Swyddog Hyfforddiant Ac Ansawdd

1 month ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae'r Adran Refeniw yn gyfrifol am weinyddu a chasglu'r Dreth Gyngor, Ardrethi Annomestig a Chyfrifon i’w Derbyn yng Nghaerdydd, sy'n helpu i gefnogi gwasanaethau a chyfleusterau hanfodol y Cyngor yn ariannol. Cyfanswm gwerth y rhain yw mwy na £700 miliwn y flwyddyn.

Rydym yn ymdrechu'n barhaus i sicrhau bod staff yn gallu cyflawni eu swyddi'n effeithlon ac yn effeithiol, gan ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid tra'n gwella cyfraddau casglu.

**Am Y Swydd**
Mae'r swydd barhaol gyffrous hon yn addas ar gyfer gweithio ystwyth, gan gyfuno gweithio gartref a swyddfa gydag ymweliadau achlysurol â safleoedd y Cyngor sydd eu hangen i hwyluso cyrsiau hyfforddiant.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddarparu a datblygu cyrsiau hyfforddi ar gyfer staff newydd a staff presennol ar draws nifer o wasanaethau, gyda'r ffocws ar y Dreth Gyngor a'r systemau cysylltiedig a ddefnyddir; system delweddu dogfennau Civica W360 yw'r rhain a system weinyddu Northgate.

Byddant hefyd yn arwain ar gŵynion a dderbynnir yn erbyn y gwasanaeth, yn gyfrifol am sicrhau bod cwynion yn cael eu cydnabod a'u cofnodi, gan hwyluso ymchwilio i gwynion yn unol â'r weithdrefn gwyno gorfforaethol a darparu ymatebion llawn.

Mae cwynion yn darparu adborth gwerthfawr ac mae ein staff yn eu hystyried yn gyfle cadarnhaol i ddysgu o brofiadau er mwyn sbarduno gwelliant sefydliadol parhaus ac atal materion rhag digwydd eto. Felly, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gyfrifol am ddarparu cyngor ac argymhellion sy'n angenrheidiol ar gyfer gwella gwasanaethau.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Byddwch yn drefnus ac yn frwdfrydig gydag agwedd o allu gwneud ac yn cael eich gyrru i ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid, gan arddangos y cymwyseddau ymddygiadol craidd sy'n cefnogi gwerthoedd y Cyngor.

Bydd gennych y gallu i ddadansoddi a dangos empathi, gan aros yn wrthrychol; byddwch yn drefnus gyda llygad craff am fanylion.

Byddwch yn hyderus gyda phobl ac mae gennych ddawn ar gyfer dysgu.

Byddwch yn gyfforddus yn gyrru gwelliannau ac yn defnyddio technoleg i hwyluso hyn.

Os ydych yn teimlo bod y sefyllfa hon o ddiddordeb, hoffem glywed gennych.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Mae datblygu parhaus yn cael ei gydnabod gan y Cyngor fel dull hanfodol er mwyn cynnal safonau uchel o ddarpariaeth gwasanaeth yn ogystal â chyfranogiad cyflogeion.

Cyflog gydag adolygiadau cyflog blynyddol a dilyniant cynyddrannol. Ystod o fanteision i wella’r pecyn cyflog cyffredinol gan gynnwys amser fflecsi, hawl awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Lywodraeth Leol, fel sy'n briodol. Byddwch hefyd yn gallu manteisio ar becyn gwyliau blynyddol helaeth ynghyd â manteision eraill.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Mae’r swydd hon yn destun gwiriadau Safonol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Os hoffech drafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch â John Bellett ar 029 20871538.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: RES01099



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella eu sgiliau. Mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys trwy gyfleoedd gwirfoddoli a phrojectau a ariennir yn allanol. Mae’r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn rheoli nifer o brojectau cyflogadwyedd a ariennir yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaethau Plant wedi creu tîm newydd i ganolbwyntio ar ehangu a chryfhau'r gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol. **Am Y Swydd** Bydd deiliad y swydd yn dylunio ac yn darparu amrywiaeth eang o raglenni hyfforddi gan gynnwys platfformau E-Ddysgu sy'n diwallu anghenion hyfforddi a datblygu timau'r Gwasanaethau Plant. Bydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyfeirnod**: PEO03735 **Swydd**:Swyddog Gwybodaeth Reoli / Dadansoddwr Data (Gradd 5)** **Lleoliad**: Caerdydd - Canolfan John Kane (hybrid) **Cyflog**: £25,979 - £29,777 (gan ddibynnu ar brofiad a hyd gwasanaeth) **Oriau**: Llawn-amser Dyddiad cau: 13 Chwefror 2024 Mae gennym gyfle cyffrous ar gyfer Dadansoddwr Data i gyfrannu at...

  • Welsh Headings

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Dysgu Oedolion, Dysgu ar gyfer Gwaith yn cynnig cyrsiau a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu hyblyg sydd wedi’u cynllunio i helpu unigolion i gymryd y cam cyntaf yn ôl i ddysgu a'u helpu i symud ymlaen i ddysgu pellach, hyfforddiant neu gyflogaeth. **Am Y Swydd** Byddwch yn datblygu ac yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn gwasanaethau Cymorth Cynnar Tai a Chymunedau ar gyfer Hyfforddwr Datblygu’r Gweithlu. Swydd dros dro i gyflenwi dros gyfnod mamolaeth yw hon, tan 31 Mawrth 2024, neu tan i ddeiliad parhaol y swydd ddychwelyd. Byddwch yn aelod o dîm Datblygu’r Gweithlu a’r Ganolfan Achrededig sefydledig sy’n...

  • Swyddog Cefnogi

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r tîm yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth rheng flaen. Rydym yn darparu amrywiaeth o fentrau diogelwch ffyrdd a theithio llesol i blant, pobl ifanc ac oedolion sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yng Nghaerdydd. **Am Y Swydd** Pwrpas y swydd yw cynllunio, cefnogi a darparu hyfforddiant Streetwise i blant yng Nghaerdydd....


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Cyf.**PEO02929 **Swydd**:Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl **Gradd**:6 **Cyflog**:£27,852 - £32,020 **Statws**: parhaol a llawn amser **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Swyddog Gofal Plant Preswyl weithio gyda rhai o'n plant a'n pobl ifanc mwyaf bregus yng Nghaerdydd. Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:12197** **Teitl y Swydd**:Swyddog Cefnogi Prosiectau** **Contract: Cyfnod Penodol hyd at Orffennaf 2024, Llawn Amser** **Oriau: 37 yr wythnos** **Cyflog: £27,227 - £29,551 pro rata** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Swyddog Cefnogi Prosiectau yn adran Prosiectau a Chyllid Coleg Caerdydd a'r Fro. Bydd y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r gwasanaeth, a enillodd Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn ddiweddar, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd i blant bach, plant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf: 12299** **Teitl y Swydd**:Gweinyddwr Gwella Ansawdd x2** **Contract**:Llawn Amser, Parhaol** **Cyflog: £23,152 - £23,930 y flwyddyn** **Oriau**: 37 awr yr wythnos** **Lleoliad**:Heol Dumballs, Caerdydd** Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn awyddus i benodi dau Weinyddwr Gwella Ansawdd a fydd yn gweithio’n bennaf ar...

  • Swyddog RHestr Aros

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Nod Cyngor Caerdydd yw darparu Uned Dyraniadau ac Ailgartrefu hygyrch o ansawdd uchel. Mae gan y Gwasanaeth swydd wag ar gyfer un Swyddog Rhestr Aros dros dro llawn amser ar hyn o bryd. **Am Y Swydd** Prif swyddogaethau’r swydd fydd cynorthwyo â gweinyddu’r Rhestr Aros Gyffredin ar gyfer tai cymdeithasol, gan fewnbynnu ac asesu...

  • Uwch Swyddog Ymchwil

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle ar gael yn Nhîm Perfformiad a Phartneriaethau'r Cyngor ar gyfer Uwch Swyddog Ymchwil sydd â diddordeb mewn cefnogi agenda ymgynghori ac ymgysylltu'r Cyngor. Bydd y rôl yng Nghanolfan Ymchwil ac Ymgysylltu Caerdydd, sy’n cynnwys arbenigwyr ar ymgynghori ac ymgysylltu ac yn gyfrifol am ddeall barn rhanddeiliaid ar ystod eang...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Drwy bartneriaethau ag ysgolion, cyflogwyr, cymunedau a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, mae Addewid Caerdydd yn ceisio sicrhau cyfleoedd sy'n creu uchelgais ac yn cyflwyno sgiliau i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ac sy’n eu cefnogi i symud ymlaen i Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant. Dilynwch Addewid Caerdydd ar Facebook,...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...

  • Welsh Headings

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl ledled y ddinas sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella'u sgiliau; mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys drwy brosiect a ariennir yn allanol, cyfleoedd gwirfoddoli a mynediad i gyrsiau digidol a hyfforddiant sgiliau gwaith am ddim. Mae'r Gwasanaeth Cyngor...


  • Cardiff, United Kingdom Amgueddfa Cymru National Museum Wales Full time

    Swyddog Marchnata Masnachol Cefndir Gweithgarwch Masnachu Mentrau AOCC Yn 2003 sefydlodd Amgueddfa Cymru gangen fasnachol ar wahân dan yr enw Mentrau AOCC Cyfyngedig. Mae’r gwaith masnachol ar hyn o bryd yn cynnwys rheoli: - Siopau Amgueddfa Cymru yn: a. Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd b. Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru c. Amgueddfa Lleng Rufeinig...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Llety a Reolir yn rhan o'r Adran Tai Arbenigol ac yn darparu llety fforddiadwy hirdymor o ansawdd uchel i'r rheiny sydd wedi wynebu neu brofi digartrefedd. Trwy gyfrwng nifer o leoliadau ledled Caerdydd, mae’r rheolwyr safle yn darparu’r canlynol: - Gwasanaeth rheoli tai pwrpasol - Gwasanaeth atgyweirio a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Crosslands, un o Gartrefi Plant Caerdydd, yn ardal Trelái, Caerdydd. Mae'r cartref yn dŷ ar ben ei hun yn ei erddi ei hun ac mae siopau lleol, canolfannau hamdden ac amwynderau lleol yn gyfleus wrth law. Mae'r cartref hefyd yn agos at ganol y ddinas ac yn hawdd ei gyrraedd o’r holl brif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Mae...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymrwymedig ymuno â’n Tîm Cynnal Tenantiaeth. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n rhagweithiol i ddarparu gwasanaeth rheoli tai dwys. Bydd y swydd yn cynnwys sicrhau y gall tenantiaid gynnal eu tenantiaethau drwy ymyrraeth uniongyrchol a defnyddio ystod o wasanaethau...