Cynorthwy-ydd Adnoddau

4 months ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle wedi codi i weithio gyda'r Tîm Cymorth Busnes i helpu i roi cymorth busnes i dîm rheoli’r Gwasanaethau 24/7.

Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys Teleofal, Pryd ar Glud a'r Ganolfan Derbyn Larymau.

**Am Y Swydd**
- Helpu i gyflawni rôl weinyddol amlswyddogaethol ar gyfer y Gwasanaeth yn ôl yr angen.
- Cynorthwyo â’r gwaith o ddarparu gwybodaeth rheoli perfformiad o ansawdd uchel i’r Gyfarwyddiaeth o fewn terfynau amser penodedig a helpu i ymgynghori ag uwch reolwyr, staff eraill a sefydliadau allanol er mwyn sicrhau’r dadansoddiad perfformiad gorau posibl.
- Gwneud yr holl waith angenrheidiol mewn perthynas ag ymholi, ymchwilio, datblygu a chynnal data ar gyfer paratoi a chyflwyno gwybodaeth fusnes ystadegol i’r gyfarwyddiaeth yn ôl yr angen.
- Cynorthwyo’r Swyddog Cymorth Busnes â’r gwaith o ddarparu Fframwaith Rheoli Perfformiad effeithiol i’r gyfarwyddiaeth yn unol â’r canllawiau corfforaethol, gan adolygu a diwygio’r fframwaith yn ôl yr angen i sicrhau ei fod yn berthnasol o hyd.
- Helpu i gydlynu’r prosesau sy’n gysylltiedig â pharatoi a diweddaru Cynllun Cyflawni’r Gyfarwyddiaeth Cymunedau, Tai a Gwasanaethau Cwsmeriaid, y dadansoddiad rheoli risg, cynllunio’r gweithlu, y cynllun rheoli gwybodaeth a’r trefniadau parhad busnes, gan gynnwys ymchwilio, casglu, dadansoddi a chyflwyno data.
- Chwarae rhan weithredol yng ngwaith y Tîm Cymorth Busnes, gan sicrhau bod aelodau'r tîm yn cyfathrebu'n dda gyda’i gilydd, llanw swydd swyddogion eraill yn ôl y gofyn a chyfrannu at waith y tîm yn gyffredinol.
- Gweithio i fwrw targedau unigol a thargedau tîm.
- Cynorthwyo’n ymarferol â’r gwaith o gydlynu a gweithredu unrhyw systemau Ansawdd a ddefnyddir gan y gwasanaeth.
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau swyddfa cyffredinol pan fo’n rhesymol ofynnol, gan gynnwys cadw’r holl gofnodion angenrheidiol a monitro gwybodaeth pan fo angen.
- Cefnogi datblygiad technoleg gyfredol a thechnoleg newydd yn weithredol.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**

Sgiliau rhyngbersonol da - Gallu cyfathrebu'n effeithiol ag ystod eang o gwsmeriaid a chydweithwyr
- Gallu gweithio’n rhan o dîm
- Sgiliau dadansoddi
- Gwybodaeth ragorol am Excel
- Gallu cynllunio a blaenoriaethu llwyth gwaith
- Sgiliau TG amlwg
- Hyblygrwydd
- Ymrwymiad

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: RES01052


  • Prentis Corfforaethol

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â'r Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £21,029 y flwyddyn gan weithio'n llawn-amser (37 awr) neu £10.90 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Bydd y tâl atodol yn cael ei adolygu bob mis Ebrill. Ceidw Cyngor Caerdydd yr hawl i wneud unrhyw newidiadau i dâl atodol y Cyflog Byw neu ei ddileu.** Mae Cyngor Caerdydd yn...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    4 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r rôl hon ar hyn o bryd yn cael taliad atodol ar Sail y Farchnad o £3,000 (cyfwerth ag amser llawn) a adolygir yn flynyddol.** Ydych chi'n Fyfyriwr Gwaith Cymdeithasol yn eich blwyddyn olaf yn y brifysgol? Mae Gwasanaethau Oedolion Cyngor Caerdydd yn cynnig cyfle unigryw i sicrhau swydd fel Gweithiwr Cymdeithasol parhaol yn...