Mentor Cyflogaeth Gymunedol

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

**Am Y Gwasanaeth**
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig â sgiliau gofal cwsmeriaid ardderchog ymuno â'n Tîm Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i ddarparu gwasanaeth wyneb yn wyneb proffesiynol i roi cymorth mentora i gyfranogwyr sy'n byw yng Nghaerdydd, gan ddarparu cymorth ymarferol i ymgymryd â hyfforddiant cysylltiedig â gwaith yn llwyddiannus a chynorthwyo gyda chymorth cyflogadwyedd.

**Am Y Swydd**
Bydd y swydd hon yn gweithio ar ein prosiect Academi Adeiladu ar y safle De-ddwyrain Cymru. Mae'r prosiect yn cefnogi cyfranogwyr i fanteisio ar hyfforddiant sy'n gysylltiedig ag adeiladu, ac i gymryd rhan mewn profiad gwaith a sicrhau cyflogaeth yn y sector.

Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu dangos dealltwriaeth o'r problemau sy'n wynebu cwsmeriaid sy'n ceisio gwaith parhaol; ac sy’n meddu ar y gallu i'w helpu i gael gwaith.

**Beth Rydym Ei Eisiau Gennych**
Bydd gennych brofiad o weithio mewn maes sy’n gysylltiedig â chwilio am swydd.

Bydd gennych brofiad o weithio wyneb yn wyneb â chwsmeriaid a phrofiad o fentora mewn lleoliad cyflogaeth. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a TG da a byddwch yn gallu datrys anghydfod mewn modd cadarnhaol ac adeiladol.

Byddwch yn cynorthwyo cyfranogwyr i symud yn agosach at gyfleoedd gwaith a chael mynediad i gronfa rhwystrau i gael hyfforddiant.

Byddwch yn gweithio’n dda mewn tîm, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol ac yn weithiwr hyblyg.

Byddai’r gallu i siarad ieithoedd eraill, yn benodol Cymraeg/Saesneg, Somalieg, Arabeg, Pwyleg, neu Wcraineg o fantais.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Swydd dros dro tan 31/03/2024 yw hon.

Mae’r swydd yn destun Gwiriad Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r swydd hon yn addas i'w rhannu.

Efallai bydd angen gweithio rhywfaint gyda’r nos a/neu’r penwythnos.

Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Rhaid i ymgeiswyr mewnol sy'n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar sail secondiad gael cymeradwyaeth cyn gwneud cais gan ddefnyddio Ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol / Prif Swyddog neu uwch swyddog enwebedig perthnasol ar radd nad yw’n is nag RhG2, neu yn achos staff mewn ysgolion, y Pennaeth / Corff Llywodraethu, all gymeradwyo ceisiadau.

Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:

- Canllawiau Gwneud Cais
- Gwneud cais am swydd â ni
- Fframwaith Cymhwysedd Ymddygiadol

Gwybodaeth Ychwanegol:

- Siarter y Gweithwyr
- Recriwtio Cyn-droseddwyr
- Nodyn Preifatrwydd

Job Reference: PEO03007



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Ynglŷn â’r Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn ymroddedig â sgiliau gofal cwsmeriaid ardderchog ymuno â'n Tîm Gwasanaeth Cynghori i Mewn i Waith. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn helpu i gynnig gwasanaeth wyneb yn wyneb proffesiynol i roi help mentor i gyfranogwyr sy’n byw yng Nghaerdydd, rhoi cymorth ymarferol o ran sgiliau...

  • Mentor Cymorth Cynnar

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn wasanaeth arloesol a blaengar yn y gyfarwyddiaeth Oedolion, Tai a Chymunedau yng Nghyngor Caerdydd. Mae’r gwasanaeth, a enillodd Wobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf yn ddiweddar, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth o ansawdd i blant, pobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ledled y...

  • Mentor Ieuenctid

    4 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig ystod o ddarpariaethau ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed ac mae’n cynnwys tîm o weithwyr ieuenctid proffesiynol ymroddgar sy’n gweithredu ledled y ddinas. Mae’r gwasanaeth yn cynnwys canolfannau ieuenctid, darpariaethau arbenigol, timau mentora ieuenctid a gwaith ieuenctid stryd ac mae pob...

  • Senior Lecturer

    3 weeks ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Metropolitan University Full time

    Disgrifiad Swydd Uwch Ddarlithydd – Cydlynydd Lleoliadau Clinigol Rhyngbroffesiynol.pdf Job Description Senior Lecturer - Interprofessional Clinical Placement Co-ordinator.pdf Job description Cardiff School of Sport and Health Sciences is a recognised centre of excellence in the UK and has established a national and international reputation for the quality...

  • Senior Lecturer

    3 weeks ago


    Cardiff, Cardiff, United Kingdom Cardiff Metropolitan University Full time

    Disgrifiad Swydd Uwch Ddarlithydd – Cydlynydd Lleoliadau Clinigol Job Description Senior Lecturer - Interprofessional Clinical Placement Co-Job descriptionCardiff School of Sport and Health Sciences is a recognised centre of excellence in the UK and has established a national and international reputation for the quality of its academic and research work in...