Rheolwr Gweithredol

4 days ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Datblygu Cyngor Caerdydd. Rydym yn ymateb yn uniongyrchol i angen tai Caerdydd drwy weithredu rhaglen adeiladu newydd fawr lwyddiannus sydd â’r gallu i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd a buddsoddi'n sylweddol yn ein cymunedau presennol. I wneud hyn mae gennym Gyllideb Cyfalaf gwerth dros £800 miliwn a phiblinell ddatblygu o dros 60 o safleoedd. Rydym yn darparu cartrefi cyngor newydd, cartrefi i’w gwerthu a chartrefi newydd i brynwyr tro cyntaf sydd ar gael drwy ein cynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd, ynghyd â phrosiectau adfywio a buddsoddi lleol.

Gan ddefnyddio datrysiadau arloesol, cofleidio dulliau Modern o Adeiladu a symud yn gyflym tuag at safon carbon isel rydym yn darparu cartrefi newydd ar raddfa a chyflymder. Mae angen y bobl gywir sydd â phrofiad datblygu i ymuno â'n tîm a helpu i wireddu ein dyheadau. Rydym yn frwd dros adeiladu cartrefi gwych, creu cymunedau cynaliadwy a sicrhau bod seilwaith gwyrdd, dylunio trefol a chreu lleoedd o safon wrth wraidd yr hyn a wnawn.

Oherwydd swydd wag newydd o fewn y tîm, rydym yn recriwtio ar gyfer Rheolwr Gweithredol i fwrw ymlaen â Chynllun adfywio Trem y Môr. Mae'r prosiect cyffrous hwn yn un o'r cynigion mwyaf i ailddatblygu ystadau ers degawdau a bydd yn darparu cartrefi newydd o ansawdd uchel, ynni effeithlon a charbon isel i'r gymuned bresennol.

**Am Y Swydd**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ategu ein Uwch Dîm Datblygu presennol ac yn darparu cyfeiriad strategol ar gyfer prosiect Trem y Môr. Yn rheoli tîm presennol Trem y Môr (2 swyddog) a rhoi'r adnodd a'r arbenigedd ychwanegol sydd ei angen arnom ar lefel uwch i sicrhau bod ein prosiect datblygu cyffrous hwn yn symud ymlaen.

Bydd y swydd yn goruchwylio’r gwaith o gaffael partner datblygu - o gyhoeddi’r pecyn tendro, ymdrin ag eglurhadau a drwodd i werthuso'r ceisiadau. Pan benodir y partner Datblygu bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheoli adeiladu cam 1 a'r datblygiad dylunio, cyflwyno cynllunio a chais grant, ar gyfer camau'r prosiect yn y dyfodol ynghyd ag ymgysylltu manwl â phreswylwyr a chyflwyno pecyn mawr o werth cymdeithasol.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gyfle gwirioneddol i helpu i lunio ein rhaglen ddatblygu a sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu cartrefi o safon, yn cael effaith gadarnhaol o fewn ein cymunedau ac yn gadael gwaddol parhaol.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hanes o ran datblygu tai cymdeithasol a rheoli swyddogion datblygu. Bydd gennych hanes profedig o gyflawni cynlluniau adeiladu newydd yn llwyddiannus o fewn hyfywedd cadarn a pharamedrau rhaglennu. Rhaid cael gwybodaeth weithiol fanwl am ofynion tai cymdeithasol yng Nghymru, prosesau ymgeisio'r Grant Tai Cymdeithasol a rheoli contractau adeiladu. Bydd disgwyl i chi ddatblygu dogfennau Gofynion Cyflogwyr, gan gynnwys manylebau, a meddu ar brofiad manwl o gaffael contractwyr.

Byddwch yn rhannu ein hangerdd a'n brwdfrydedd dros gyflawni prosiectau arloesol a chyffrous, creu cartrefi sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n trigolion a gosod safonau newydd ar gyfer cynaliadwyedd, creu lleoedd a dylunio trefol.

Byddwch yn brofiadol o ymgysylltu â'r gymuned/preswylwyr ac wrth ddarparu gwerth cymdeithasol ar raddfa.

Rhaid i chi fodloni'r fanyleb person er mwyn darparu’r sgiliau sydd eu hangen arnom i gyflawni prosiectau tai newydd yn unol â'n rhaglen arfaethedig, gan sicrhau bod manylebau'n cael eu bodloni, bod safonau ansawdd yn cael eu dilyn a bod y contractau'n cael eu gweithredu'n llwyddiannus i gwblhau a throsglwyddo prosiectau.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
O ganlyniad i’r amgylchiadau COVID-19 presennol, bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd ar ôl darllen y Disgrifiad Swydd, cysylltwch â David Jaques, Rheolwr Gweithredol ar 07779 314071.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO02912


  • Rheolwr Gweithredol

    1 week ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Datblygu Cyngor Caerdydd. Rydym yn ymateb yn uniongyrchol i angen tai Caerdydd drwy weithredu rhaglen adeiladu newydd fawr lwyddiannus sydd â’r gallu i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd a buddsoddi'n sylweddol yn ein cymunedau presennol. Mae gennym Gyllideb Cyfalaf gwerth dros £950 miliwn a...

  • Rheolwr Gwasanaeth

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle gwych wedi codi i unigolyn uchelgeisiol a brwdfrydig chwarae rhan allweddol wrth gyflawni gwelliant parhaus yn ein Gwasanaethau Trafnidiaeth Canolog, wedi'i leoli yn ein cyfleuster 'o'r radd flaenaf' yn Coleridge Road, Grangetown, Caerdydd. Mae Gwasanaeth Fflyd y Cyngor yn cynnal fflyd cymysg o tua 900 o gerbydau, o geir a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle gwych wedi codi am Reolwr Trafnidiaeth uchelgeisiol, profiadol a chymwysedig i arwain a datblygu gweithrediadau fflyd Cyngor Caerdydd, wedi'i leoli mewn cyfleuster o'r radd flaenaf yn Coleridge Road, Grangetown, Caerdydd. Mae Gwasanaeth Fflyd y Cyngor yn cynnal fflyd gymysg o tua 800 o gerbydau sy'n amrywio o geir a faniau...

  • Kitchen Manager

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom National Museum of Wales Full time

    Rheolwr Ceginau, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin CymruMath o swydd wag: Parhaol/Llawn AmserCategori: Arlwyo(Arlwyo)Ystod cyflog: Gradd D £28,895.78 - £35,598.34Oriau: 37 awr yr wythnosGofyniad lefel iaith Gymraeg: DymunolCrynodeb o'r SwyddFel Rheolwr Ceginau inni, byddwch yn goruchwylio gweithrediadaur ceginau yn ein mangreoedd dynodedig, ac maer rl yn...

  • Rheolwr Prosiectau

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn cyflwyno rhaglen tai newydd ar raddfa fawr a chyffrous o'r enw Cartrefi Caerdydd mewn partneriaeth. Mae nifer o brosiectau eisoes wedi eu cwblhau'n llwyddiannus, gyda mwy o gamau'r rhaglen yn yr arfaeth ar safleoedd sy’n eiddo i'r Cyngor. Bydd hyn yn cynnwys cynlluniau adfywio mawr defnydd cymysg, cyffrous. Felly,...

  • Rheolwr Prosiectau

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn cyflwyno rhaglen tai newydd ar raddfa fawr a chyffrous o'r enw Cartrefi Caerdydd mewn partneriaeth. Mae nifer o brosiectau eisoes wedi eu cwblhau'n llwyddiannus, gyda mwy o gamau'r rhaglen yn yr arfaeth ar safleoedd sy’n eiddo i'r Cyngor. Bydd hyn yn cynnwys cynlluniau adfywio mawr defnydd cymysg, cyffrous. Felly,...

  • Rheolwr Tîm Ardal

    1 week ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r tîm rheoli o fewn Ardal Dwyrain Caerdydd fel y Rheolwr Tîm wrth i’r un presennol gadael. Mae'r swydd ar agor i'r rhai sy'n ceisio dychwelyd i Gaerdydd i weithio a'r rhai sydd am weithio i Gaerdydd am y tro cyntaf. Mae ymdeimlad o gyffro o fewn gweithlu'r Gwasanaethau Plant wrth i Gaerdydd...

  • Rheolwr RHaglen X 2

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Datblygu Cyngor Caerdydd. Rydym yn gweithredu rhaglen adeiladu newydd fawr lwyddiannus sydd â’r gallu i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd a buddsoddi'n sylweddol yn ein cymunedau presennol. I wneud hyn mae gennym Gyllideb Cyfalaf gwerth dros £800 miliwn a phiblinell ddatblygu o dros 60 o...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o ddinasoedd gwyrddaf y Deyrnas Unedig, ac mae ein rhwydwaith helaeth o barciau a mannau gwyrdd y mae gan ein trigolion gysylltiad agos â llunio’i chymeriad, gan roi blas ar ein prifddinas. Mae'r Cyngor yn cydnabod y cyfraniad y mae'r mannau hyn yn ei wneud i les amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol y ddinas, y...

  • Gweinyddwr Prosiect

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **SWYDD DDISGRIFIAD A MANYLEB PERSON** **SWYDD**:Gweinyddwr Prosiect** **LLEOLIAD**:TEL** **YN ATEBOL I’R**:Pennaeth TEL** **YN GYFRIFOL AM**:Gynnig gwasanaeth gweinyddol i’r Tîm TEL a phrosiectau eraill ar draws y coleg** **CYFLOG**:£19,979 - £21,399 y flwyddyn** **pro rata** **CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL** - Cynorthwyo Coleg Caerdydd a’r Fro...