Caerdydd), bydd y tîm yn darparu ymateb yn y gymuned i gwsmeriaid a chyflogeion, patrolau adeiladau a gwasanaethau dal...