Uwch Ddadansoddwr Busnes
5 months ago
**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle ar gael o fewn Tîm Perfformiad a Mewnwelediad y Cyngor ar gyfer Dadansoddwr Busnes sydd â diddordeb mewn bod wrth galon agenda perfformiad a gwella'r Cyngor.
Mae dwy swydd wag ar gael yn bresennol. Mae un yn swydd barhaol o fewn y tîm a bydd yn cefnogi gwaith parhaus sy'n dod i mewn ar draws amrywiaeth o ffrydiau gwaith a phrosiectau. Mae un yn swydd cyfnod penodol 2 flynedd sy'n ymroddedig i weithio'n bennaf ar brosiect penodol fel rhan o raglen waith benodol.
Mae’r Tîm Perfformiad a Mewnwelediad yn cynnwys dadansoddwyr ac arbenigwyr perfformiad ac mae'n gyfrifol am ddatblygu rhai o brosiectau gwybodaeth busnes craidd y Cyngor.
Mae gwaith y Tîm yn cyd-fynd yn agos â blaenoriaethau strategol y sefydliad a'n partneriaid yn y gwasanaeth cyhoeddus, yn gweithio'n agos gyda holl wasanaethau'r Cyngor i'w helpu i wella eu perfformiad, a chyflawni prosiectau trawsbynciol allweddol.
**Am Y Swydd**
PWYSIG: Darllenwch yr adran Gwybodaeth Ychwanegol i gael arweiniad ar sut i wneud cais am y rôl hon er mwyn sicrhau bod eich datganiad ategol yn cael ei gyflwyno yn y fformat cywir
Rôl Uwch Ddadansoddwr Busnes yw hon, a fydd yn rhan o'r Tîm Perfformiad a Mewnwelediad.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi rhaglen o brosiectau gwybodaeth busnes drwy ddadansoddi setiau data, prosesau mapio, a diffinio gofynion.
Bydd llawer o’n prosiectau'n cynnwys gweithio gyda data perfformiad cymhleth; felly, mae lefel dda o lythrennedd data yn hanfodol.
Byddwch yn rhan o dîm hynod frwdfrydig, ymroddedig a chefnogol, gydag ymrwymiad i wneud gwaith o safon uchel a chefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.
Bydd digon o gyfle ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, gan gynnwys hyfforddiant perthnasol i'r rôl.
Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu arferion gweithio hybrid sy'n berthnasol i'r rôl hon, sy’n golygu bod modd gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith yn y swyddfa, gartref neu mewn lleoliad addas arall. Bydd yn ofynnol o hyd i fynd i’r swyddfa yn achlysurol ar gyfer rhai cyfarfodydd yn ôl yr angen.
**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â sgiliau dadansoddi cryf, y gallu i asesu problem o sawl ongl yn gyfannol, sy'n gyfforddus yn gweithio gyda data cymhleth, ac sydd â diddordeb mewn newid a gwella.
Bydd gennych sgiliau cyfathrebu ac ysgrifennu rhagorol, a byddwch yn gallu paratoi adroddiadau a chyflwyno gwybodaeth yn glir ac yn effeithiol ar gyfer amrywiaeth o wahanol gynulleidfaoedd, o uwch reolwyr i ddefnyddwyr.
Bydd gennych brofiad o wneud gwaith ymchwil a dadansoddi yn annibynnol ac fel rhan o dîm, a bydd gennych ddawn i ddatrys problemau, gallu nodi problemau ac argymell opsiynau ar gyfer gwella.
Bydd lefel dda o gymhwysedd TGCh yn rhagofyniad, bod yn gyfarwydd, yn benodol, â Microsoft Office. Byddai profiad o offer mwy arbenigol, megis Microsoft Visio, Microsoft Project, neu Microsoft Power BI hefyd yn fanteisiol.
Yn bwysicaf oll, rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sy'n frwd dros wella gwasanaethau cyhoeddus ac yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm effeithiol.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Ar hyn o bryd mae dwy swydd wag ar gyfer Dadansoddwr Busnes ar gael. Mae un yn swydd barhaol o fewn y tîm a bydd yn cefnogi gwaith parhaus sy'n dod i mewn ar draws amrywiaeth o ffrydiau gwaith a phrosiectau. Mae un yn swydd cyfnod penodol 2 flynedd sy'n ymroddedig i weithio'n bennaf ar brosiect penodol fel rhan o raglen waith benodol.
Yn adran ‘Gwybodaeth ategol’ eich cais, atebwch y cwestiynau canlynol, hyd at uchafswm o 500 o eiriau fesul cwestiwn:
1. Disgrifiwch eich profiad blaenorol o ymgymryd ag ymchwil a dadansoddi, a'r offer a'r technegau rydych wedi'u defnyddio.
2. Disgrifiwch eich profiad blaenorol o ddeall gofynion rhanddeiliaid a rheoli blaenoriaethau sy'n gwrthdaro.
3. Rhowch enghraifft o adeg pan ydych wedi defnyddio sgiliau dadansoddi i adnabod, diffinio a datrys problem.
4. Rhowch enghraifft o adeg pan ydych wedi cefnogi'r gwaith o gyflawni prosiect sydd wedi arwain at welliannau cadarnhaol mesuradwy.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.
Oherwydd y trefniadau gwaith dros dro presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio na derbyn ffurflenni cais drwy'r post.
Bydd y broses gyfweld ar gyfer y rôl hon yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb neu fel arall ar sail rithwir gan ddefnyddio platfform ar-lein priodol. Bydd y rheolwr llogi yn cynghori ar fformat y cyfweliad fel rhan o'r broses recriwtio. Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch eich gallu i gymryd rhan mewn proses gyfweld rithwir, neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon cyn gwneud cais, cysylltwch â_ _._
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:
- Canllawiau
-
Swyddog Cefnogi Busnes X3
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae Addysg Gerdd Caerdydd a'r Fro yn darparu hyfforddiant a gweithgareddau i 190 o ysgolion a lleoliadau sy'n gweithio gyda thua 7000 o blant yr wythnos. Mae ein tîm yn cynnwys athrawon brwdfrydig a medrus, ac yn cael cymorth gan ein tîm cymorth busnes sydd wedi'i leoli yng nghanolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd. Rydym yn...
-
Swyddog Cymorth Busnes
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Drwy bartneriaethau ag ysgolion, cyflogwyr, cymunedau a sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach, mae Addewid Caerdydd yn ceisio sicrhau cyfleoedd sy'n creu uchelgais ac yn cyflwyno sgiliau i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed, ac sy’n eu cefnogi i symud ymlaen i Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant. Mae Addewid Caerdydd yn chwilio am...
-
Senior Finance Business Partner
4 days ago
Cardiff, United Kingdom Network Rail Full timeBrief Description To work as an integral member of business senior leadership team proactively identifying, planning and enabling the finance needs of the business to be met in order to improve business performance.To work in collaboration with other members of the wider finance team as required.To lead on key business processes periodic deliverables and...
-
Rheolwr Prosiect
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae’r Tîm Cyflawni Newid, sydd wedi'i leoli o fewn y Gyfarwyddiaeth Adnoddau, yn cynnwys Rheolwyr Prosiect ac Uwch Ddadansoddwyr Busnes ac mae'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gyflawni prosiectau a mentrau newid busnes ar draws y Cyngor. **Am Y Swydd** Rydym yn awyddus i recriwtio Rheolwr Prosiect i weithio o fewn y tîm hwn....
-
Dirprwy Reolwr Swyddfa’r Cabinet
5 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Perfformiad a Phartneriaethau yn gyfrifol am ystod eang o swyddogaethau corfforaethol sy'n cynorthwyo'r Cyngor cyfan, a'i bartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n gyfrifol am gynorthwyo'r Cyngor i gyflawni ei agenda uchelgeisiol trwy drosi blaenoriaethau gwleidyddol yn amcanion sefydliadol gyda ffocws ar gefnogi...
-
Cynorthwy-ydd Ardrethi
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae swydd wag wedi codi yn y Tîm Ardrethi Busnes. Mae Cyngor Caerdydd yn casglu mwy na £170m yn flynyddol mewn ardrethi busnes gan tua 13,000 o fusnesau yng Nghaerdydd. Mae'r tîm hefyd yn casglu ardoll Ardal Gwella Busnes gan fusnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghanol y Ddinas a'r cyffiniau. **Am Y Swydd** Mae hon yn swydd uwch yn y Tîm...
-
Dirprwy Swyddog Diogelu Data
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gyfarwyddiaeth Adnoddau yn gyfrifol am ystod eang o wasanaethau corfforaethol, gan wasanaethu'r cyngor cyfan, ac mae'n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi'r Cyfarwyddiaethau gweithredol wrth ddarparu eu gwasanaethau. Mae'r Adran Llywodraethu Gwybodaeth wedi'i lleoli o fewn y Gyfarwyddiaeth Adnoddau ac mae'n cefnogi...
-
Welsh Headings
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Perfformiad a Phartneriaethau yn gyfrifol am ystod eang o swyddogaethau corfforaethol sy'n cynorthwyo'r Cyngor cyfan, a'i bartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae'n gyfrifol am gynorthwyo'r Cyngor i gyflawni ei agenda uchelgeisiol trwy drosi blaenoriaethau gwleidyddol yn amcanion sefydliadol gyda ffocws ar gefnogi...
-
Swyddog Gweinyddol
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle gwych wedi codi i ymuno â'r tîm yng Nghastell Caerdydd fel swyddog gweinyddol. Mae Castell Caerdydd, sy’n croesawu miloedd o bobl bob blwyddyn, yn un o brif atyniadau treftadaeth Cymru ac yn safle o bwysigrwydd rhyngwladol. **Am Y Swydd** Bydd y Swyddog Gweinyddol yn cynnig gwasanaeth cymorth busnes a gweinyddol effeithiol...
-
Uwch Swyddog Cyfreithiol Gofal Plant
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Caerdydd yw un o’r dinasoedd mwyaf medrus ac sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain gyda Gwasanaeth Cyfreithiol mewnol ag achrediad Lexcel. Mae gennym gyfle gwych i ymarferydd cyfreithiol diwyd, hyblyg a llawn cymhelliant ymuno â Gwasanaeth Cyfreithiol Cyngor Caerdydd yn Neuadd y Sir yng nghanol Bae Caerdydd gyda chysylltiadau trafnidiaeth a...
-
Swyddog Amserlennu Opti-time
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae tri chyfle cyffrous wedi codi yn yr Ardal Gwasanaeth Tai a Chymunedau am Drefnwyr Opti-Amser rhan-amser (18.5 awr yr wythnos) yn yr Uned Atgyweiriadau Ymatebol. **Am Y Swydd** Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynnig rheolaeth amserlennu effeithiol ac yn gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau a phroblemau. **Beth Rydym Ei...
-
Clerk to The Council
6 months ago
Cardiff, United Kingdom The Learned Society of Wales Full timeThis is an exciting opportunity to play a key role in taking the Learned Society of Wales forward: ensuring we are operating at our very best - as an effective, well-governed and professional organisation - so that we can deliver our ambitious new five year strategy to benefit Wales. This post would suit a proactive and organised governance professional who...
-
Arweinydd Tîm Rheoli Cynaliadwy Morol
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cyfoeth Naturiol Cymru Natural Resources Wales Full timeTîm / Cyfarwyddiaeth: Gweithrediadau Cyflog cychwynnol: £41,150 yn codi i £46,147 fesul cam bob blwyddyn. (Pro rata ar gyfer ymgeiswyr rhan-amser) Math o gytundeb: Parhaol Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos (Rhoddir ystyriaeth i weithio’n rhan amser, oriau blynyddol, oriau cywasgedig neu weithio yn ystod amser tymor –...
-
Rheolwr Gwasanaeth Interniaeth  Chymorth
6 months ago
Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time**Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Cynhwysiant yn rhan o'r Gyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes ac mae'n gyfrifol am sicrhau bod y cyngor yn cyflawni ei gyfrifoldebau statudol i blant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Mae'r gwasanaeth yn gweithio gyda, yn cefnogi ac yn cydlynu darpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu...
-
Prentisiaeth Swyddog Marchnata Aml-Sianel
9 hours ago
Cardiff, United Kingdom Bbc Full timeMath o Gontract: Contract Cyfnod Penodol Lleoliad: Caerdydd Cyflog: £21,840 Mae prentisiaeth yn y BBC yn gyfle i chi roi hwb i'ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi.Ni yw arweinwyr y diwydiant mewn gyrfaoedd cynnar ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu eich sgiliau a'ch talent.Fel un o'r sefydliadau mwyaf creadigol a datblygedig o ran technoleg...
-
Prentisiaeth Newyddiadurwr
2 months ago
Cardiff, United Kingdom BBC Full timeMath o Gontract: Contractau cyfnod penodol Lleoliad: Caerdydd, Cymru Cyflog: Cyflog o £21,840 Mae prentisiaeth yn y BBC yn rhoi cyfle i chi roi hwb i’ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Ni yw arweinwyr y diwydiant mewn gyrfaoedd cynnar ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu eich sgiliau a’ch talent. Fel un o’r sefydliadau...
-
Prentisiaeth Newyddiadurwr
2 months ago
Cardiff, United Kingdom BBC Full timeMath o Gontract: Contractau cyfnod penodol Lleoliad: Caerdydd, Cymru Cyflog: Cyflog o £21,840 Mae prentisiaeth yn y BBC yn rhoi cyfle i chi roi hwb i’ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Ni yw arweinwyr y diwydiant mewn gyrfaoedd cynnar ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu eich sgiliau a’ch talent. Fel un o’r sefydliadau...