Rheolwr Gwasanaeth Mesur Meintiau
2 days ago
**Am Y Gwasanaeth**
Oherwydd ail-strwythuro gwasanaeth mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw (DAChC) newydd ar gyfer Rheolwr Gwasanaeth Mesur Meintiau cymwys i arwain, rheoli a datblygu tîm o syrfëwr meintiol.
Mae'r Tîm hwn sydd newydd ei sefydlu yn gyfrifol am ddylunio a darparu ystod eang o brosiectau sy’n gysylltiedig ag adeiladau ar draws ystadau ysgol ac adeiladau corfforaethol y Cyngor. Mae'r Tîm yn mabwysiadu dull aml-ddisgyblaeth er mwyn sicrhau bod ystod eang o amcanion polisi'r Cyngor yn cael eu hystyried yn llawn. I’r perwyl hwn, mae nodau cynaliadwyedd, ynni, iechyd a diogelwch, gwastraff a lleihau carbon y Cyngor, ochr yn ochr â’i amcanion cynhwysiant, buddiannau cymunedol, llesiant a hygyrchedd, i gyd yn cael eu hystyried a’u cymhwyso i gyflawni prosiectau ar amser, o fewn eu cyllideb ac i’r ansawdd gofynnol.
**Am Y Swydd**
Prif bwrpas y rôl yw sicrhau yr ymgymerir â gwasanaethau mesur meintiau effeithiol a chwblhau gwasanaethau mesur meintiol proffesiynol i gynorthwyo'n rhagweithiol gyda gwasanaethau dichonoldeb technegol, gwasanaethau asesu a dylunio, a chynorthwyo’n rhagweithiol gyda’r gwaith o gyflawni ystod o brosiectau cysylltiedig ag adeiladu i safon gyson uchel yn unol â gofynion cwsmeriaid.
Bydd deiliad y swydd yn arwain tîm o syrfëwyr meintiol mewnol i gyflawni'r canlyniadau gofynnol, a hefyd lle bo angen yn sgil rhesymau capasiti neu dechnegol, arwain ar gomisiynu allanol gwasanaethau proffesiynol a gwaith adeiladu gan sefydliadau allanol.
Mae'r Cyngor yn cynnig pecyn buddion hael gan gynnwys:
- 27 diwrnod o wyliau blynyddol, gan godi i 32 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth;
- pensiwn cyfrannol hael;
- cynllun ildio cyflog CGY (drwy bartneriaeth ag AVC Wise);
- mynediad am bris gostyngol i rai o Ganolfannau Hamdden y Cyngor;
- tocynnau bws blynyddol am bris gostyngol;
- cefnogaeth ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus ac
- amrywiaeth o rwydweithiau cymorth staff
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am Reolwr Gwasanaeth Mesur Meintiau (Siartredig neu gyfatebol) gyda phrofiad da o reoli timau peirianneg â chyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaethau proffesiynol mewn perthynas â phrosiectau'n gysylltiedig ag adeiladu mewn amryw fathau o adeiladau gan gynnwys ysgolion.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y canlynol hefyd:
- gwybodaeth dda am ganllawiau, safonau, dulliau mesur, ac ati, sy’n berthnasol i waith adeiladu a rheoli gwaith adeiladu;
- gwybodaeth dda am wasanaethau proffesiynol a chontractau adeiladu a'u gweithredu;
- Profiad ymarferol yn prosesu taliadau contract a hawliadau contract;
- sgiliau cyfathrebu da, yn ysgrifenedig ac ar lafar, a
- sgiliau trefnu personol da a’r gallu i reoli llwyth gwaith amrywiol a heriol mewn amgylchedd sy’n newid yn gyson.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Am drafodaeth anffurfiol a rhagor o wybodaeth am y rôl hon, cysylltwch â:
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: ECO00385
-
Rheolwr Gwasanaeth Mesur Meintiau
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Oherwydd ail-strwythuro gwasanaeth mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw (DAChC) newydd ar gyfer Rheolwr Gwasanaeth Mesur Meintiau cymwys i arwain, rheoli a datblygu tîm o syrfëwr meintiol. Mae'r Tîm newydd ei sefydlu yn gyfrifol am ddylunio a chyflawni amrywiaeth eang o brosiectau sy’n...
-
Rheolwr Tîm y Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol
2 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae’r rôl hon yn cael taliad atodol ar sail y farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.** Mae cyfle cyffrous wedi codi i reolwr tîm â chymwysterau addas weithio yng Ngwasanaethau Oedolion Caerdydd. Mae swyddi Rheolwr Tîm ar gael yn y Gwasanaeth Ysbytai sy'n gweithio gyda phobl dros ddeunaw oed sydd ag...
-
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu. Mae'r Gyfarwyddiaeth Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd yn chwarae rhan bwysig ym mywiogrwydd y ddinas ac...
-
Rheolwr Gwasanaethau Llety a Reolir
4 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...
-
Rheolwr Arlwyo
2 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Arlwyo Addysg Caerdydd yn darparu gwasanaeth i oddeutu 120 o ysgolion uwchradd, cynradd ac arbennig yng Nghaerdydd gyda 500 o aelodau o staff yn coginio tua 4 miliwn o brydau bwyd y flwyddyn gan gynnig brecwast, cinio a dietau therapiwtig i ddisgyblion, gwasanaethau gwerthu ac arlwyo ar gyfer cyfarfodydd busnes **Am Y Swydd** Wedi'i...
-
Rheolwr Digidol a Phrosiectau
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn tyfu'n gyflymach nag unrhyw brifddinas arall yn Ewrop ac mae gennym gyfle cyffrous i unigolyn deinamig ymuno â'r Gwasanaeth Ailgylchu Cymdogaeth, wrth gyflawni gweithrediadau gwastraff rheng flaen gan ddarparu safon uchel o wasanaeth i fusnesau Caerdydd. **Am Y Swydd** Fel Rheolwr Digidol a Phrosiectau, byddwch yn...
-
Rheolwr Cyflawni
2 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Oherwydd ail-strwythuro ardal gwasanaeth mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw (DAChC) newydd am Reolwr Cyflawni cymwys i arwain, rheoli a datblygu tîm cyflenwi sy'n cynnwys Rheolwyr Prosiect, Syrfewyr Meintiau a thîm cynnal a chadw DLO. Mae'r Tîm hwn sydd newydd ei sefydlu yn gyfrifol am...
-
Rheolwr Cydymffurfio
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu. Mae'r Gyfarwyddiaeth Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd yn chwarae rhan bwysig ym mywiogrwydd y ddinas ac mae’n ymrwymedig i'r cymunedau y mae'n eu...
-
Tai a Chymunedau RHeolwr Ardal Gradd 9
2 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** **Ynglŷn â’r Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau ar gyfer Rheolwr Ardal gyda’r Gwasanaeth Atgyweirio Ymatebol. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn sicrhau bod gwasanaeth atgyweirio ymatebol rhagorol yn cael ei ddarparu ar gyfer ardal o'r ddinas, gan roi cymorth rheoli i dimau...
-
Rheolwr Cymorth Busnes
4 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig ymuno â'r Tîm Hyfforddi a Datblygu Gofal Cymdeithasol Gwasanaethau Oedolion sydd wedi'i leoli yn Neuadd y Sir, Caerdydd. Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae'r Tîm Hyfforddi a Datblygu Gofal Cymdeithasol wedi ymrwymo i ddatblygu ac annog ei staff yn...