Technegydd Arlwyo a Manwerthu Dysgu Sylfaen

6 days ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

**Swydd Wag Fewnol/Allanol**

**Cyf**:FL2312**

**Teitl y Swydd**:Technegydd Arlwyo a Manwerthu Dysgu Sylfaen**

**Contract: 0.6 Cyfnod Penodol hyd at fis Gorffennaf 2024**

**Oriau**: 22.2 Awr yr wythnos**

**Cyflog**: £21,278 - £22,790**

Mae adran Dysgu Sylfaen Coleg Caerdydd a’r Fro yn darparu cyrsiau ar gyfer bobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a/neu Anableddau, a'r rheiny nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae’r adran yn tyfu’n flynyddol, ac mae ein cwricwlwm ar gyfer 2023/24 yn cynnwys 31 o gyrsiau ar gyfer 400+ o ddysgwyr posib ar draws 6 lleoliad gwahanol.

Mae ein holl gyrsiau yn cynnwys cymysgedd o ddysgu yn y dosbarth a chwblhau prosiectau er mwyn creu cwricwlwm amrywiol a diddorol, ac rydym yn chwilio am dechnegydd i gefnogi’r cwricwlwm hwn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gynnal systemau gwaith diogel yn ein ceginau sgiliau byw’n annibynnol ac am reoli stoc ac archebu ar gyfer yr ardaloedd hyn a phrosiectau menter yr adran. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â phrofiad yn y maes lletygarwch neu arlwyo ac sy’n meddu ar awydd i ddefnyddio ei sgiliau i sicrhau bod profiad dysgu ein dysgwyr yn un ystyrlon sy'n eu datblygu fel pobl annibynnol, galluog a chyflogadwy.

Yn gyfnewid, rydym yn cynnig buddion gwych gan gynnwys cynllun pensiwn hael, gweithio yn ystod y tymor ac oriau ysgol yn unig, mynediad at ostyngiadau amrywiol fanwerthwyr Ar-lein ac ar y Stryd Fawr drwy ein cynllun Porth Gwobrwyo, Cynllun Arian Parod a mynediad at lwybrau gyrfa cyffrous yn y coleg.

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.

**Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi'u cwblhau yw 31 Awst 2023 am 12pm.**

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

**Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.**

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae ein timau Anableddau Dysgu yn rhan o gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau o fewn Cyngor Caerdydd. Fel cyfarwyddiaeth, rydym yn cydnabod bod gweithwyr cymdeithasol yn weithwyr proffesiynol medrus sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a materol i fywydau pobl bob dydd. Mae gennym ddau dîm anableddau dysgu sy'n cwmpasu dwyrain a...


  • Cardiff, United Kingdom Itec Skills Full time

    **Chwilio am gyfle newydd?** Yn Itec mae gan ein gweithwyr fynediad i nifer o fanteision gwych, gan gynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, cynllun gofal iechyd, 35 awr o wythnos waith, gostyngiadau ar gyfer aelodaeth manwerthu a champfa, cynllun bonws, yswiriant bywyd, gwobrau gweithiwr y mis, cydnabyddiaeth hyd gwasanaeth a llawer mwy. **Rôl: Aseswr NVQ...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig â sgiliau gofal cwsmeriaid ardderchog ymuno â'n Tîm Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn rhan o'n Prosiect Lluosi, sy'n rhan o'r Tîm Llwybr i Mewn i Waith. Nod Prosiect Lluosi yw cefnogi dinasyddion anodd eu cyrraedd i uwchsgilio, gan ganolbwyntio ar...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Cyf**:SCHOOL2401** **Teitl y Swydd**:Tiwtor TGAU Mathemateg i Brentisiaid Iau** **Contract: Contract Llawn Amser (cyfwerth â llawn amser) - Cyfnod Penodol hyd at Orffennaf 2025** **Oriau: 37 awr yr wythnos** **Cyflog: £22,905 - £45,079** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Tiwtor Saesneg i Brentisiaid Iau ar ein...