Cymorthydd Addysgu Lefel Uwch

6 months ago

Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae’r rôl o fewn Darpariaeth Arbenigol Bro Morgannwg sy’n rhan o Gyfarwyddiaeth Lles ac ADY Bro Morgannwg. Lleolir y swydd yng Nghanolfan Adnoddau Arbenigol newydd yn Ysgol Gwaun y Nant.

Bydd y rôl yn cynnwys gweithio gyda disgyblion o fewn yr ystod oedran cynradd, yn y Ganolfan Adnoddau ac ar draws Bro Morgannwg trwy allgymorth. Mae'r rôl yn cynnwys goruchwylio cymorthyddion dysgu eraill a chydweithio ag athro arbenigol. Byddwch yn rhan o dîm bach ond egnïol a chefnogol sy’n frwd dros gefnogi disgyblion ag ADY

**Ynglŷn â'r rôl**

30 awr: 5 diwrnod yr wythnos

Gradd 6, pwynt graddfa 14-19

Lwfans ADY

Prif weithle : Ysgol Gwaun Y Nany, Y Barri, Bro Morgannwg, ond yn ymestyn ar draws Bro Morgannwg mewn ysgolion a lleoliadau Blynyddoedd Cynnar

Disgrifiad:
Cyfle cyffrous i ymuno â’n tîm cefnogol yn y Ganolfan Ragoriaeth newydd yn Ysgol Gwaun Y Nant. Mae’r rôl yn cynnwys cefnogi disgyblion ag anghenion cyfathrebu cymdeithasol, rhyngweithio neu anawsterau rheoleiddio, i gael mynediad i’r cwricwlwm gan ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau arbenigol a’u galluogi i gymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd ysgol. O ddydd i ddydd, golyga hyn gefnogaeth dosbarth i ddisgyblion unigol a gwaith un i un neu waith grŵp bach o fewn y Ganolfan Adnoddau.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda disgyblion ag anghenion cyfathrebu cymdeithasol, rhyngweithio neu reoleiddio ar draws Camau Cynnydd 1 i 3.

Efallai y bydd y rôl yn gofyn am gefnogi’r Athro Arbenigol gyda gwaith allgymorth / pontio mewn ysgolion eraill ym Mro Morgannwg pan fo angen.

Gweler y disgrifiad swydd am fanylion pellach

**Amdanat ti**
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymarferydd rhagorol, gyda lefel dda o Gymraeg a Mathemateg a gallai fod yn fodel rôl da.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddiddordeb ac angerdd am ADY ac yn benodol ASD a gorbryder.

Bydd angen:

- Dealltwriaeth o wahanol anghenion addysgol a chymdeithasol disgyblion ag anghenion cyfathrebu cymdeithasol, rhyngweithio neu reoliad. Dealltwriaeth o effeithiau anhawterau cyfathrebu cymdeithasol, rhyngweithio neu rheoleiddio ar ddysgu
- Profiad blaenorol a diweddar o weithio gyda phlant mewn lleoliad cynradd
- Y gallu i gefnogi disgyblion ag anghenion cyfathrebu cymdeithasol, rhyngweithio neu anawsterau rheoleiddio ar draws holl feysydd y cwricwlwm
- Sgiliau cyfathrebu effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig
- Sgiliau dadansoddi a datrys problemau da
- Gallu gweithio'n annibynnol gyda blaengaredd ond hefyd fel rhan o dîm
- Sgiliau trefnu da
- Bod yn barod i, a medru dysgu sgiliau newydd
- Y gallu i hybu dysgu annibynnol disgyblion
- Bod yn barod i ymgymryd â hyfforddiant perthnasol yn ôl yr angen
- Parodrwydd i wneud gwaith allgymorth dan gyfarwyddyd yr Athro/Athrawes Arbenigol yn ôl yr angen
- awydd i weithio gyda chymorthyddion eraill a'u hysbrydoli

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Gwiriad DBS yn ofynnol

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Sarah Redrup, Rheolwr Gweithredol ADY

01446709811

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person atodedig am ragor o wybodaeth.

Job Reference: LS00312

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Am y Rôl** Cyfeirnod y swydd (i'w ddefnyddio ar y ffurflen gais): CPS-LSA4 Manylion am gyflog: Level 4, Gradd 6, PCG 14 - 19 £27,334 - £29,777 p.a. pro rata Diwrnodau / Oriau Gwaith: 5 dyddiau/ 32.5 awr Parhaol/Dros Dro: Parhaol **Disgrifiad**: Rydym yn chwilio am Cynorthwy-ydd Cymorth Lefel Uwch profiadol i gefnogi addysgu a dysgu arloesol ein...

  • Tiwtor I E.s.o.l

    6 months ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Canolfan Ddysgu’r Fro** Mae’r rhaglen hon, sy’n cael ei ariannu drwy fasnachfraint, yn cynnig amrediad o Sgiliau Hanfodol: Gweithdai Saesneg a Mathemateg ar sawl lefel o Fynediad 1 i Lefel 2. Caiff dysgwyr eu cynnal i lwyddo mewn amrywiaeth o gymwysterau gan gynnwys Agored Cymru a City and Guilds. Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnig...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Llywodraethwyr yr ysgol fywiog hon am benodi athro dosbarth gyda chyfrifoldeb addysgu a dysgu ychwanegol i gefnogi ADY. Mae hwn yn gyfle gwych i weithio gydag uwch dîm rheoli llawn cymhelliant a chreadigol, staff cefnogol a brwdfrydig, plant eiddgar, Corff Llywodraethu ymroddedig a rhieni a gofalwyr ymroddedig **Am y Rôl** Manylion am...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaethau Dysgu Cymunedol Oedolion Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal pedair rhaglen fel a ganlyn: **Yn Ôl ar y Trywydd Iawn** Mae’r rhaglen hon, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig cyrsiau Am Ddim i ddysgwyr sy’n gymwys. Mae’r cyrsiau yn fyr, 10 wythnos neu weithdai un diwrnod ac yn cael eu hachredu. Mae’r rhaglen yn...

  • Uwch Reolwr Prosiectau

    6 months ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cael ei gydnabod yn gyson fel yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru gan sicrhau twf cyffrous, cynaliadwy, economaidd a chymunedol tra'n gwella a pharchu amgylchedd arbennig y Fro. Rydym yn ychwanegu'r 2 swydd allweddol hon at ein tîm Prosiectau Mawr i'n galluogi i adeiladu ar y hanes hwn o lwyddiant...

  • Uwch Reolwr Prosiectau

    6 months ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cael ei gydnabod yn gyson fel yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru gan sicrhau twf cyffrous, cynaliadwy, economaidd a chymunedol tra'n gwella a pharchu amgylchedd arbennig y Fro. Rydym yn ychwanegu'r 2 swydd allweddol hon at ein tîm Prosiectau Mawr i'n galluogi i adeiladu ar y hanes hwn o lwyddiant...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Ysgol Gynradd St Nicholas CIW yn ysgol bentref fach gydag ethos ac amgylchedd Cristnogol croesawgar. Mae'r plant yn mwynhau dysgu, yn gadarnhaol, yn siriol ac yn ymddwyn yn dda. Mae'r ysgol newydd symud i adeilad newydd yr 21ain Ganrif. **Am y Rôl** Manylion Cyflog: Gradd 4 SCP 5-7 Dyddiau/Oriau'r wythnos: 30 awr yr wythnos £23,500 -...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Ysgol Gynradd St Nicholas CIW yn ysgol bentref fechan gydag ethos ac amgylchedd Cristnogol croesawgar. Mae'r plant yn mwynhau dysgu, yn gadarnhaol, yn siriol ac yn ymddwyn yn dda. Mae'r ysgol newydd symud i adeilad newydd yr 21ain Ganrif. **Am y Rôl** Manylion Cyflog: LSA Gradd 4 SCP 5-7 30 Dyddiau/Oriau'r wythnos: 30 awr yr wythnos...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn Ôl ar y Trywydd Iawn** Mae’r rhaglen hon, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig cyrsiau Am Ddim i ddysgwyr sy’n gymwys. Mae’r cyrsiau yn fyr, 10 wythnos neu weithdai un diwrnod ac yn cael eu hachredu. Mae’r rhaglen yn cynnwys Sgiliau Digidol, Cyflogadwyedd, Sgiliau i’r Gweithle, Hunan-hyder ac Iaith Arwyddo Prydeinig, yn...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Rondel House yn darparu Gwasanaeth Dydd i bobl hŷn sy'n byw yn ardaloedd Canol a Dwyrain Bro Morgannwg, a allai ddioddef o eiddilwch sy'n gysylltiedig ag oedran, salwch cronig, anabledd a/neu ddementia. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal gwasanaeth 5 diwrnod, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn darparu amgylchedd diogel lle gall pobl...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r is-adran Gwasanaethau Adeiladau yn darparu ystod eang o wasanaethau i gleientiaid corfforaethol a thai. Gan weithredu cyfrif masnachu, mae'r gwasanaeth yn ennill ffioedd, gan wneud ansawdd ac effeithlonrwydd yn allweddol i'r rolau yn y gwasanaeth. Gan weithio fel rhan o’r Gyfarwyddiaeth Amgylchedd a Gwasanaethau Tai, byddwch yn darparu...

    **Amdanom ni** Mae swydd Rheolwr Tîm yn y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir wedi codi i reoli tîm amlddisgyblaethol o swyddogion proffesiynol a staff technegol a chymorth eraill. O dan gyfarwyddyd y Rheolwr Gweithredol (Gwasanaethau Cymdogaeth), bydd deiliad y swydd yn rheoli gwasanaeth rheng flaen hynod brysur sy'n gweithredu ar draws Pen-y-bont ar Ogwr a...

  • Uwch Gynorthwy-ydd

    6 months ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Llyfrgelloedd ym Mro Morgannwg yn cynnig ystod eang o wasanaethau i ddefnyddwyr llyfrgelloedd drwy weithgareddau, hyfforddiant a digwyddiadau, mynediad am ddim at y rhyngrwyd a gwybodaeth, llogi ystafelloedd, gweithio gyda phartneriaid, ystod o ddeunyddiau astudiaethau lleol ac wrth gwrs cyfle i fenthyg llyfrau, llyfrau llafar a...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Rydym yn darparu gwasanaeth cymorth ariannol ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Lleoedd, gan gynnwys gosod a monitro cyllidebau, llunio ffurflenni ystadegol a hawliadau grant amrywiol. Rydym yn dîm bach, felly mae hyblygrwydd a sgiliau cyfathrebu da yn hanfodol i'r rôl. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl: Gradd 5, PCG 8 -12, £22,777 -...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Llyfrgelloedd ym Mro Morgannwg yn cynnig ystod eang o wasanaethau i ddefnyddwyr llyfrgelloedd drwy weithgareddau, hyfforddiant a digwyddiadau, mynediad am ddim at y rhyngrwyd a gwybodaeth, llogi ystafelloedd, gweithio gyda phartneriaid, ystod o ddeunyddiau astudiaethau lleol ac wrth gwrs cyfle i fenthyg llyfrau, llyfrau llafar a...

  • Swyddog Incwm

    6 months ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Bro Morgannwg yn recriwtio ar gyfer swydd Swyddog Incwm yn y Tîm Cyllid Gofal Cymunedol, sy’n swyddogaeth allweddol o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae gan y Gyfarwyddiaeth ystod eang o ddyletswyddau a chyfrifoldebau statudol ynghylch amddiffyn a chefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl:...

  • Rheolwr Cylch Bywyd Ad

    7 months ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Byddwch yn rheolwr allweddol o fewn swyddogaeth Cylch Bywyd Adnoddau Dynol y sefydliad, byddwch yn gyfrifol wrth reoli taith cylch bywyd llawn gweithiwr a gyrru gwelliant parhaus. **Ynglŷn â'r rôl** **Manylion Cyflog: Grade 9 - £39,186 - £43,421** Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr yr wythnos, patrwm gweithio hyblyg Prif Weithle:...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r rôl yn rhan o Wasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Bro Morgannwg o fewn Cyfarwyddiaeth Lles ac ADY Bro Morgannwg. Mae'r swydd yn cynnwys gweithio’n rhan o dîm Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu mewn canolfan adnoddau, sy'n rhan o ysgol ym Mro Morgannwg. Mae’n cynnwys gweithio gyda disgyblion 0-25 oed yn y ganolfan adnoddau ac...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Dyma gyfle i ymuno â Thîm Cyfathrebu Cyngor Bro Morgannwg. Gan weithio mewn amgylchedd creadigol, cyflym, wrth galon y sefydliad, mae'r tîm yn gyfrifol am bob agwedd o gyfathrebu mewnol ac allanol. Mae hyn yn cynnwys cysylltiadau â'r cyfryngau, rheoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor a datblygu gwefan a mewnrwyd y sefydliad. Fel...