Gweinyddwr Busnes Cwricwlwm

2 weeks ago


Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

**Swydd Wag Fewnol / Allanol**

**Teitl y Swydd**: Gweinyddwr Busnes Cwricwlwm (Hanfodion Dysgu)

**Contract**: Rhan-amser (0.5) / Cyfnod Penodol tan fis Rhagfyr 2024 (Cyfnod Mamolaeth)

**Cyflog**: £23,152 - £23,930 pro rata

**Lleoliad**: Caerdydd a'r Fro

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn awyddus i benodi Gweinyddwr Busnes Cwricwlwm i weithio yn y Gyfadran Hanfodion Dysgu, a fydd yn gyfrifol am waith ar draws pob campws. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer y swydd yn gyfrifol yn bennaf am weithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer y Gyfadran o ran ymholiadau gweinyddol; yn cynnwys presenoldeb, staff llanw, adnoddau a chreu amserlenni; yn ogystal â sicrhau bod staff yn cael gwybod am absenoldebau a adroddwyd, drwy ddiweddaru’r e-gofrestriadau drwy Amserlenni a Chofrestrau.

Mae cyfrifoldebau’r rôl yn benodol yn cynnwys:

- Monitro’r ffordd y dosbarthir a’r ffordd yr adolygir e-gofrestriadau drwy’r Dangosfwrdd i sefydliadau partner.
- Cynorthwyo gyda’r broses o gwblhau ffurflenni ymweliadau addysgiadol ac asesiadau risg a cheisio cymeradwyaeth gan Benaethiaid Adrannau
- Cefnogi tîm rheoli’r gyfadran gyda gweinyddu'r broses disgyblu myfyrwyr.
- Cefnogi staff y gyfadran a’r Rheolwr Busnes Cwricwlwm gydag olrhain dysgwyr newydd, dysgwyr sydd wedi tynnu’n ôl, rhai sy’n newid coleg, cyrchfannau a chynnydd dysgwyr yn y gyfadran.
- Gweinyddu a gwneud cofnodion o gyfarfodydd y Gyfadran a thimau adrannol yn effeithiol, gan sicrhau bod y cofnodion yn cael eu rhannu’n brydlon.
- Trefnu a monitro arfarniadau, Adolygiadau Cyfnod Prawf, Goruchwyliaeth Addysgu a Dysgu a Theithiau Dysgu i’r holl staff o fewn y Gyfadran. Sicrhau bod gwaith papur yn cael ei baratoi a’i anfon yn ôl at yr adran berthnasol yn brydlon.
- Sicrhau bod dysgwyr yn cwblhau pob holiadur gan y Syrfëwr Cwricwlwm.
- Nid yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ond byddent yn ddymunol ar gyfer y rôl hon

Yn ddelfrydol, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o ddefnyddio Systemau Cofnodion Myfyrwyr o fewn Amgylchedd Addysgol, yn ogystal â lefel uchel o sgiliau trefnu a chefndir da o weithio gyda symiau mawr o ddata a gwaith gweinyddol.

Mae gan y rôl fuddion gwych, gan gynnwys pensiwn hael, cynllun arian parod iechyd, cynllun Beicio i'r Gwaith, ap Headspace am ddim, mynediad i gampfeydd a chymorth lles, ynghyd â llwybrau gyrfa trawiadol o fewn y coleg.

Rhaid cyflwyno ceisiadau gan ddefnyddio ffurflen gais Coleg Caerdydd a'r Fro yn unig. Mae’r coleg yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn y Saesneg. Os ydym yn eich gwahodd i gyfweliad, rhowch wybod i ni os hoffech i ni gynnal y cyfweliad a’r broses asesu yn y Gymraeg.

**Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau yw 29/01/2024 am 12:00**

Mae'r holl swyddi gwag yn destun gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac ni fydd cyflogaeth yn dechrau heb wiriad DBS cyfredol, dilys. Mae hwn yn gontract cytundebol y mae'n rhaid iddo fod ar waith cyn bod eich cyflogaeth yn dechrau. Mae gweithdrefn y Coleg ar gyfer Addasrwydd Cyn-droseddwyr ar gyfer Cyflogaeth ar gael ar gais.

Bydd eich cyflogaeth gyda Choleg Caerdydd a'r Fro hefyd yn ddibynnol ar wiriadau geirdaon addas. Cyn i chi allu dechrau eich cyflogaeth, rhaid i Goleg Caerdydd a'r Fro gael dau eirda, un gan eich cyflogwr presennol neu gyflogwr mwyaf diweddar. Byddwn yn cysylltu â’ch canolwyr ar eich penodiad.

Mae cofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru (CGA Cymru) yn ofyniad gorfodol ar gyfer y swydd

**Mae'r rhain yn gontractau cytundebol y mae'n rhaid iddynt fod ar waith cyn y gall eich cyflogaeth ddechrau.**

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn gyflogwr cadarnhaol sy'n rhan o'r cynllun Hyderus o ran Anabledd.



  • Cardiff, United Kingdom Cardiff and Vale College Full time

    **Swydd Wag Fewnol / Allanol** **Teitl y Swydd**: Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwybodaeth **Contract**: Llawn amser, Parhaol **Lleoliad**: Caerdydd a'r Fro **Cyflog**: £21,030 - £22,469 y flwyddyn Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Cynorthwyydd Gwasanaethau Gwybodaeth o fewn yr Adran Gwasanaethau Gwybodaeth yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Bydd y swydd...