Rheolwr Cyllid a Chontractau
4 days ago
**Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â'r Gwasanaeth**
Mae Caerdydd yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yng ngwledydd Prydain. Mae economi’r ddinas yn tyfu, mae swyddi a busnesau yn cael eu creu ac mae disgwyl i boblogaeth y ddinas barhau i dyfu.
Mae'r Gyfarwyddiaeth Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd yn chwarae rhan bwysig ym mywiogrwydd y ddinas ac mae’n ymrwymedig i'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu. Mae gan y Gyfarwyddiaeth gynlluniau adeiladu tai uchelgeisiol a stoc dai sylweddol a fydd yn rhagori ar 14,000 o gartrefi yn y dyfodol agos iawn.
**Am Y Swydd** Ynglŷn â’r swydd**
Mae'r swydd o fewn yr Uned Gwella Adeiladau (UGA) sy'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni cynlluniau cyfalaf mawr, gan sicrhau cydymffurfiaeth statudol yn ogystal â chaffael cysylltiedig a rheoli contractau strategol.
Bydd y Rheolwr Cyllid a Chontractau yn gyfrifol am:
- Reoli'r timau Ansawdd a Chyllid a thimau Rheoli Prosiectau o fewn yr UGA.
- Y strategaeth cyrchu a chaffael trefniadau cytundebol addas ar gyfer gwasanaethau cynnal a chadw adeiladau yn unol â gofynion y Cyngor a deddfwriaeth.
- Sicrhau bod perfformiad y gyfres lawn o'r trefniadau cytundebol hyn yn cael ei fonitro, er mwyn sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu.
- Rheoli a monitro cyllidebau, gan sicrhau bod taliadau'n cael eu gwneud yn brydlon ac yn gywir.
- Darparu gwybodaeth ystadegol mewn perthynas â'r gwaith a gwblheir gan gontractwyr a thimau mewnol a darparu adroddiadau fel sy'n ofynnol ar gyfer uwch reolwyr.
- Sicrhau bod contractwyr penodedig yn cael eu rheoli'n effeithiol i gynnwys cyfarfodydd strategol rheolaidd a darparu'r wybodaeth a data perfformiad diweddaraf fel bod yr holl ofynion cytundebol yn cael eu cyflawni.
- Cofnodi manteision cymunedol y mae'n rhaid eu darparu drwy'r fframweithiau a gaffaelwyd.
Mae’r manylion llawn am ddyletswyddau a chyfrifoldebau’r swydd yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb Person.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych** Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych chi**
Rydym yn chwilio am unigolyn profiadol a brwdfrydig iawn sy'n gallu rheoli'r maes prysur, amrywiol a datblygol hwn.
Bydd gennych brofiad amlwg o weithio mewn amgylchedd tai cymdeithasol mewn maes cymhleth tebyg a byddwch yn gallu rheoli blaenoriaethau niferus. Bydd angen dealltwriaeth dda o gyllid a chaffael arnoch a’r gallu i weithio gyda phartneriaid allanol a chyflwyno data cymhleth i ddefnyddwyr gwasanaeth ac uwch reolwyr.
Mae’r manylion llawn am ddyletswyddau a chyfrifoldebau’r swydd yn y Disgrifiad Swydd/Manyleb Person.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Wrth gwblhau’r ffurflen gais, sicrhewch fod eich datganiad yn dangos tystiolaeth eich bod yn bodloni pedwar Cymhwysedd Ymddygiadol craidd y Cyngor, ynghyd â’r sgiliau a’r profiad hanfodol/dymunol yn y Disgrifiad Swydd a’r Fanyleb Person.
Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.
Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau adran gwybodaeth ategol eich cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllaw ar Wneud Cais
- Gwneud cais am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-Droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd
Atodiadau
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd
Job Reference: PEO02199
-
Rheolwr Cymorth Busnes
4 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig ymuno â'r Tîm Hyfforddi a Datblygu Gofal Cymdeithasol Gwasanaethau Oedolion sydd wedi'i leoli yn Neuadd y Sir, Caerdydd. Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae'r Tîm Hyfforddi a Datblygu Gofal Cymdeithasol wedi ymrwymo i ddatblygu ac annog ei staff yn...
-
Rheolwr Strwythurol
2 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Yn sgil ailstrwythuro gwasanaeth mae cyfle gwych wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw newydd ar gyfer Rheolwr Strwythurol cymwys i arwain ar ystod o brosiectau cysylltiedig â pheirianneg strwythurol gan ddefnyddio adnoddau mewnol ac allanol. Mae'r Tîm hwn sydd newydd ei sefydlu yn gyfrifol am ddylunio a darparu...
-
Rheolwr Dylunio
2 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Oherwydd ail-strwythuro gwasanaeth, mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw newydd ar gyfer Rheolwr Dylunio cymwysedig i arwain, rheoli a datblygu tîm technegol sy'n cynnwys Penseiri, Peirianwyr Mecanyddol a Thrydanol, Peirianwyr Strwythurol a Phrif Ddylunydd. Mae'r Tîm hwn sydd newydd ei sefydlu...
-
Rheolwr Gwasanaeth Mesur Meintiau
2 weeks ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Oherwydd ail-strwythuro gwasanaeth mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw (DAChC) newydd ar gyfer Rheolwr Gwasanaeth Mesur Meintiau cymwys i arwain, rheoli a datblygu tîm o syrfëwr meintiol. Mae'r Tîm newydd ei sefydlu yn gyfrifol am ddylunio a chyflawni amrywiaeth eang o brosiectau sy’n...
-
Rheolwr Gwasanaeth Mesur Meintiau
2 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Oherwydd ail-strwythuro gwasanaeth mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw (DAChC) newydd ar gyfer Rheolwr Gwasanaeth Mesur Meintiau cymwys i arwain, rheoli a datblygu tîm o syrfëwr meintiol. Mae'r Tîm hwn sydd newydd ei sefydlu yn gyfrifol am ddylunio a darparu ystod eang o brosiectau sy’n...
-
Rheolwr RHaglen a Phrosiectau
2 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o ddinasoedd gwyrddaf y Deyrnas Unedig, ac mae ein rhwydwaith helaeth o barciau a mannau gwyrdd y mae gan ein trigolion gysylltiad agos â llunio’i chymeriad, gan roi blas ar ein prifddinas. Mae'r Cyngor yn cydnabod y cyfraniad y mae'r mannau hyn yn ei wneud i les amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol y ddinas, y...
-
Rheolwr Gweithredol
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mewn ymgynghoriad â thrigolion y ddinas, arbenigwyr iechyd a thrafnidiaeth, mae Cynllunio, Trafnidiaeth a'r Amgylchedd wedi llunio cynllun deng mlynedd uchelgeisiol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, lleihau tagfeydd a gwella ansawdd aer ym Mhrifddinas Cymru. Bydd y rôl hon yn gyfle cyffrous ac unigryw i gefnogi a chydlynu'r...
-
Prif Beiriannydd
4 days ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i Brif Beiriannydd weithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Chyflenwi, gan ddarparu cefnogaeth i'r arweinydd tîm drwy arwain a chefnogi’r adran wrth ddarparu amrywiaeth o brosiectau seilwaith ledled Caerdydd.** **Am Y Swydd** Mae Contractau, Dylunio a Chyflenwi yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac maen nhw'n...
-
Prif Beiriannydd
1 week ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i Brif Beiriannydd weithio o fewn yr Adran Dylunio, Contractau a Chyflenwi, gan ddarparu cefnogaeth i'r arweinydd tîm drwy arwain a chefnogi’r adran wrth ddarparu amrywiaeth o brosiectau seilwaith ledled Caerdydd.** **Am Y Swydd** Mae Contractau, Dylunio a Chyflenwi yn dîm sy'n ehangu'n gyflym ac maen nhw'n...
-
Programme Officer – Researcher Development
2 days ago
Cardiff, Cardiff, United Kingdom Learned Society of Wales Full timeSwyddog Rhaglen – Datblygu YmchwilwyrRydym yn chwilio am Swyddog Rhaglen rhagweithiol a phroffesiynol i gefnogi cam nesaf ein rhaglen Datblygu Ymchwilwyr. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ochr yn ochr â'r Rheolwr Rhaglen, ac yn cefnogi cyflawni un o'r pedair blaenoriaeth yn ein strategaeth pum mlynedd, sef: "creu amgylchedd sy'n cefnogi arbenigwyr Cymru...