Cynorthwy-ydd Crèche Cymorth Cynnar Caerdydd

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Ynglŷn â’r gwasanaeth**
Yng Nghaerdydd credwn y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael y cyfle i gyrraedd ei lawn botensial. Rydym yn cydnabod bod canlyniadau ar eu gorau i blant pan dderbyniant gefnogaeth er mwyn tyfu a chyflawni o fewn eu teuluoedd a’u cymunedau, gan fod teuluoedd yn deall eu plant hwy eu hunain. Dyma’ch cyfle i ymuno ag un o’r gwasanaethau arloesol a blaengar niferus sy’n rhan o Dîm Cymorth Cynnar Caerdydd. Mae gan y Tîm Cymorth Cynnar ddull amlasiantaethol sy'n ceisio lleihau nifer y plant, y bobl ifanc a'r teuluoedd sydd angen gwasanaethau statudol a ddarperir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a gwneud atal busnes pawb. Ein nod yw meithrin gwydnwch ymhlith plant a theuluoedd fel bod ganddynt y gallu i oresgyn eu hanawsterau eu hunain am weddill eu hoes.

**Ynglŷn â’r swydd**
Bydd Cynorthwywyr Crèche Cymorth Cynnar yn helpu i ddarparu darpariaeth crèche o ansawdd ar gyfer plant y mae eu rhieni'n mynychu Rhaglenni Rhianta gyda Gwasanaethau Rhianta Caerdydd. Byddant hefyd yn helpu i ddarparu gofal o ansawdd a chyfleoedd chwarae i blant rhwng 2 a 3 oed ar draws lleoliadau Gofal Plant Dechrau'n Deg. Swydd yn ystod y tymor yn unig yw hon gyda chyfleoedd gyrfa a datblygiad gwych ar gyfer ymgeiswyr cymwys Lefel 1 a Lefel 2 (Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant - CCPLD)./35 awr yr wythnos

Cysylltwch â rheolwr y gwasanaeth Sara Wiggins ar 07816543012 os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r uchod

**Yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennych chi**
Hanfodol: cymhwyster mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (CCPLD Lefel 2 o leiaf) - gweler y disgrifiad swydd a’r fanyleb person am ragor o wybodaeth.

Rhaid cael profiad o weithio mewn lleoliad crèche (dan 4) a chymhelliant a brwdfrydedd am weithio gyda phlant bach a’u teuluoedd.

Mae angen profiad o gynllunio, paratoi a darparu gweithgareddau i ysgogi plant bach a chadw eu diddordeb

Mae dealltwriaeth o, a phrofiad o ymwneud â, materion diogelu yn ymwneud â phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn hanfodol

Mae’n rhaid cael trwydded yrru lân a cherbyd i’w ddefnyddio oherwydd bydd gofyn teithio trwy holl ardaloedd y ddinas fel rhan o’r rôl.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau COVID-19, rydym yn darparu rhaglenni ar draws platfform rhithwir.

Mae’r swyddi hyn yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw cynorthwyo plant ac oedolion sy’n agored i niwed er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Caiff hyn ei gefnogi yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Oherwydd ein trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio drwy'r post. Ni allwn ychwaith dderbyn ffurflenni cais trwy'r post.

Mae’r cyflog hwn yn amodol ar yr Atodiad Cyflog Byw sy’n ychwanegu at y gyfradd sylfaenol o gyflog i £9.50 yr awr. Bydd yr atodiad yn cael ei adolygu bob mis Ebrill. Mae Cyngor Caerdydd yn cadw’r hawl i wneud unrhyw newidiadau i, neu ddileu, yr Atodiad Cyflog Byw. Swyddi dros dro yw’r rhain tan 31 Mawrth 2025.

Job Reference: PEO01638



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â’r gwasanaeth** Yng Nghaerdydd credwn y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael y cyfle i gyrraedd ei lawn botensial. Rydym yn cydnabod bod canlyniadau ar eu gorau i blant pan dderbyniant gefnogaeth er mwyn tyfu a chyflawni o fewn eu teuluoedd a’u cymunedau, gan fod teuluoedd yn deall eu plant hwy eu hunain. Dyma’ch cyfle i ymuno ag un o’r...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Dyma beth mae defnyddwyr y gwasanaeth sy'n defnyddio ein rhaglenni yn ei ddweud '_Mae defnyddio'r dulliau rydw i wedi'u dysgu ar y Rhaglen Magu Plant wedi cael effaith fawr arnon ni. Mae cartref y teulu yn llawer tawelach ac yn fwy positif. Does ‘na ddim llawer o ddadleuon na gweiddi... Dwi wedi cael trafferthion yn y...

  • Seicolegydd Addysg

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn cael eu harwain yn strategol gan Uwch Seicolegydd Addysg. Rydym yn falch bod gennym 7 seicolegydd addysg arall fel rhan o'r gwasanaethau hyn ac rydym wrth ein boddau o fod yn chwilio am seicolegydd addysg arall i ymuno â'n tîm sy'n tyfu. Rhieni a Mwy a Rhieni’n Gyntaf yw’r gwasanaethau rhianta...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi'n Fyfyriwr Gwaith Cymdeithasol yn eich blwyddyn olaf yn y brifysgol? Mae gwasanaethau Plant Cyngor Caerdydd yn cynnig cyfle unigryw i sicrhau swydd Gweithiwr Cymdeithasol parhaol yn barod ar gyfer pan fyddwch yn cymhwyso y flwyddyn nesaf. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cyflwyno cais; byddwn yn gwarantu cyfweliad i chi yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn brifddinas fywiog, amrywiol a chyffrous i bawb. Nid nepell o lan y môr, y cymoedd a’r mynyddoedd, siopa penigamp a bywyd nos neu leoliadau pentrefol llonydd. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Chaerdydd, sy’n Awdurdod ar daith weithredu drwy ddefnyddio’r dull Arwyddion Diogelwch i ganolbwyntio ar gynorthwyo ein...

  • Gweithiwr Cymorth

    7 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle wedi codi i ymuno â'r Tîm Byw â Chymorth Caerdydd. Rydym yn chwilio am weithwyr cymorth i roi cymorth i unigolion ag anabledd dysgu. Rydym yn ymrwymedig i gynnig gwasanaeth o safon uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae gweithio yn y Gwasanaethau Oedolion yn cynnig gwaith prysur a diddorol y byddech yn ei ddisgwyl mewn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn brifddinas fywiog, amrywiol a chyffrous i bawb. Nid nepell o lan y môr, y cymoedd a’r mynyddoedd, siopa penigamp a bywyd nos neu leoliadau pentrefol llonydd. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Chaerdydd, sy’n Awdurdod ar daith weithredu drwy ddefnyddio’r dull Arwyddion Diogelwch i ganolbwyntio ar gynorthwyo ein...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae gennym swydd wag ar hyn o bryd ar gyfer Cynorthwy-ydd Gofal a Lles yn ein Hybiau Caerdydd yn Gofalu, i ddarparu gwasanaeth sy'n rhoi cymorth i oedolion sy'n byw gyda Dementia. Cefnogir y bobl gan y gwasanaeth i fanteisio ar ystod eang o gyfleoedd dydd mewn lleoliad gofal. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn recriwtio ar gyfer rôl newydd gyffrous yn ein Tîm y Tu Allan i Oriau newydd. **Y buddion a gynigir** Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt, felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig. - Gwyliau blynyddol hael yn dechrau ar 27 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 32 diwrnod...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Teitl y Swydd**:Cynorthwyydd Cymorth Ychwanegol (Dysgu Sylfaen)** **Contract**:Rhan Amser (0.71 cyfwerth â llawn amser), Yn Ystod Tymor Ysgol yn Unig, Parhaol** **Cyflog: £16,660.31 - £17,220.16 (Ar sail cyflog cyfwerth â llawn amser o £23,152-£23,930 y flwyddyn)** **Oriau**: 32.5 awr yr...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rheoli Adeiladu yn ddarparwr gwasanaeth cyhoeddus deinamig ac amrywiol sy'n arbenigo mewn Rheoliadau Adeiladu a diogelwch y cyhoedd yn bennaf drwy Ddeddf Adeiladu 1985. Fel aelod gweithgar o LABC Services, mae Rheoli Adeiladu Caerdydd hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â chwmnïau lleol a chenedlaethol ac awdurdodau lleol ledled...

  • Dirprwy Reolwr Tîm

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Yn weithredol o 1 Ebrill 2023, bydd y rôl hon yn cael Taliad Atodol ar Sail y Farchnad o £5,000 (cyfwerth ag amser llawn). Adolygir y taliad hwn bob 12 mis.** Mae Cyngor Caerdydd yn chwilio am Brif Weithiwr Cymdeithasol i weithio yn bennaf mewn rôl oruchwyliwr, ynghyd â rheoli achosion o lwyth gwaith cymhleth bach, o fewn un o'n...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Dydd Caerdydd yn Wasanaeth Dydd arbenigol sy’n cynnig cymorth i oedolion ag anableddau dysgu sydd ag anghenion cymorth cymhleth. Caiff pobl eu cynorthwyo gan y gwasanaeth i fanteisio ar amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfleoedd gwerthfawr yn y gymuned leol â’r nod o gyflawni’r canlyniadau a nodwyd. **Am Y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Teitl y Swydd**:Cynorthwyydd Cymorth Ychwanegol (Prif ffrwd)** **Contract**:Rhan Amser (0.82 cyfwerth â llawn amser), Yn Ystod Tymor Ysgol yn Unig, Parhaol** **Cyflog: £16,660.31 - £17,220.16 (Ar sail cyflog cyfwerth â llawn amser o £23,152-£23,930 y flwyddyn)** **Oriau**: 32.5 - 37 awr yr...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Caerdydd yn aml ar frig rhestrau o ddinasoedd gorau'r DU i fyw ynddynt felly ymunwch â ni i weld beth y gallwn ei gynnig. - Hawliad gwyliau blynyddol helaeth yn dechrau gyda 27 diwrnod y flwyddyn i uchafswm o 32 diwrnod y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd gydag opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol o hyd at 10 diwrnod. - Mae ein...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r gwasanaeth** Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn rhan o Cymorth Cynnar Caerdydd. Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn cael eu harwain yn strategol gan Uwch Seicolegydd Addysg ac yn cynnwys timau sy'n darparu rhaglenni rhianta grŵp ac unigol ac ymyriadau, a hynny ledled Caerdydd. Rydym yn gweithio mewn lleoliadau cymunedol, cartrefi teuluoedd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Gradd: Prif Raddfa Gyflog / Graddfa Gyflog Uchaf + Lwfans ADY** Mae'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes yn darparu'r cymorth strategol, proffesiynol a gweithredol i alluogi'r Cyngor i gyflawni ei gyfrifoldebau dros addysg y blynyddoedd cynnar, addysg oedran statudol, addysg mewn ysgolion chweched dosbarth a gwasanaeth...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff University Full time

    **Advert** **The ability to work through the medium of Welsh is essential to this role.** **Swyddog Gweinyddol Dysgu Cymraeg Caerdydd** Mae Ysgol y Gymraeg yn chwilio am unigolyn brwdfrydig ymuno gyda thîm gweinyddol Dysgu Cymraeg Caerdydd. Mae'r ddarpariaeth yma yn cynnig gwersi Cymraeg i Oedolion ar draws y rhanbarth. Bydd deiliad y swydd yn rheoli...

  • Welsh Headings

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ynglŷn â'r Gwasanaeth Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol bob dydd a, ph'un a yw ein gweithwyr wedi’u cyflogi mewn rôl sy'n delio â chwsmeriaid,...