Hyfforddwr Dysgu a Sgiliau X 2

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

**Swydd Wag Fewnol / Allanol**

**Cyf**: 12040

**Teitl y Swydd**: Hyfforddwr Dysgu a Sgiliau x 2

**Contract**:Llawn Amser, Cyfnod Penodol hyd at Orffennaf 2023

**Oriau**: 37 awr yr wythnos

**Cyflog**:£25,565 - £27,747 pro-rata

A allwch chi gefnogi myfyrwyr i gyflawni eu nodau? A ydych chi’n mwynhau helpu pobl gyda’r Saesneg, sgiliau digidol neu rifedd? Os felly, mae cyfle cyffrous wedi codi o fewn Coleg Caerdydd a’r Fro ar gyfer Hyfforddwr Dysgu a Sgiliau.

Mae buddion gwych i’r rôl, gan gynnwys oriau gweithio yn ystod y tymor yn unig (gweithio 38 wythnos y flwyddyn), pensiwn hael, cynllun arian iechyd, cynllun Beicio i’r Gwaith, ap Headspace am ddim, mynediad i gampfeydd a chymorth llesiant, yn ogystal â llwybrau gyrfa sylweddol o fewn y coleg. Mae posibilrwydd o gyfleoedd rhannu swydd hefyd ar gael i’r rhai sy’n chwilio am swyddi rhan amser.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu cymorth sgiliau llythrennedd, rhifedd, ESOL a digidol i fyfyrwyr, yn ogystal â’u hyfforddi nhw ar ei sgiliau academaidd ac astudio.

Cyfrifoldebau’n cynnwys:

- Bod yn Hyfforddwr Dysgu - cynnig cymorth i ddysgwyr; rhoi arweiniad i fyfyrwyr i’w helpu i ddeall eu harddulliau dysgu; gwneud y mwyaf o brosesau hyfforddi i alluogi’r myfyrwyr i ddysgu’n fwy effeithiol.
- Darparu cymorth ar gyfer llythrennedd, rhifedd, sgiliau digidol, ESOL ac ysgrifennu academaidd ar bob lefel, o gyn-fynediad i AU a phroffesiynol; rhoi arweiniad ar ysgrifennu datganiadau UCAS; darparu sesiynau sgiliau astudio (e.e. ysgrifennu academaidd, sgiliau cyflwyno; rheoli amser, llên-ladrad a chyfeirnodi).
- Defnyddio dulliau cymorth priodol mewn amrywiaeth o gyd-destunau, yn cynnwys
- yn y dosbarth, apwyntiadau a sesiynau galw heibio
- un i un, grwpiau bach a dosbarth cyfan
- wyneb yn wyneb ac ar-lein;
- Cysylltu â staff addysgu er mwyn gwneud y mwyaf o ddatblygiad myfyrwyr, adnabod rhesymau sylfaenol pam bod angen y gefnogaeth a gweithredu amrywiaeth o dechnegau megis atgyfeirio, gosod targedau a datblygu cymhelliant a hyder y dysgwr.
- Cynorthwyo staff addysgu i ddefnyddio Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST) i sicrhau bod asesiadau cychwynnol yn cael eu cwblhau, a bod sgiliau’r dysgwyr yn datblygu.
- Cofnodi cymorth yn gywir mewn fformatau digidol, olrhain cynnydd y dysgwyr, datblygu a diweddaru adnoddau ar-lein.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi cael addysg hyd at lefel 3 mewn pwnc perthnasol, a gradd C, neu uwch, mewn TGAU Saesneg a Mathemateg. Mae meddu ar gymwysterau addysgu neu hyfforddi yn ddymunol, neu barodrwydd i weithio atynt, fel sy’n briodol. Croesawir ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg, ond nid yw hyn yn elfen hanfodol o’r swydd.

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.

**Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yw 28/02/2023 yr 12:00pm.**

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

**Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.**

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Teitl y Swydd**:Hyfforddwr Dysgu a Datblygu** **Contract**:29.6 awr yr wythmos (0.8 FTE), Parhaol** **Cyflog: £31,828 - £33,948 y flwyddyn (£25,462 - £27,158 pro rata)** **Lleoliad: Caerdydd a'r Fro** Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn awyddus i benodi Hyfforddwr Dysgu a Datblygu wedi'i leoli ar ein Campws Canol y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Teitl y Swydd**:2 x Hyfforddwr-Arddangoswr Trin Gwallt a Harddwch** **Contract: Rhan Amser a Delir Fesul Awr, Cyfnod Penodol tan 31 Gorffennaf 2024** **Oriau: 8 awr yr wythnos, dydd Llun a dydd Mercher wedi’i warantu** **Cyflog: £15.83-£18.68 (sylfaenol) ynghyd â thâl gwyliau** Mae cyfleoedd cyffrous wedi codi ar...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **About The Service** Mae ein Tîm Academi Caerdydd yn awyddus i gyflogi **Hyfforddwr Dysgu a Datblygu** a fydd yn gweithio mewn modd hybrid, gyda lleoliad gwaith yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, CF10 3ND, tra hefyd yn gweithio gartref am gyfran o'i amser. Mae Academi Caerdydd yn rhan o'n Gwasanaeth Adnoddau Dynol, yn cynnig cyfleoedd hyfforddiant i weithwyr y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol/Allanol** **Cyf**:FL2312** **Teitl y Swydd**:Technegydd Arlwyo a Manwerthu Dysgu Sylfaen** **Contract: 0.6 Cyfnod Penodol hyd at fis Gorffennaf 2024** **Oriau**: 22.2 Awr yr wythnos** **Cyflog**: £21,278 - £22,790** Mae adran Dysgu Sylfaen Coleg Caerdydd a’r Fro yn darparu cyrsiau ar gyfer bobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Teitl y Swydd**:Cynorthwyydd Cymorth Ychwanegol (Dysgu Sylfaen)** **Contract**:Rhan Amser (0.71 cyfwerth â llawn amser), Yn Ystod Tymor Ysgol yn Unig, Parhaol** **Cyflog: £16,660.31 - £17,220.16 (Ar sail cyflog cyfwerth â llawn amser o £23,152-£23,930 y flwyddyn)** **Oriau**: 32.5 awr yr...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Teitl y Swydd**: Gweinyddwr Busnes Cwricwlwm (Hanfodion Dysgu) **Contract**: Rhan-amser (0.5) / Cyfnod Penodol tan fis Rhagfyr 2024 (Cyfnod Mamolaeth) **Cyflog**: £23,152 - £23,930 pro rata **Lleoliad**: Caerdydd a'r Fro Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn awyddus i benodi Gweinyddwr Busnes Cwricwlwm i weithio yn y...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol ac Allanol** **Cyf: 12090** **Teitl y Swydd**:Hyfforddwr Academi Bêl-Droed - Rhaglen Merched** **Cytundeb**:Tymor penodol Medi 2023 i Orffennaf 2024** **Oriau: 7 awr yr wythnos yn cynnwys gyda’r nosau a phenwythnosau** **Cyflog: £15.16 yr awr** Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn chwilio am Hyfforddwr Academi Bêl-droed i gefnogi’r...

  • Prentis Corfforaethol

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £19,100 y flwyddyn pro-rata yn y rôl Prentis hon gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae ein Gwasanaeth Dydd Anghenion Cymhleth Anableddau Dysgu yn awyddus i gyflogi **Prentis Corfforaethol** **(Lefel 2) **wedi'i leoli yng Ngwasanaeth Dydd Caerdydd, Heol Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2RR er mwyn cyfrannu...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig â sgiliau gofal cwsmeriaid ardderchog ymuno â'n Tîm Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn rhan o'n Prosiect Lluosi, sy'n rhan o'r Tîm Llwybr i Mewn i Waith. Nod Prosiect Lluosi yw cefnogi dinasyddion anodd eu cyrraedd i uwchsgilio, gan ganolbwyntio ar...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Teitl y Swydd**:Cynorthwyydd Cymorth Ychwanegol (Prif ffrwd)** **Contract**:Rhan Amser (0.82 cyfwerth â llawn amser), Yn Ystod Tymor Ysgol yn Unig, Parhaol** **Cyflog: £16,660.31 - £17,220.16 (Ar sail cyflog cyfwerth â llawn amser o £23,152-£23,930 y flwyddyn)** **Oriau**: 32.5 - 37 awr yr...


  • Cardiff, United Kingdom Itec Skills Full time

    **Chwilio am gyfle newydd?** Yn Itec mae gan ein gweithwyr fynediad i nifer o fanteision gwych, gan gynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, cynllun gofal iechyd, 35 awr o wythnos waith, gostyngiadau ar gyfer aelodaeth manwerthu a champfa, cynllun bonws, yswiriant bywyd, gwobrau gweithiwr y mis, cydnabyddiaeth hyd gwasanaeth a llawer mwy. **Rôl: Aseswr NVQ...

  • Cydlynydd Ymgysylltu

    1 month ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith yn rhoi cymorth i bobl ledled y ddinas sydd wrthi'n chwilio am waith neu'n ceisio gwella'u sgiliau; mae'r tîm yn gallu cynnig cymorth a mentora dwys drwy brosiect a ariennir yn allanol, cyfleoedd gwirfoddoli a mynediad i gyrsiau digidol a hyfforddiant sgiliau gwaith am ddim. Mae'r Gwasanaeth Cyngor...

  • Dadansoddwr Busnes

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae Tîm ystadegau Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor yn cynnig cyfle i ymuno â nhw fel Rheolwr Dadansoddi Busnes gyda’r Gwasanaethau Cwsmeriaid. Mae'r Tîm...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae ein timau Anableddau Dysgu yn rhan o gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau o fewn Cyngor Caerdydd. Fel cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a materol i fywydau pobl bob dydd. Mae gennym ddau dîm anableddau dysgu sy'n cwmpasu dwyrain a...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig, sydd â sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a diogelwch rhagorol, i ymuno â'n tîm. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm cynorthwywyr diogelwch Porthor a leolir o fewn hybiau allgymorth neu lyfrgell ganolog. **Am Y Swydd** Byddwch yn helpu i ddarparu amgylchedd diogel, tawel a...

  • Swyddog Hyfforddi

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaethau Plant wedi creu tîm newydd i ganolbwyntio ar ehangu a chryfhau'r gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol. **Am Y Swydd** Bydd deiliad y swydd yn dylunio ac yn darparu amrywiaeth eang o raglenni hyfforddi gan gynnwys platfformau E-Ddysgu sy'n diwallu anghenion hyfforddi a datblygu timau'r Gwasanaethau Plant. Bydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae’r Gwasanaethau Plant wedi creu tîm newydd i ganolbwyntio ar ehangu a chryfhau'r gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol. **Am Y Swydd** Bydd deiliad y swydd yn dylunio ac yn darparu amrywiaeth eang o raglenni hyfforddi gan gynnwys platfformau E-Ddysgu sy'n diwallu anghenion hyfforddi a datblygu timau'r Gwasanaethau Plant. Bydd...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor Caerdydd yn sefydliad llywodraeth leol sy’n gyfrifol am ddarparu dros 700 o wahanol wasanaethau i’n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled Caerdydd. Mae Tîm Ystadegau Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol y Cyngor yn cynnig y cyfle i ymuno â nhw fel Dadansoddwr Perfformiad Gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaethau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Nod Cyngor Caerdydd yw darparu gwasanaeth hygyrch o ansawdd uchel wrth gyflawni ei swyddogaethau i gynnal a chadw 13,808 eiddo domestig y Cyngor a thua 9 adeilad llety â chymorth. Mae hefyd yn gyfrifol am 9 bloc o fflatiau uchel, yn ogystal â Chyfadeiladau Byw yn y Gymuned. Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Tai a Chymunedau...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Ydych chi eisiau gweithio mewn rôl ystyrlon yn cefnogi plant i fodloni eu hanghenion unigol a goresgyn heriau gan eu helpu i fyw bywydau llawn a hapus? Yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar fywydau ein plant, mae taliadau chwyddo hael yn cael eu talu am weithio ar nosweithiau, penwythnosau, Gwyliau Banc ac ar gyfer dyletswyddau...