Rheolwr Ymarferwyr
7 months ago
**Amdanom ni**
Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc, rydym wedi darparu adnoddau pellach i'n timau ac wedi gwella ein gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chymorth.
Erbyn hyn mae gennym Dîm Derbyn penodol sy'n gallu ymateb yn effeithiol ar y pwynt cyswllt cyntaf. Rydym wedi cynyddu capasiti ein Rheolwr Ymarferydd yn y tîm hwn i dair swydd ac rydym bellach yn recriwtio i'n rolau newydd eu creu.
Rydym hefyd yn datblygu ein gwasanaethau i gefnogi ein dull gweithredu pwrpasol sy'n seiliedig ar gryfderau, sef 'Adeiladu ar Gryfderau'. Mae'r dull hwn yn cydnabod arbenigedd ein plant, ein teuluoedd a'n gweithwyr, ac yn rhoi perthnasoedd wrth wraidd popeth a wnawn.
Gan ymuno â'n gwasanaeth estynedig, byddwch yn rhan o Awdurdod sy'n ddyfeisgar ac yn wydn, wedi ymrwymo i wella ac yn awyddus i groesawu syniadau newydd. Gan adeiladu ar gryfderau amlwg, cewch eich cefnogi gan dîm galluog ac ymrwymedig sydd â gallu amlwg i ddarparu gwasanaeth da.
Gallwch ddisgwyl cynhesrwydd a lefelau uchel o gymorth gan weithlu ymroddedig ac Awdurdod lle mae lles a datblygiad yn ganolog i'n gwaith.
**Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl**:Gradd 10 PCG 36 - 39 £40,578 - £43,570 + £5,000 o dâl chwyddo
**Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith**:37 awr, dydd Llun i ddydd Gwener
**Prif Weithle**:Swyddfa'r Doc, Y Barri / Gweithio Ystwyth
Telir taliad chwyddo blynyddol o £5,000 ar gyfer y swydd hon.
**Disgrifiad**:
- Cynnig gwasanaeth gwaith cymdeithasol i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd / gofalwyr yn unol â’r ddeddfwriaeth, y canllawiau, y rheoliadau a’r safonau cenedlaethol perthnasol.
- Gweithio fel rhan o dîm, fel un o dri Rheolwr Ymarferwyr, i reoli, sgrinio a dyrannu atgyfeiriadau sy'n dod i mewn i'r Tîm.
- Cynnal trafodaethau strategaeth a gweithio gydag asiantaethau partner er mwyn sicrhau cefnogaeth effeithiol ac amserol i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd / gofalwyr.
- Goruchwylio staff gwaith cymdeithasol yn eu harferion gwaith cymdeithasol uniongyrchol.
- Dirprwyo ar ran y Rheolwr Tîm yn ei absenoldeb.
**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Bod yn Weithiwr Cymdeithasol cymwys a chofrestredig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Profiad o waith cymdeithasol statudol gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd.
- Gwybodaeth am egwyddorion Deddf Plant 1989 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
- Profiad o ddefnyddio Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
- Gallu negodi’n effeithiol.
- Ymrwymiad i waith partneriaeth.
- Profiad o oruchwylio neu fentora a chefnogi staff / myfyrwyr gwaith cymdeithasol.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
***
**Angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG)**:Manwl - plant ac oedolion
**I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â**:
Laura Pritchard, Rheolwr Gweithredol
Lucy Treby, Swyddog Datblygu Gwasanaethau
01446 725202
Neu llenwch y ffurflen hon a byddwn yn cysylltu â chi i ddweud mwy wrthych am y rôl.
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Job Reference: SS00733
-
Rheolwr Ymarferwyr
6 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc, rydym wedi darparu adnoddau pellach i'n timau ac wedi gwella ein gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chymorth. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Gwasanaethau Plant Bro Morgannwg wrth i ni ehangu ein gweithlu i ateb galw cynyddol am ein gwasanaethau. Felly, rydym...
-
Rheolwr Ymarferydd
6 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Nod y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yw helpu plant i fyw bywydau heb droseddu ac i gyflawni eu llawn botensial. Mae rôl y Rheolwr Ymarferydd yn rhan o Dîm Rheoli’r GTI, gyda chyfrifoldeb dros reoli achosion cyn ac ar ôl ymddangos yn y Llys. Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus ddangos gallu i oruchwylio ansawdd arferion rheoli...
-
Cymorth Busnes Gcichc
7 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd sydd mewn perygl o, neu sy'n ymwneud ag ymddygiad troseddol drwy gynnig gwasanaethau atal, dargyfeirio a Gorchymyn Llys statudol. Yn rhan annatod o'r tîm, mae’r rolau Cynorthwy-ydd Perfformiad a Chymorth Busnes yn cefnogi aelodau'r tîm i ddarparu...
-
Cynorthwy-ydd Cymorth Busnes
7 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae'r Tîm Gweinyddu Ardal yn darparu gwasanaeth rheng flaen a chymorth gweinyddol i Dimau Gwasanaethau Oedolion yng Nghanolfan Tŷ Jenner, Canolfan Gyswllt Un Fro ac Uned Llanfair. Fel prif gysylltiadau ar gyfer y Timau Oedolion maent yn prosesu atgyfeiriadau i'r gwasanaeth ac yn gweinyddu rhestrau aros er mwyn caniatáu trosglwyddo gwaith a...
-
Swyddog Gofal Cymdeithasol
7 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg yn ceisio rhoi pobl wrth galon eu gofal eu hunain, ni waeth pam mae angen cymorth gofal cymdeithasol arnynt. Rydyn ni am gynnig yr help iawn i bobl ar yr amser iawn i'w helpu i fod yn hapus, yn ddiogel a chael y cyfleoedd gorau mewn bywyd. O fewn Bro Morgannwg gall ymarferwyr wneud...
-
Cynorthwy-ydd Cymorth Busnes
7 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae Rondel House yn darparu Gwasanaeth Dydd i bobl hŷn sy'n byw yn ardaloedd Canol a Dwyrain Bro Morgannwg, a allai ddioddef o eiddilwch sy'n gysylltiedig ag oedran, salwch cronig, anabledd a/neu ddementia. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal gwasanaeth 5 diwrnod, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn darparu amgylchedd diogel lle gall pobl...
-
Swyddog Cymorth I Deuluoedd a RHianta
6 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Are you committed to providing excellent services to children and families? Do you want a job where you can make a direct impact in the community? Are you creative and seeking a role where you can develop services? An opportunity has arisen within the Youth Offending Service as a Family and Parenting Support Officer. We are looking for a...
-
Athro - Ady (Athro Mathemateg/gwyddoniaeth
6 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Cyfle unigryw i athro Mathemateg neu Wyddoniaeth cymwys barhau i gyflawni o fewn eu maes arbenigol hyd at lefel TGAU, ond o fewn yr ysgol fwyaf yn y DU sy'n darparu ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Ydych chi am fod yn rhan o gyfnod cyffrous o dwf mewn ysgol flaengar sy'n meddwl yn flaengar? Mae Ysgol y Deri yn ysgol arbennig...