Swyddog Marchnata Masnachol

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Amgueddfa Cymru National Museum Wales Full time

Swyddog Marchnata Masnachol Cefndir Gweithgarwch Masnachu Mentrau AOCC Yn 2003 sefydlodd Amgueddfa Cymru gangen fasnachol ar wahân dan yr enw Mentrau AOCC Cyfyngedig. Mae’r gwaith masnachol ar hyn o bryd yn cynnwys rheoli:

- Siopau Amgueddfa Cymru yn: a. Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd b. Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru c. Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru d. Amgueddfa Lechi Cymru e. Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru f. Amgueddfa Wlân Cymru g. Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
- E-fasnach ac archebion post, wedi’u rheoli’n ganolog o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
- Meysydd parcio Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru a Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru.
- Trwyddedu delweddau, wedi’i reoli’n ganolog o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
- Gwasanaeth llogi cyfleusterau preifat, yn bennaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
- Gwasanaeth arlwyo masnachfraint yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
- Rheoli safleoedd gwerthu gaiff eu rhoi ar rent i drydydd partïon yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
- Projectau ffilmio masnachol ym mhob amgueddfa gan gynnwys y Ganolfan Gasgliadau.
- Projectau masnachol eraill yn cynnwys siopau dros-dro, cwrs rhaffau uchel CoedLan, a'r profiad realiti rhithwir ymysg eraill.
- Gwasanaeth arlwyo mewnol yn Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru a Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru. Eich gwaithCynnig cefnogaeth i Mentrau AOCC Cyf i helpu i dyfu ffrydiau refeniw drwy greu ymgyrchoedd marchnata, sefydlu safonau ansawdd brand Mentrau, dylunio cynigion arbennig ac adrodd ar ddata ymwelwyr i'n caffis a'n siopau. Byddwch yn codi ymwybyddiaeth o'r cynnig masnachol ar draws pob sianel marchnata a chyfathrebu. Y Pennaeth Mentrau fydd eich rheolwr llinell chi. Eich nod
- Helpu i gynyddu incwm drwy ymgyrchoedd marchnata wedi'u teilwra, gan sicrhau eu bod yn alinio ag ymgyrchoedd a strategaeth yr Adran Marchnata a Chyfathrebu, a chyflwyno'r brand newydd
- Datblygu cynlluniau a chynigion marchnata a'u rhoi ar waith ym mhob menter fasnachol Mentrau, gan gynnwys Arlwyo (mewnol a chontract), Manwerthu a Llogi Masnachol
- Gweithio yn agos â'r adran Marchnata a Chyfathrebu, gan sicrhau bod eich gwaith yn cyd-fynd â chwmpas eang eu gwaith, wrth hyrwyddo cyfleoedd am rannu negeseuon codi arian
- Cysylltu ag adrannau perthnasol eraill i sicrhau y caiff yr adran Mentrau ei chynrychioli, er enghraifft, yr Adran Digwyddiadau a Rhaglenni Cyhoeddus
- Ar y cyd â'r tîm Craffu ar Gynulleidfaoedd, dadansoddi data ymwelwyr i helpu i lywio penderfyniadau marchnata a masnachol
- Dylunio a chreu portffolio o ddeunydd marchnata ar gyfer Mentrau, gan gynnwys gwaith graffeg, pamffledi digidol a phrint Sut i gyrraedd y nod...
- Arwain ar weithgarwch hyrwyddo i gynyddu busnes a refeniw sy'n cyd-fynd â brand Amgueddfa Cymru
- Datblygu dulliau creadigol o hyrwyddo cynnyrch masnachol
- Gweithio gyda thimau Mentrau i sicrhau bod ymchwil i'r farchnad yn llywio cyfeiriad y busnes a gweithgarwch hyrwyddo priodol
- Creu perthynas adeiladol â phob safle ac adran Amgueddfa Cymru
- Gweithio gyda'r tîm Craffu ar Gynulleidfaoedd i werthuso perfformiad ymgyrchoedd marchnata a monitro enillion ar fuddsoddiad
- Cyflawni mentrau hyrwyddo sy'n canolbwyntio ar gynyddu refeniw, gan sicrhau bod holl weithgarwch wedi'i gydlynu a'i alinio â'r brand.
- Helpu i ddarganfod cyfleoedd marchnata newydd er budd masnachol, sydd wedi’u halinio ag amcanion adran Marchnata a Chyfathrebu Amgueddfa Cymru.
- Cefnogi gweithgarwch marchnata ad-hoc ar draws y 7 safle
- Derbyn hyfforddiant i allu rheoli meysydd perthnasol ar y system werthu (EPOS) a’r system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) i lefel hyfedredd
- Gweithio gyda rheolwyr Mentrau a'r Rheolwr Brand i gefnogi'r gwaith o greu ac archwilio safonau ansawdd brand Mentrau ar draws y safleoedd, a sicrhau y caiff brand Amgueddfa Cymru ei fabwysiadau ar draws ein cynnig masnachol
- Datblygu perthynas rhanddeiliaid perthnasol â phartneriaid megis Croeso Caerdydd a Croeso Cymru Sut i gefnogi amcanion corfforaethol Amgueddfa Cymru... 1. Ymroi yn llawn i gefnogi egwyddorion cyfle cyfartal fel yr amlinellir ym Mholisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y sefydliad a’u gweithredu. 2. Cefnogi gwaith yr adran o gydymffurfio â pholisïau Amgueddfa Cymru ar Gynaliadwyedd a’r iaith Gymraeg. 3. Cymryd gofal rhesymol o’ch iechyd a’ch diogelwch eich hun ac eraill y gallai eich gweithredoedd, neu eich diffyg gweithredu, effeithio arnynt, a chydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch fel sy’n briodol. 4. Yn rhan o delerau’ch cyflogaeth, mae’n bosibl y gofynnir i chi ymgymryd â dyletswyddau eraill a/neu weithio oriau eraill fel sy’n rhesymol, yn unol â’ch gradd neu’ch lefel cyfrifoldeb cyffredinol o fewn y sefydliad. Rydyn ni’n chwilio am berson
- Sy'n frwd dros waith Amgueddfa Cymru
- Unigolyn creadigol a b


  • Swyddog Marchnata

    4 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhentu Doeth Cymru yn darparu Cynllun Cofrestru a Thrwyddedu ledled Cymru ar gyfer landlordiaid ac asiantau eiddo sy'n cael ei rentu. Daw hyn yn sgil dynodi Cyngor Caerdydd yn Awdurdod Trwyddedu Sengl i Gymru. Ei nod yw sicrhau eiddo diogel a reolir yn dda ar gyfer tenantiaid drwy sicrhau bod y rhai sy'n gosod ac yn rheoli eiddo yn...


  • Cardiff, United Kingdom Amgueddfa Cymru National Museum Wales Full time

    Eich gwaithByddwch yn chwarae rôl allweddol yn nhîm rheoli canolog busnes Mentrau Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru Cyf., gan arwain ar orchwyl eang o logi masnachol ar draws 7 safle Amgueddfa Cymru, sy'n cynnwys ond nid yw'n gyfyngedig i holl logi cyfleusterau ac arlwyo cysylltiedig, ffilmio masnachol a mentrau masnachol. Byddwch yn dylunio a...

  • Swyddog Cyfathrebu

    2 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:CO2023** **Teitl y Swydd**:Swyddog Cyfathrebu** **Contract: Parhaol, Llawn Amser** **Oriau: 37** **Cyflog: £28,648 - £30,599 y flwyddyn** Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn awyddus i benodi Swyddog Cyfathrebu wedi’i leoli o fewn tîm Marchnata a Chyfathrebu mewnol deinamig y Coleg. Byddwch yn gweithio â’r...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella'u sgiliau. Mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys drwy broject a ariennir yn allanol a chyfleoedd gwirfoddoli. Mae'r Tîm Cyswllt Cyflogwyr, sy'n rhan o'r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith, yn rhoi pecyn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Drwy bartneriaethau ag ysgolion, cyflogwyr, cymunedau a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, mae Addewid Caerdydd yn ceisio sicrhau cyfleoedd sy'n creu uchelgais ac yn cyflwyno sgiliau i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ac sy’n eu cefnogi i symud ymlaen i Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant. Dilynwch Addewid Caerdydd ar Facebook,...