Hyfforddwr Gyrfaoedd

3 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

**Swydd Wag Fewnol/Allanol**

**Cyfeirnod: 12051**

**Teitl y Swydd**:Hyfforddwr Gyrfaoedd - REACH+ - 2 Swydd**

**Oriau: 1 x 1.0 cyfwerth â llawn amser - 37 Awr**

**1 x 0.8 cyfwerth â rhan amser - 30 Awr**

**Hyd: Cyfnod Penodol tan Gorffennaf 2024**

**Cyflog: £25,565 - £27,747 y flwyddyn**

Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Hyfforddwr Gyrfaoedd i weithio gyda’n tîm Reach+ yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Mae REACH+ yn brosiect wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, sydd â’r nod o wasanaethu pawb yng Nghymru sydd eisiau dysgu ESOL. Byddwch yn gweithio gyda ffoaduriaid drwy gydol eu taith gyfannol, yn eu cefnogi wrth nodi a goresgyn rhwystrau rhag sicrhau, cynnal a datblygu cyflogaeth.

Bydd y cyfrifoldebau'n cynnwys:

- Gweithio gyda ffoaduriaid ar y prosiect hwb integreiddio ar sail un-i-un, ac mewn grwpiau, o bryd i’w gilydd, er mwyn nodi rhwystrau rhag sicrhau, cynnal a datblygu cyflogaeth. Cefnogi ffoaduriaid wrth oresgyn y rhwystrau hyn drwy ddatblygu a chyflwyno cynlluniau gweithredu unigol a mentora a chymorth parhaus.
- Cysylltu ag ystod o sefydliadau atgyfeirio, gan gynnwys y Ganolfan Byd Gwaith, Gyrfa Cymru, Cymru’n Gweithio, Cymdeithasau Tai, Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol, Gwasanaethau Prawf, rhaglenni/asiantaethau cyflogadwyedd eraill a llwybrau hunangyfeirio, er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfle i bontio o’r Coleg at raglenni cyflogadwyedd.
- Rheoli llwyth achos o fuddiolwyr, o’r cam asesiad a chyfeirio cychwynnol, hyd nes cwblhau’r rhaglen, a thu hwnt, er mwyn olrhain gwybodaeth am y canlyniad a chynnydd wedi hynny.
- Ymgymryd ag asesiadau cyfannol diagnostig cychwynnol, a chyflwyno rhaglenni cynefino sy’n ymwneud â chyflogadwyedd i unigolion/grwpiau.
- Cynnig cyngor ac arweiniad i ffoaduriaid mewn perthynas â thai, iechyd a hyfforddiant, a gwneud atgyfeiriadau perthnasol.
- Cynnig cyngor, cymorth a hyfforddiant cyflogadwyedd, gan gynnwys sgiliau chwilio am swyddi, ceisiadau am swyddi, ysgrifennu CV, sgiliau cyfweld etc i ffoaduriaid ar sail unigol/grwp, wyneb yn wyneb, neu dros y ffôn, ar-lein neu ar sianeli cyfryngau cymdeithasol.
- Gweithio gyda’r Tiwtoriaid Sgiliau Hanfodol/ESOL i sicrhau cyfleoedd dysgu priodol a chymorth parhaus ar gyfer unigolion, pan fo angen yn cael ei nodi.

Byddai cymhwyster mewn Cyngor ac Arweiniad neu Gwnsela, a’r gallu i siarad Cymraeg, yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Bydd y swydd yn gofyn ichi deithio yng Nghaerdydd a Chymru, ac felly bydd angen i ddeiliad y swydd feddu ar drwydded yrru lawn.

Efallai y bydd y rôl yn gofyn i ddeiliad y swydd weithio mewn shifftiau er mwyn bodloni anghenion craidd y busnes gyda'r nos ac ar benwythnosau

Mae buddion gwych i’r rôl, gan gynnwys pensiwn hael, cynllun arian parod iechyd, cynllun Beicio i'r Gwaith, ap Headspace am ddim, mynediad i gampfeydd a chymorth llesiant, ynghyd â llwybrau gyrfa trawiadol o fewn y coleg.

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.

**Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau ceisiadau yw 12pm ar 17/03/2023.**

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

**Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.