Seicolegydd Addysg

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yn cael eu harwain yn strategol gan Uwch Seicolegydd Addysg. Rydym yn falch bod gennym 7 seicolegydd addysg arall fel rhan o'r gwasanaethau hyn ac rydym wrth ein boddau o fod yn chwilio am seicolegydd addysg arall i ymuno â'n tîm sy'n tyfu.

Rhieni a Mwy a Rhieni’n Gyntaf yw’r gwasanaethau rhianta sy’n seiliedig ar seicoleg o fewn Rhianta Caerdydd. Bwriedir i ddeiliad y swydd bresennol fod yn rhan o’r Tîm Rheini a Mwy, gan weithio'n benodol gyda rhieni sy'n feichiog neu sydd â baban neu blentyn yn y blynyddoedd cynnar.

Caiff Tîm Rhieni a Mwy ei arwain gan Seicolegydd Addysg Arbenigol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo'r Seicolegydd Addysg Arbenigol wrth fewnbynnu seicoleg i'r tîm a'r gweithlu ehangach.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am ein Gwasanaethau Rhianta ar-lein:
Rhianta Caerdydd 0-18 - Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd: Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd (teuluoeddcaerdydd.co.uk)

Rydym hefyd yn postio ar ein tudalennau Twitter a Facebook - chwiliwch am Cardiff Parenting - Rhianta Caerdydd i gael gwybod mwy.

Ar ôl gweithio gyda ni, mae rhieni wedi dweud:
"Rydyn ni'n cysylltu ac yn cael hwyl gyda'n gilydd ac mae ein bond yn gryfach nag erioed.

**Am Y Swydd**
Mae gan y seicolegydd addysg yn y Tîm Rhieni a Mwy rôl wrth gymhwyso seicoleg i lywio darnau o waith personol gyda rhieni a'u babanod a'u plant bach ledled Caerdydd.

Prif rôl y Seicolegydd Addysg fydd:

- Asesu, cydlunio a goruchwylio'r ymyriadau rhiant-blentyn ar sail seicoleg a ddarperir gan yr ymarferwyr o fewn y tîm.
- Cynnal darnau unigol o waith achos, gan ddefnyddio dulliau sydd wedi cael eu profi i wella rhyngweithio a pherthnasoedd rhwng rhieni a phlant (e.e., VIG).
- Cymryd rhan mewn ymgynghoriad a hyfforddiant i hyrwyddo dull seicolegol o fewn y tîm a‘r gwasanaethau Cymorth Cynnar ehangach.
- Hyrwyddo hyder, ymdrechion a gallu'r rhieni rydym yn gweithio gyda nhw i gefnogi rhyngweithio a pherthnasoedd rhwng rhieni a phlant a diwallu anghenion datblygiadol unigryw eu plant.
- Cyfrannu at wella canlyniadau plant trwy hyrwyddo eu twf, eu datblygiad, eu dysgu a’u lles.
- Ymgymryd â gwaith ymchwil seicolegol perthnasol a lledaenu’r canlyniadau.

Cewch eich cefnogi gyda chyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus. Byddwch yn cael ffôn, cyfrifiadur personol a'r adnoddau a'r cymorth bydd eu hangen arnoch i deimlo'n hyderus ac yn ddiogel yn eich rôl.

Mae nifer ein staff sy’n aros gyda ni yn uchel ac mae ein cydweithwyr yn dweud:
"Fel seicolegydd, mae cyfrannu at broses newid dros amser yn hynod foddhaol. Mae gallu treulio amser yn cael trafodaethau manwl gan ddefnyddio fframwaith datrys problemau, cynllunio ymyriadau ac yna adolygiad parhaus a phrofion damcaniaethol, yn caniatáu amser i feddwl am seicoleg a'i rhoi ar waith.

"Ar ôl gweithio fel Seicolegydd Addysg ysgol am nifer o flynyddoedd, roedd symud i weithio mewn cyd-destun gwahanol yn risg, ond mae'r ethos a'r cymorth sefydliadol yn gadarnhaol dros ben. Mae'r cyfleoedd DPP yn rhagorol a rhoddir amser ar gyfer twf a datblygiad."

"Mae gweithio yn y tîm cefnogol hyfryd hwn yn rhoi cyfle i mi fel Seicolegydd Addysg i roi seicoleg ar waith bob dydd, a hynny ar bob lefel wahanol, yn ogystal â gwneud gwahaniaeth i blant a theuluoedd."

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am seicolegydd cymwys sydd wedi’i gofrestru gyda’r CPIG, sy’n bodloni’r canlynol:

- Mae’n awyddus i ennill profiad o weithio fel seicolegydd cymhwysol yn y gymuned.
- Hoffai ddatblygu arbenigedd/gwybodaeth arbenigol wrth weithio gyda theuluoedd.
- Mae ganddo ddiddordeb mewn defnyddio dulliau ymlyniad a pherthynol yn ei ymarfer.
- Mae’n fodlon ac yn gallu cyflwyno hyfforddiant i gyfrannu at y Gwasanaethau Cymorth Cynnar ehangach.
- Hoffem ddatblygu gwybodaeth/arbenigedd arbenigol wrth weithio gyda theuluoedd yn y Blynyddoedd Cynnar.

Rydym yn hapus derbyn ceisiadau gan Seicolegwyr Addysg dan Hyfforddiant a fydd yn cymhwyso yn 2023, ac o Seicolegwyr Addysg profiadol a allai fod yn chwilio am rôl neu secondiad proffesiynol newydd. Bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd i fodloni anghenion teuluoedd sy’n gweithio.

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Swydd dros dro yw hon tan 31 Mawrth 2024. Mae’r swydd yn amodol ar gael arian grant gan Lywodraeth Cymru.

Yr ystod cyflog yw Soulbury A 1-6 ynghyd â hyd at 3 SPA.

Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy'n agored i niwed i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.

Dylai ymgeiswyr mewnol


  • Ymarferydd RHianta

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Rhianta Caerdydd 0-18 yn rhan o wasanaethau Cymorth Cynnar Cyngor Caerdydd, sydd ar gael i’r holl deuluoedd sy'n byw ar draws Caerdydd gyda phlentyn neu berson ifanc dan 18 oed. Mae Rhianta Caerdydd 0-18 yn cael ei ariannu gan grant gan Lywodraeth Cymru ac mae'n ategu'r gwasanaethau rhianta a gynigir yn ardaloedd Dechrau'n Deg...