Rheolwr Ymarferydd
6 months ago
**Amdanom ni**
Nod y Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yw helpu plant i fyw bywydau heb droseddu ac i gyflawni eu llawn botensial. Mae rôl y Rheolwr Ymarferydd yn rhan o Dîm Rheoli’r GTI, gyda chyfrifoldeb dros reoli achosion cyn ac ar ôl ymddangos yn y Llys. Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus ddangos gallu i oruchwylio ansawdd arferion rheoli achosion a chefnogi gwelliant parhaus. Bydd angen profiad diweddar ym maes GTI ar ymgeiswyr; a phrofiad o fframwaith asesu Assetplus a rheoli risgiau.
I fod yn llwyddiannus byddwch yn:
- Gwybod sut olwg sydd ar arferion da.
- Profiad o gyflawni canlyniadau ardderchog i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
- gallu rheoli risg yn hyderus.
- hyrwyddo partneriaethau cryf ar draws ystod o bartneriaid amlasiantaethol.
Yn gyfnewid am hyn, gallwch ddisgwyl bod yn rhan o Awdurdod sydd:
- yn ddyfeisgar ac yn wydn.
- yn ymrwymedig i wella ac yn awyddus i groesawu syniadau newydd.
- ymrwymedig i allu cynnal llwyth gwaith y gellir ei reoli.
Mae'r buddion yn cynnwys:
- Parcio rhad ac am ddim ac yn hygyrch.
- Goruchwylio rheolaidd.
- Ymrwymiad i ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder.
- Gweithio hybrid.
- cyfleoedd gwych ar gyfer datblygiad personol a gyrfaol.
**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Tâl: Gradd 10, PCG 36-39 £44,428 - £47,420 y.f. Lwfans Defnyddiwr Car Achlysurol
Oriau Gwaith: 37
Patrwm Gweithio: Dydd Llun i ddydd Iau 8.30 -5.00 p.m. Dydd Gwener 8.30 -4.30 p.m. Gwaith gyda’r nos ac ar y penwythnos yn ôl y galw
Prif Fan Gwaith: 91 Salisbury Road, Y Barri, CF62 6PD
**Disgrifiad**:
Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad yn rheoli, neu sy’n ymarferydd profiadol a hoffai bontio o rôl oruchwyliol neu fentora i rôl reoli. Os ydych chi’n ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth gyda phlant a’u teuluoedd i sicrhau deilliannau cadarnhaol, hoffem glywed gennych.
Bydd gan y Rheolwr Ymarferydd - Rheoli Achosion gyfle i:
- Oruchwylio, mentora a chefnogi ymarferwyr GTI profiadol mewn ymarfer rheoli achosion
- Cefnogi gwelliant parhaus
- Bod yn rhan o dîm rheoli cefnogol
- Meddu ar gynllun datblygu personol gwybodus, yn sicrhau mynediad at ystod o ddigwyddiadau hyfforddi o ansawdd uchel.
**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:
- Cymhwyster Gwaith Cymdeithasol
- Gweithiwr Cymdeithasol Cofrestredig
- Tair blynedd o brofiad ôl-gymhwyso perthnasol diweddar mewn Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid neu mewn lleoliad Gofal Cymdeithasol Plant
- Profiad o reoli achosion cymhleth ac achosion sy’n ymwneud â’r rheini sydd mewn perygl o droseddu.
- Profiad o weithredu fframwaith asesu, cyflwyno hyfforddiant a goruchwylio gwaith asesu, cynllunio, cyflwyno ymyriadau a goruchwylio yn y gymuned
- Profiad o reoli a goruchwylio a/neu fentora staff
- Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth gyfredol a rheoliadau statudol sy'n berthnasol i’r gwasanaeth
- Y gallu i reoli risg ac achosion cymhleth, gan gynnwys cynllunio prosesau rheoli risg i bobl eraill a risgiau i blant wrth bobl eraill
Os ydych chi’n mwynhau cefnogi pobl i gynnig Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid ac am fanteisio ar y cyfle i wneud gwahaniaeth mewn amgylchedd sydd wedi’i strwythuro'n dda a'i dargedu at wasanaeth effeithiol, hoffem glywed gennych.
Rhaid i chi fod â hanes amlwg o oruchwylio ymarfer effeithiol neu barodrwydd i ddysgu sut i wneud hynny; yn ogystal â gwybodaeth am safonau Cyfiawnder Ieuenctid.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Oes angen Gwiriad DBS: Manwl
Job Reference: SS00712
-
Rheolwr Ymarferwyr
7 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc, rydym wedi darparu adnoddau pellach i'n timau ac wedi gwella ein gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chymorth. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Gwasanaethau Plant Bro Morgannwg wrth i ni ehangu ein gweithlu i ateb galw cynyddol am ein gwasanaethau. Felly, rydym...
-
Rheolwr Ymarferwyr
7 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Yn dilyn buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc, rydym wedi darparu adnoddau pellach i'n timau ac wedi gwella ein gwasanaethau i blant sydd angen gofal a chymorth. Erbyn hyn mae gennym Dîm Derbyn penodol sy'n gallu ymateb yn effeithiol ar y pwynt cyswllt cyntaf. Rydym wedi cynyddu capasiti ein Rheolwr Ymarferydd yn y...
-
Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu Arbenigol
7 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae'r rôl yn rhan o Wasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Bro Morgannwg o fewn Cyfarwyddiaeth Lles ac ADY Bro Morgannwg. Mae'r swydd yn cynnwys gweithio’n rhan o dîm Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu mewn canolfan adnoddau, sy'n rhan o ysgol ym Mro Morgannwg. Mae’n cynnwys gweithio gyda disgyblion 0-25 oed yn y ganolfan adnoddau ac...
-
Cymorthydd Addysgu Lefel Uwch
6 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae’r rôl o fewn Darpariaeth Arbenigol Bro Morgannwg sy’n rhan o Gyfarwyddiaeth Lles ac ADY Bro Morgannwg. Lleolir y swydd yng Nghanolfan Adnoddau Arbenigol newydd yn Ysgol Gwaun y Nant. Bydd y rôl yn cynnwys gweithio gyda disgyblion o fewn yr ystod oedran cynradd, yn y Ganolfan Adnoddau ac ar draws Bro Morgannwg trwy allgymorth. Mae'r...
-
Swyddog Gofal Cymdeithasol
7 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Mae cyfle cyffrous yn bodoli i ymuno â'n tîm yng Ngwasanaeth Adnoddau Cymunedol y Fro. Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfle i weithio o fewn y Gwasanaethau Oedolion. Byddech yn cefnogi swyddogaeth gwaith cymdeithasol y tîm ailalluogi iechyd a gofal cymdeithasol integredig amlddisgyblaethol ac o bryd i’w gilydd y Gwasanaeth...
-
Athro + Arweinydd Iechyd a Lles Aole
7 months ago
Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time**Amdanom ni** Ydych chi eisiau bod yn rhan o ysgol gyffrous, flaengar ac arloesol? Mae Ysgol y Deri yn ysgol arbennig diwrnod awdurdod lleol a gynhelir gan Fro Morgannwg awdurdod lleol. Ar hyn o bryd mae dros 475 o ddisgyblion ar y gofrestr rhwng 3 a 19 oed ar draws 5 safle yn y sir. Mae gan bob disgybl anghenion dysgu ychwanegol, megis anawsterau dysgu,...