Rheolwr y Tîm Trwyddedu

7 months ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae swydd Rheolwr Tîm yn y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir wedi codi i reoli tîm
amlddisgyblaethol o swyddogion proffesiynol a staff technegol a chymorth eraill. O dan
gyfarwyddyd y Rheolwr Gweithredol (Gwasanaethau Cymdogaeth), bydd deiliad y swydd yn
rheoli gwasanaeth rheng flaen hynod brysur sy'n gweithredu ar draws Pen-y-bont ar Ogwr a Bro
Morgannwg yn cyflawni amrywiaeth o swyddogaethau Trwyddedu ar draws ardaloedd y Cyngor a
rhoi cymorth a chyngor uniongyrchol i aelodau etholedig wrth benderfynu ar geisiadau trwyddedu.
Byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod swyddogaethau statudol yn cael eu cyflawni drwy Bwyllgorau
a Gwrandawiadau a byddwch yn rhoi cyngor a chymorth arbenigol i Gadeiryddion y Pwyllgor fel
rhan o'ch rôl. Fel Uwch Swyddog allweddol yn y GRhR, byddwch yn gweithio mewn partneriaeth
ag ystod eang o randdeiliaid mewnol ac allanol ac yn cynrychioli'r gwasanaeth ar lefel
genedlaethol ar faterion trwyddedu.
Mae’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir yn gweithio gyda’r tri Chyngor partner - Pen-y-bont ar
Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg - dan un strwythur rheoli unigol. Mae’r Gwasanaeth yn
bennaf atebol i Gydbwyllgor o Aelodau Etholedig ond mae’n parhau i wasanaethu Pwyllgorau
Trwyddedu a Phwyllgorau Diogelu’r Cyhoedd pob Cyngor partner ac, mewn rhai amgylchiadau,
pob Cabinet ar faterion corfforaethol.

**Ynglŷn â'r rôl**
Gradd 11, PCG 40-43, £46,549 i £49,590 (yn aros dyfarniad cyflog)
Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: Parhaol, 37 awr gyda rhywfaint o waith ar y penwythnos a thu
allan i oriau
Prif weithle: sawl lleoliad ar draws Pen-y-bont ar Ogwr a Bro Morgannwg

**Amdanat ti**

Bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad perthnasol amlwg o weithredu'n llwyddiannus ar lefel rheoli arweinydd tîm neu

uwch
- Profiad o reoli cyllideb yn enwedig ym maes trwyddedu
- Profiad a gwybodaeth am ystod eang o statudau Trwyddedu
- Profiad o ddefnyddio systemau gwybodaeth rheoli i sicrhau dull integredig o gadw golwg

ar y farchnad a monitro dangosyddion perfformiad allweddol.
- Profiad o reoli rhanddeiliaid a gwaith partneriaeth sy'n gysylltiedig â'r Gwasanaethau

Rheoliadol.
- Profiad o arwain y gwaith o gyflwyno rhaglenni gorfodi a chyflawni canlyniadau

llwyddiannus
- Hanes llwyddiannus o arwain, rheoli a datblygu pobl
- Profiad o wneud penderfyniadau proffesiynol sylweddol ac effeithiol

**Gwybodaeth Ychwanegol**
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Will Lane, Rheolwr Gweithredol, Gwasanaethau
Cymdogaeth
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person atodedig i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: EHS00494



  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae cyfle cyffrous yn bodoli i ymuno â'n tîm yng Ngwasanaeth Adnoddau Cymunedol y Fro. Rydym yn chwilio am reolwr brwdfrydig a llawn cymhelliant i arwain ein tîm Ailalluogi. Mae Gwasanaeth Adnoddau Cymunedol y Fro yn wasanaeth integredig a gaiff ei gynnal gan Gyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd y Brifysgol Caerdydd ar Fro. Rydym yn...

  • Rheolwr Ymarferwyr

    7 months ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc, rydym wedi darparu adnoddau pellach i'n timau ac wedi gwella ein gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chymorth. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Gwasanaethau Plant Bro Morgannwg wrth i ni ehangu ein gweithlu i ateb galw cynyddol am ein gwasanaethau. Felly, rydym...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Rydym yn chwilio am weithiwr cymdeithasol cymwys sydd â phrofiad o ddatblygu a chefnogi fframweithiau sicrhau ansawdd i wella'r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu ac yn cefnogi canlyniadau cadarnhaol i'r holl ddinasyddion sy'n derbyn gwasanaethau. Cafwyd buddsoddiad sylweddol o fewn y tîm hwn gyda chydnabyddiaeth o'r angen i atgyfnerthu a...

  • Rheolwr Ymarferwyr

    7 months ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc, rydym wedi darparu adnoddau pellach i'n timau ac wedi gwella ein gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chymorth. Erbyn hyn mae gennym Dîm Derbyn penodol sy'n gallu ymateb yn effeithiol ar y pwynt cyswllt cyntaf. Rydym wedi cynyddu capasiti ein Rheolwr Ymarferydd yn y...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Teleofal y Fro yn cynnig technoleg yng nghartrefi pobl sy'n monitro eu hiechyd a’u lles ac yn eu galluogi i gael gafael ar gymorth a chefnogaeth mewn argyfwng 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae Teleofal ar gael i holl drigolion Bro Morgannwg a gellir ei ddefnyddio fel rhan o gynllun gofal cymunedol i gefnogi mathau eraill o...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae cyfle cyffrous wedi codi yn y Gwasanaeth Lleoli Oedolion ar gyfer Rheolwr Cynorthwyol. Mae'r Gwasanaeth Lleoli Oedolion yn darparu llety tymor byr a thymor hir i oedolion yr aseswyd bod angen gofal a chymorth arnynt ym Mro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae pobl yn byw mewn amgylchedd teuluol a ddarperir gan Letywyr Lleoli Oedolion...

  • Rheolwr Integredig

    7 months ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Tîm Iechyd Meddwl Lleol y Fro yn dîm amlddisgyblaethol deinamig, sy'n cynnig cymorth sy'n canolbwyntio ar wella ac wedi’i seilio ar ganlyniadau i bobl sydd angen gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd. Mae gan y tîm berthnasoedd rhagorol gyda sefydliadau'r trydydd sector, gwasanaethau sylfaenol ac arbenigol ac mae'n agored i ddatblygu'r...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir (GRhR) yn bartneriaeth rhwng Cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg i gyflawni’r swyddogaethau Trwyddedu, Safonau Masnach ac Iechyd yr Amgylchedd. Mae’r gwasanaethau a ddarperir yn cynnwys diogelwch bwyd, iechyd a lles anifeiliaid, iechyd a diogelwch, masnachu teg, rheoli llygredd, a...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir yn gweithredu ar draws y tri Chyngor partner, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg dan un strwythur rheoli unigol. Mae’r Gwasanaeth yn bennaf atebol i Gydbwyllgor o Aelodau Etholedig, ond bydd y rôl hon yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y swydd wasanaethu’r Pwyllgorau Trwyddedu ac Amddiffyn...

  • Rheolwr Tîm

    7 months ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Ymunwch ag Awdurdod sy'n: - 'Gadael i ti fod yn ti dy hun' - Bod â 'rheolwyr y gellir mynd atynt ar bob lefel' a - 'Gofal am bobl' Yn dilyn buddsoddiad sylweddol i Wasanaethau Plant a Phobl Ifanc, rydym wedi darparu adnoddau pellach i'n timau ac wedi gwella ein gwasanaethau ar gyfer plant sydd angen gofal a chymorth. Mae hyn yn cynnwys...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Cyfreithiwr dan hyfforddiant - Tîm Cymorth Cyfreitha a Busnes. Cynorthwyo gyda’r gwaith o ddarparu gwasanaeth cyfreithiol cynhwysfawr i’r Cyngor. **Ynglŷn â'r rôl** Gradd 5 (PC 8 - 12) £22,777 - £24,496 P.A. Dydd Llun I Ddydd Gwener 37 awr yr wythnos Y Swyddfeydd Dinesig, Y Barri / Gweithio o gartref Rheswm Dros Dro: sefydlog am 2...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** The Big Fresh Catering Company yn cynnig pryd ysgol maethlon iach amser cinio, sy’n cydymffurfio â’r safonau bwyd a maeth a nodir yn Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013. Yn ogystal â hyn rydym hefyd yn darparu gwasanaeth Bwffe/Digwyddiadau o ansawdd uchel i ysgolion, Caffi Pafiliwn Pier...

  • Uwch Gyfreithiwr

    2 weeks ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Cynorthwyo gyda’r gwaith o ddarparu gwasanaeth cyfreithiol cynhwysfawr i’r Cyngor. Gyda phwyslais ar gyflogaeth, addysg, ymgyfreitha a Gwaith trwyddedu. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion am gyflog: Gradd 10; 36-39, £39,880 - £42,821 Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 37 awr yr wythnos / Dydd Llun I dydd Gwener Prif Waith: Swyddfeydd...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Croeso i Gyngor Bro Morgannwg, lle mae ein gwerthoedd o Agored, Gyda'n Gilydd, Balch ac Uchelgeisiol yn gyrru popeth a wnawn. Fel cyngor sydd wedi'i wreiddio'n ddwfn yn ein cymuned, credwn mewn cydweithio a chynhwysol i gyflawni ein nodau. Rydym yn falch o'n hymrwymiad i fod yn agored a thryloyw, ac rydym bob amser yn chwilio am unigolion...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir yn gweithio gyda’r tri chyngor partner - Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg - dan un strwythur rheoli unigol. Mae’r Gwasanaeth yn bennaf atebol i Gydbwyllgor o Aelodau Etholedig, ond bydd y rôl hon yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y swydd wasanaethu’r Pwyllgorau Trwyddedu a Diogelu’r...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** The Big Fresh Catering Company yn cynnig pryd ysgol maethlon iach amser cinio, sy’n cydymffurfio â’r safonau bwyd a maeth a nodir yn Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013. Yn ogystal â hyn rydym hefyd yn darparu gwasanaeth Bwffe/Digwyddiadau o ansawdd uchel i ysgolion, Caffi Pafiliwn Pier...

  • Uwch Gyfreithiwr

    7 months ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn Dibynnu ar gymhwyster a phrofiad, teitl y swydd fydd nail ai: Uwch Gyfreithiwr neu Gyfreithiwr Cynorthwyol. Croesewir ceisiadau gan unigolion sydd â diddordeb / cefndir amlwg mewn gwaith cyfreithiol Cyflogaeth, ac Ymgyfreitha. Os mai chi yw hwn, gallai hwn fod yn gyfle newydd a chyffrous i unigolyn brwdfrydig sydd efallai'n meddu ar...

  • Uwch Swyddog Tgch

    6 days ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Dyma gyfle cyffrous i ymuno â thîm arloesol a phrofiadol o weithwyr technegol proffesiynol sy'n gweinyddu a chynnal seilwaith TGCh hanfodol y Cyngor. Byddwch yn cynorthwyo’r Rheolwr Tîm i gefnogi a gweinyddu seilwaith rhwydwaith a llais y Cyngor ar draws holl adeiladau’r Cyngor gan gynnwys swyddfeydd ac ysgolion yn y Sir. **Ynglŷn...

  • Uwch Swyddog Cymorth

    7 months ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir (GRhR) yn bartneriaeth rhwng Cynghorau Pen - y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg i gyflawni’r swyddogaethau Trwyddedu, Safonau Masnach ac Iechyd yr Amgylchedd. Mae hon yn rôl amrywiol a diddorol yn gweithio o fewn tîm Cymorth Busnes Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir. Bydd yr ymgeisydd...

  • Rheolwr Preswy

    7 months ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** 1. Cymryd cyfrifoldeb am rôl Rheolwr Cofrestredig AGC yng nghartref gofal Southway ar gyfer pobl hŷn / pobl sy'n byw gyda dementia a sicrhau bod y gwasanaeth yn bodloni'r holl ofynion rheoleiddio a safonau gofynnol. 2. Trefnu a rheoli gwasanaethau yn unol â'r holl ddeddfwriaeth, fframweithiau a safonau perfformiad cenedlaethol a lleol...