Hyfforddwr Academi Bêl-droed

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

**Swydd Wag Fewnol ac Allanol**

**Cyf: 12090**

**Teitl y Swydd**:Hyfforddwr Academi Bêl-Droed - Rhaglen Merched**

**Cytundeb**:Tymor penodol Medi 2023 i Orffennaf 2024**

**Oriau: 7 awr yr wythnos yn cynnwys gyda’r nosau a phenwythnosau**

**Cyflog: £15.16 yr awr**

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn chwilio am Hyfforddwr Academi Bêl-droed i gefnogi’r Pennaeth Pêl-droed yn rhediad o ddydd i ddydd y rhaglen Pêl-droed Merched yn CAVC.

**Ymhlith rolau a chyfrifoldebau allweddol y swydd mae**:

- Bod yn atebol i'r Pennaeth Pêl-droed am reolaeth o ddydd i ddydd y rhaglen Pêl-droed Merched yn CAVC. Creu diwylliant sy’n annog safonau personol uchel ar y cae ac oddi arno, ac sy’n cyd-fynd ag amgylchedd sy’n perfformio’n dda.
- Gweithredu rhaglen cynllunio llwyddiant drwy recriwtio, cadw a throsglwyddo chwaraewyr i uwch dîm(au) y coleg.
- Cefnogi strategaeth chwarae a hyfforddi sy’n rhesymol â’r chwaraewyr ac sy’n cydnabod cryfderau a gwendidau’r tîm ac unigolion.
- Annog y defnydd o systemau dadansoddi i ddatblygu’r tîm ac unigolion.
- Rhoi cymorth i'r Pennaeth Pêl-droed gyda meini prawf ysgrifenedig ar gyfer dewis chwaraewyr, a ddylai fod yn seiliedig ar rinweddau personol a safle. Dylid dosbarthu’r meini prawf ymhlith chwaraewyr.
- Mynychu treialau a gemau eraill er mwyn dod o hyd i chwaraewyr talentog.
- Rheoli amserlen chwaraewyr, gan gynnwys y canlynol: - monitro cryfder a chyflyru, gwerthusiad anafiadau, amseroedd ymarfer, sicrhau bod systemau cyfathrebu’n eglur, sesiynau adfer, amseroedd cyfarfod a pharatoi ar gyfer gemau.
- Cefnogi’r Pennaeth Pêl-droed gydag arddull chwarae sy’n effeithiol ac sy’n manteisio ar gryfderau’r tîm/timau.
- Sicrhau bod chwaraewyr yn derbyn adborth priodol ar berfformiadau yn ystod yr amser hyfforddi, chwarae a chyfarfodydd adolygu un-i-un.
- Cynorthwyo gyda nosweithiau agored yn y Coleg, digwyddiadau cyfweld ar draws y coleg, digwyddiadau goruchwylio a chofrestru.
- Gweithio ar sail hyblyg, yn cynnwys gyda’r nosau ac ar benwythnosau ar unrhyw rai o safleoedd y Coleg, neu yn ystod gweithgareddau gyda dysgwyr.
- Byddai sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar Drwydded UEFA B (neu uwch) yn ogystal â bod â phrofiad blaenorol o weithio o fewn y diwydiant ar lefel lled broffesiynol neu uwch.

Ceir gwybodaeth bellach yn y swydd ddisgrifiad/Manyleb Person.

Dylid gwneud ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais ar-lein Coleg Caerdydd a’r Fro yn unig. Ni dderbynnir ceisiadau CV.

**Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw 24/08/2023 yr 12:00pm.**

**Cynhelir cyfweliadau ddydd Iau 5 Medi 2023 ar Gampws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd.**

Mae'r holl swyddi gwag yn amodol ar wiriad manwl diweddar gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol/Allanol** **Cyfeirnod: 12051** **Teitl y Swydd**:Hyfforddwr Gyrfaoedd - REACH+ - 2 Swydd** **Oriau: 1 x 1.0 cyfwerth â llawn amser - 37 Awr** **1 x 0.8 cyfwerth â rhan amser - 30 Awr** **Hyd: Cyfnod Penodol tan Gorffennaf 2024** **Cyflog: £25,565 - £27,747 y flwyddyn** Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Hyfforddwr Gyrfaoedd i...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig â sgiliau gofal cwsmeriaid ardderchog ymuno â'n Tîm Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i ddarparu gwasanaeth wyneb yn wyneb proffesiynol i roi cymorth mentora i gyfranogwyr sy'n byw yng Nghaerdydd, gan ddarparu cymorth ymarferol i ymgymryd â...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae'r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith yn darparu cefnogaeth i bobl sy'n chwilio am waith neu'n edrych i uwchsgilio. Gall y tîm gynnig cymorth a mentora dwys drwy brojectau a ariennir yn allanol a chyfleoedd i wirfoddoli. Mae'r Tîm Cyswllt Cyflogwyr, sy'n rhan o'r Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith, yn rhoi pecyn cyn-gyflogi cyflawn...

  • Senior Lecturer

    Found in: beBee S GB - 4 days ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Metropolitan University Full time

    Disgrifiad Swydd Uwch Ddarlithydd – Cydlynydd Lleoliadau Clinigol Rhyngbroffesiynol.pdf Job Description Senior Lecturer - Interprofessional Clinical Placement Co-ordinator.pdf Job description Cardiff School of Sport and Health Sciences is a recognised centre of excellence in the UK and has established a national and international reputation for the quality...

  • Senior Lecturer

    Found in: beBee jobs GB - 4 days ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Metropolitan University Full time

    Disgrifiad Swydd Uwch Ddarlithydd – Cydlynydd Lleoliadau Clinigol Job Description Senior Lecturer - Interprofessional Clinical Placement Co-Job descriptionCardiff School of Sport and Health Sciences is a recognised centre of excellence in the UK and has established a national and international reputation for the quality of its academic and research work in...