Rheolwr Prosiectau

2 days ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Cyngor Caerdydd yn cyflwyno rhaglen tai newydd ar raddfa fawr a chyffrous o'r enw Cartrefi Caerdydd mewn partneriaeth. Mae nifer o brosiectau eisoes wedi eu cwblhau'n llwyddiannus, gyda mwy o gamau'r rhaglen yn yr arfaeth ar safleoedd sy’n eiddo i'r Cyngor. Bydd hyn yn cynnwys cynlluniau adfywio mawr defnydd cymysg, cyffrous. Felly, rydym yn chwilio am Reolwr Prosiectau (Cartrefi Caerdydd) profiadol i arwain timau'r prosiect a helpu i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r rhaglen gyffrous hon yn barhaus. Byddwch yn bwrw cyfleoedd datblygu allweddol yn eu blaen o'r syniad cychwynnol hyd at gynllunio, ac o gychwyn gwaith cytundebol hyd at drosglwyddo
**Am Y Swydd**
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddatblygu a chyflawni ein prosiectau yn ystod y cam cyn datblygu a thrwy gydol y broses gan gynnwys trosglwyddo’r eiddo. Byddwch yn adolygu cyfleoedd a chyfyngiadau safleoedd o'r cam dylunio cychwynnol hyd at y cam cynllunio. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â'r contractwr partner i benodi tîm o ymgynghorwyr a chydlynu gwaith swyddogion arweiniol i sicrhau bod prosiectau'n cael eu datblygu a'u cyflawni i'r safonau cywir (gan gynnwys Gofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021). Byddwch yn gweithio o fewn amserlenni penodedig ac o fewn cyfyngiadau ariannol. Bydd hyn oll yn ein helpu i sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu cartrefi newydd ar raddfa a chyflymder, ac i'r safonau carbon isel/sero heriol a ddisgwylir o bob cartref newydd nawr ac yn y dyfodol.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rheolwr prosiect profiadol wrth ddarparu tai cymdeithasol. Byddwch gennych hanes cryf o reoli prosiectau cyfalaf ac yn meddu ar y wybodaeth a'r arbenigedd cywir i gyflawni'r prosiectau hyn yn llwyddiannus hyd at gynllunio a chwblhau. Byddwch yn deall ac yn ystyried materion ariannol, ac yn sicrhau bod prosiectau'n hyfyw. Bydd gennych y weledigaeth i nodi cyfleoedd ar gyfer y rhaglen ddatblygu yn y dyfodol a'r gallu i gynllunio'n strategol ar gyfer anghenion y gwasanaeth.

Bydd yr unigolyn cywir yn rhannu ein gweledigaeth o ddarparu cartrefi carbon isel, cynaliadwy o safon uchel ar raddfa eang.

Yn gyfnewid am hyn cewch gyflog cystadleuol, pecyn Pensiwn rhagorol, ac oriau gwaith hyblyg gan gynnwys y cyfle i weithio’n hybrid.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Os hoffech sgwrs anffurfiol am y swydd cysylltwch â Gareth Davies, Rheolwr Gweithredol ar y rhif ffôn 07929 712259

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO04158


  • Rheolwr Prosiectau

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn cyflwyno rhaglen tai newydd ar raddfa fawr a chyffrous o'r enw Cartrefi Caerdydd mewn partneriaeth. Mae nifer o brosiectau eisoes wedi eu cwblhau'n llwyddiannus, gyda mwy o gamau'r rhaglen yn yr arfaeth ar safleoedd sy’n eiddo i'r Cyngor. Bydd hyn yn cynnwys cynlluniau adfywio mawr defnydd cymysg, cyffrous. Felly,...

  • Rheolwr Gweithredol

    1 week ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Datblygu Cyngor Caerdydd. Rydym yn ymateb yn uniongyrchol i angen tai Caerdydd drwy weithredu rhaglen adeiladu newydd fawr lwyddiannus sydd â’r gallu i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd a buddsoddi'n sylweddol yn ein cymunedau presennol. Mae gennym Gyllideb Cyfalaf gwerth dros £950 miliwn a...

  • Rheolwr Prosiectau

    1 week ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Oherwydd ail-strwythuro gwasanaeth, mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn y Tîm Dylunio, Adeiladu a Chynnal a Chadw (DAChC) newydd i Reolwr Prosiectau arwain, rheoli a datblygu tîm yn cynnwys Rheolwyr Prosiectau sy’n gyfrifol am gwmpasu a chyflawni gwaith cynnal a chadw, a thîm cynnal a chadw’n cynnwys gweithredwyr llafur...

  • Rheolwr Gweithredol

    4 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â thîm Datblygu Cyngor Caerdydd. Rydym yn ymateb yn uniongyrchol i angen tai Caerdydd drwy weithredu rhaglen adeiladu newydd fawr lwyddiannus sydd â’r gallu i ddarparu 4,000 o gartrefi newydd a buddsoddi'n sylweddol yn ein cymunedau presennol. I wneud hyn mae gennym Gyllideb Cyfalaf gwerth dros...

  • Rheolwr Prosiect

    1 week ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Gofal Cymdeithasol Cymru Social Care Wales Full time

    Rheolwr ProsiectCaerdydd neu Landudno (gweithio hybrid)Amdanom NiMae Gofal Cymdeithasol Cymru'n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a'r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, a'u teuluoedd a'u gofalwyr.I wneud hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a...

  • Rheolwr Prosiect

    2 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Social Care Wales Full time

    Rheolwr Prosiect Caerdydd neu Landudno (gweithio hybrid) Amdanom Ni Mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, a’u teuluoedd a’u gofalwyr. I wneud hyn, rydym yn arwain ar...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn tyfu'n gyflymach nag unrhyw brifddinas arall yn Ewrop ac mae gennym gyfle cyffrous i unigolyn deinamig ymuno â’r Gwasanaethau Cymdogaeth ac Ailgylchu yn darparu gweithrediadau gwastraff rheng flaen o safon uchel i fusnesau Caerdydd. **Am Y Swydd** Fel Rheolwr Digidol a Phrosiectau, byddwch yn gyfrifol am reoli tîm...

  • Rheolwr Prosiect

    10 hours ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd am recriwtio unigolyn llawn cymhelliant sydd â phrofiad o reoli prosiectau digidol a'r gallu i weithio'n hyderus mewn partneriaeth ag arweinwyr Llywodraeth Cymru. **Am Y Swydd** Byddwch yn gyfrifol am ddatblygu Model Ailgartrefu Cyflym newydd. Nodau ac amcanion y model yw lleihau'r amser a dreulir mewn llety dros...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn un o ddinasoedd gwyrddaf y Deyrnas Unedig, ac mae ein rhwydwaith helaeth o barciau a mannau gwyrdd y mae gan ein trigolion gysylltiad agos â llunio’i chymeriad, gan roi blas ar ein prifddinas. Mae'r Cyngor yn cydnabod y cyfraniad y mae'r mannau hyn yn ei wneud i les amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol y ddinas, y...

  • Rheolwr RHaglen

    1 week ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae ein tîm Rhaglen MIS Addysg wedi ymrwymo i lywio trawsnewid digidol ar lefel strategol ar draws y Gyfarwyddiaeth Addysg, gan gefnogi blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor. Ein nod yw gwella gwasanaethau drwy wella systemau rheoli gwybodaeth a galluoedd digidol, gan sicrhau bod allbynnau addysg yn cael eu darparu’n effeithlon. Mae'r...