Rheolwr Prosiectau

1 week ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Oherwydd ail-strwythuro gwasanaeth, mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw (DAChC) newydd i Reolwr Prosiectau arwain, rheoli a datblygu tîm yn cynnwys Rheolwyr Prosiectau sy’n gyfrifol am gwmpasu a chyflawni gwaith cynnal a chadw, a thîm cynnal a chadw’n cynnwys gweithredwyr llafur uniongyrchol.

Mae'r Tîm hwn sydd newydd ei sefydlu yn gyfrifol am ddylunio a chyflawni ystod eang o brosiectau sy’n gysylltiedig ag adeiladau ar draws ystadau ysgol ac adeiladau corfforaethol y Cyngor. Mae'r Tîm yn mabwysiadu dull amlddisgyblaethol er mwyn sicrhau bod ystod eang o amcanion polisi'r Cyngor yn cael eu hystyried yn llawn. I’r perwyl hwn, mae nodau cynaliadwyedd, ynni, iechyd a diogelwch, gwastraff a lleihau carbon y Cyngor, ochr yn ochr â’i amcanion cynhwysiant, buddiannau cymunedol, lles a hygyrchedd, i gyd yn cael eu hystyried a’u cymhwyso i gyflawni prosiectau ar amser, o fewn eu cyllideb ac i’r ansawdd gofynnol.

**Am Y Swydd**
Prif bwrpas y rôl yw sicrhau bod gwaith cynnal a chadw adeiladau yn cael ei gyflawni'n llwyddiannus o'r dechrau i’r diwedd, drwy dimau mewnol a chontractwyr allanol ar draws ystâd adeiladau'r Cyngor, i safon gyson uchel yn unol â gofynion y cwsmer.

Bydd deiliad y swydd yn arwain, yn rheoli ac yn datblygu Timau o Reolwyr Prosiectau a Goruchwylwyr/Gweithredwyr Llafur Uniongyrchol i sicrhau y darperir gwasanaethau cynnal a chadw adeiladau’n effeithiol ac yn effeithlon ar draws ystâd adeiladau'r Cyngor.

Bydd deiliad y swydd hefyd yn cyflawni rôl Rheolwr Fframwaith y Fframwaith Cynnal a Chadw Adeiladau Annomestig.

Mae'r Cyngor yn cynnig pecyn buddion hael gan gynnwys:

- 27 diwrnod o wyliau blynyddol, gan godi i 32 diwrnod ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth;
- pensiwn cyfrannol hael;
- cynllun ildio cyflog CGY (drwy bartneriaeth ag AVC Wise);
- mynediad am bris gostyngol i rai o Ganolfannau Hamdden y Cyngor;
- tocynnau bws blynyddol am bris gostyngol;
- cefnogaeth ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus ac
- amrywiaeth o rwydweithiau cymorth staff

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n briodol gymwys ac sydd â phrofiad da o fod yn rheolwr llinell ar dimau sy'n gyfrifol am gyflawni gwaith cynnal a chadw adeiladau wedi’i gynllunio ac ymatebol, rheoli contractau a goruchwylio amrywiaeth o fathau o adeiladau gan gynnwys ysgolion.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y canlynol hefyd:

- Gwybodaeth dechnegol dda am ddulliau cynnal a chadw adeiladau cyffredinol ac am ddulliau cynnal a chadw mecanyddol a thrydanol;
- Gwybodaeth amlwg am ddeddfwriaeth berthnasol a/neu Godau Ymarfer h.y. Adeiladu, Rheoliadau Adeiladu ac Iechyd a Diogelwch;
- Profiad ymarferol o nodi a rheoli risg, yn enwedig rhai o natur iechyd a diogelwch;
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig, a
- Sgiliau trefnu personol da a’r gallu i reoli llwyth gwaith amrywiol a heriol mewn amgylchedd sy’n newid yn gyson.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
I gael trafodaeth anffurfiol a rhagor o wybodaeth am y rôl hon, cysylltwch â:
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.

Nid yw'r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau eich cais, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig y mae angen i chi ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllaw ar Wneud Cais
- Ymgeisio am swyddi gyda ni
- Fframwaith Cymwyseddau Ymddygiadol

Gwybodaeth ychwanegol:

- Siarter Cyflogeion
- Recriwtio Cyn-Droseddwyr
- Hysbysiad Preifatrwydd

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: ECO00386


  • Rheolwr Prosiectau

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn cyflwyno rhaglen tai newydd ar raddfa fawr a chyffrous o'r enw Cartrefi Caerdydd mewn partneriaeth. Mae nifer o brosiectau eisoes wedi eu cwblhau'n llwyddiannus, gyda mwy o gamau'r rhaglen yn yr arfaeth ar safleoedd sy’n eiddo i'r Cyngor. Bydd hyn yn cynnwys cynlluniau adfywio mawr defnydd cymysg, cyffrous. Felly,...

  • Rheolwr Prosiectau

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn cyflwyno rhaglen tai newydd ar raddfa fawr a chyffrous o'r enw Cartrefi Caerdydd mewn partneriaeth. Mae nifer o brosiectau eisoes wedi eu cwblhau'n llwyddiannus, gyda mwy o gamau'r rhaglen yn yr arfaeth ar safleoedd sy’n eiddo i'r Cyngor. Bydd hyn yn cynnwys cynlluniau adfywio mawr defnydd cymysg, cyffrous. Felly,...

  • Rheolwr Gweithredol

    1 week ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Datblygu Cyngor Caerdydd. Rydym yn ymateb yn uniongyrchol i angen tai Caerdydd drwy weithredu rhaglen adeiladu newydd fawr lwyddiannus sydd â’r gallu i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd a buddsoddi'n sylweddol yn ein cymunedau presennol. Mae gennym Gyllideb Cyfalaf gwerth dros £950 miliwn a...

  • Rheolwr Gweithredol

    4 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Datblygu Cyngor Caerdydd. Rydym yn ymateb yn uniongyrchol i angen tai Caerdydd drwy weithredu rhaglen adeiladu newydd fawr lwyddiannus sydd â’r gallu i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd a buddsoddi'n sylweddol yn ein cymunedau presennol. I wneud hyn mae gennym Gyllideb Cyfalaf gwerth dros...

  • Rheolwr Prosiect

    1 week ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Gofal Cymdeithasol Cymru Social Care Wales Full time

    Rheolwr ProsiectCaerdydd neu Landudno (gweithio hybrid)Amdanom NiMae Gofal Cymdeithasol Cymru'n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, a'u teuluoedd a'u gofalwyr.I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a...

  • Rheolwr Prosiect

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Social Care Wales Full time

    Rheolwr Prosiect Caerdydd neu Landudno (gweithio hybrid) Amdanom Ni Mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, a’u teuluoedd a’u gofalwyr. I wneud hyn, rydym yn arwain ar...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn tyfu'n gyflymach nag unrhyw brifddinas arall yn Ewrop ac mae gennym gyfle cyffrous i unigolyn deinamig ymuno â’r Gwasanaethau Cymdogaeth ac Ailgylchu yn darparu gweithrediadau gwastraff rheng flaen o safon uchel i fusnesau Caerdydd. **Am Y Swydd** Fel Rheolwr Digidol a Phrosiectau, byddwch yn gyfrifol am reoli tîm...

  • Rheolwr Prosiect

    6 hours ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd am recriwtio unigolyn llawn cymhelliant sydd â phrofiad o reoli prosiectau digidol a'r gallu i weithio'n hyderus mewn partneriaeth ag arweinwyr Llywodraeth Cymru. **Am Y Swydd** Byddwch yn gyfrifol am ddatblygu Model Ailgartrefu Cyflym newydd. Nodau ac amcanion y model yw lleihau'r amser a dreulir mewn llety dros...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o ddinasoedd gwyrddaf y Deyrnas Unedig, ac mae ein rhwydwaith helaeth o barciau a mannau gwyrdd y mae gan ein trigolion gysylltiad agos â llunio’i chymeriad, gan roi blas ar ein prifddinas. Mae'r Cyngor yn cydnabod y cyfraniad y mae'r mannau hyn yn ei wneud i les amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol y ddinas, y...

  • Rheolwr RHaglen

    1 week ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae ein tîm Rhaglen MIS Addysg wedi ymrwymo i lywio trawsnewid digidol ar lefel strategol ar draws y Gyfarwyddiaeth Addysg, gan gefnogi blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor. Ein nod yw gwella gwasanaethau drwy wella systemau rheoli gwybodaeth a galluoedd digidol, gan sicrhau bod allbynnau addysg yn cael eu darparu’n effeithlon. Mae'r...