Swyddog Incwm
5 months ago
**Amdanom ni**
Mae Bro Morgannwg yn recriwtio ar gyfer swydd Swyddog Incwm yn y Tîm Cyllid Gofal Cymunedol, sy’n swyddogaeth allweddol o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae gan y Gyfarwyddiaeth ystod eang o ddyletswyddau a chyfrifoldebau statudol ynghylch amddiffyn a chefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed.
**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Tâl: Gradd 7 PCG 20-25 (£30,296 - £33,945)
Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37
Prif Weithle: Swyddfeydd y Dociau
Rheswm dros Gynnig Swydd Dros Dro:
**Disgrifiad**: Gweithio fel rhan o'r Tîm Cyllid Gofal Cymunedol, gan ganolbwyntio'n benodol ar rôl Penodai Corfforaethol y Gyfarwyddiaeth a rheoli / ad-dalu dyled a gronnwyd gan ddinasyddion sy'n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol a dyled i ddarparwyr gofal.
Goruchwylio'r gwasanaeth penodai corfforaethol ac adnoddau staff cysylltiedig (Gweinyddwyr Cyfrif) a'r systemau cymorth.
**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Profiad o ddelio â’r cyhoedd gyda phrosesau adennill dyledion
- Profiad o reoli dyledion ac ôl-ddyledion sy’n weddill.
- Profiad o gydweithio ar draws sawl adran ac asiantaeth i sicrhau canlyniadau llwyddiannus.
- Gwybodaeth ymarferol am y fframwaith cyfreithiol yn ymwneud â chasglu incwm, ôl-ddyledion ac adfer dyledion a phrofiad o ddefnyddio’r fframwaith.
- Sgiliau llafar ac ysgrifenedig ardderchog
- Y gallu i ysgrifennu gohebiaeth ac adroddiadau clir a chywir.
- Gallu dadansoddi a chyflwyno data.
- Gallu delio'n bwyllog ac yn hyderus â sefyllfaoedd.
- Gallu ffurfio a chynnal perthnasoedd gweithio cadarnhaol ar bob lefel, yn fewnol ac yn allanol.
- Gallu rhagweld, atal a datrys problemau.
- Sgiliau trefnu rhagorol.
- Sgiliau rhifiadol rhagorol a sylw i fanylion.
- Y gallu i weithio o’ch pen a’ch pastwn eich hun
- 5 TGAU (neu gyfwerth) gan gynnwys Saesneg a Mathemateg gradd C neu uwch.
- Lefel A neu brofiad cyfatebol ym maes arbenigol Cyllid neu Adennill Dyledion.
- Gallu defnyddio pecynnau Microsoft Office gan gynnwys Excel, Word ac Outlook.
- Gallu ac ymrwymiad amlwg i weithio gyda dinasyddion i sicrhau canlyniadau cadarnhaol.
- Ymrwymiad i wella gwasanaethau’n barhaus
- Gallu gyrru / teithio ledled y Fro neu rhwng lleoliadau fel y bo’n briodol.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG): Manwl
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Job Reference: SS00776
-
Swyddog Gwasanaethau Masnachol
6 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir (GRhR) yn bartneriaeth rhwng Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg sy’n cyflawni swyddogaethau Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a Thrwyddedu. Mae gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir swydd wag yn ein Tîm Diwydiant ar hyn o bryd. Rydym yn chwilio am weithiwr Iechyd yr...