Swyddog Cymorth Cyfreithiol

3 months ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir (GRhR) yn bartneriaeth rhwng Cynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd
a Bro Morgannwg i gyflawni’r swyddogaethau Trwyddedu, Safonau Masnach ac Iechyd yr Amgylchedd. Mae’r gwasanaethau a ddarperir yn cynnwys diogelwch bwyd, iechyd a lles anifeiliaid, iechyd a diogelwch, masnachu teg, rheoli llygredd, a phwysau a mesuriadau. Mae ganddo gyfrifoldeb trwyddedu hefyd am amrywiaeth o faterion gan gynnwys alcohol, gamblo a thacsis, yn ogystal â chynnal Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru.

Mae’r GRhR wedi ymrwymo i orfodi'r cyfreithiau rydym yn eu rheoleiddio, gan gychwyn achosion cyfreithiol yn erbyn y busnesau neu'r unigolion hynny lle bo angen. Rydym yn chwilio am Swyddog Cymorth Cyfreithiol deinamig a phrofiadol i oruchwylio'r swyddogaeth prosesu cyfreithiol ar draws ein gwasanaeth a rennir. Mae'r rôl hon yn cynnwys mynd i'r llys a darparu cyswllt effeithiol rhwng Gwasanaethau Cyfreithiol y tri Chyngor, swyddogion ymchwilio, a thystion. Mae'r swydd wag wedi codi ar sail dros dro (hyd at 12 mis), i lenwi swydd y deiliad sydd ar secondiad i rôl arall.
**Ynglŷn â'r rôl**

Agwedd allweddol y rôl hon yw rheoli'r swyddogaeth brosesu gyfreithiol ar draws y gwasanaeth a rennir, mynd
i'r llys a darparu cyswllt effeithiol rhwng gwasanaethau cyfreithiol y tri Chyngor, swyddogion ymchwilio a
thystion. Bydd y rôl hon hefyd yn rheoli ac yn goruchwylio materion sy'n ymwneud â RIPA, POCA a'r defnydd
o'r cyfleuster NAFN. Bydd y dyletswyddau’n cynnwys:

- Paratoi adroddiadau a ffeiliau tystiolaeth i'w cyflwyno i Wasanaethau Cyfreithiol y tri Chyngor a pharhau i’w hadolygu.
- Dadansoddi a chyflwyno i unrhyw gofrestrau canolog euogfarnau a hysbysiadau fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth.
- Cysylltu â'r Gwasanaethau Cyfreithiol ar achosion gan gynnwys presenoldeb yn y Llys.
- Rhoi cyngor a chyfarwyddyd cyfreithiol a gweinyddol i swyddogion achos i sicrhau bod tystiolaeth o safon uchel yn cael ei chynhyrchu i gefnogi unrhyw gamau gorfodi ffurfiol y bernir eu bod yn angenrheidiol
- Rheoli pob agwedd ar ofal tystion gan gynnwys argaeledd tystion, hysbysiadau o gynnydd a chanlyniad achosion, goruchwylio presenoldeb tystion yn y Llys ar gyfer treial, a rhoi sylw llawn i'r gofynion ar gyfer gofal tystion sydd wedi'u cynnwys yn y Cod Ymarfer perthnasol ar gyfer Dioddefwyr Troseddau yng Nghymru a Lloegr.
- Llunio awdurdodiadau yn unol â chyfarwyddiadau'r Rheolwyr Tîm ac yn barod i'w cymeradwyo a'u llofnodi gan y Pennaeth Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, cynnal adolygiad blynyddol o reoliadau a hysbysu Rheolwyr Tîm am newidiadau perthnasol a chadw cofrestr o awdurdodiadau swyddogion.

**Amdanat ti**
Gofynnir am geisiadau gan weithwyr proffesiynol brwdfrydig, ymroddedig a llawn cymhelliant. Bydd yr
ymgeisydd llwyddiannus yn drefnus iawn, yn gallu addasu ac yn bwyllog o dan bwysau, ac yn mwynhau'r her o
gefnogi sawl aelod o'r tîm a jyglo blaenoriaethau.

Bydd angen y canlynol arnoch:

- Gradd neu gymhwyster cyfatebol yn y gyfraith.
- Hyfforddiant cydnabyddedig yn RIPA, CPIA, ac ati.
- Profiad o systemau a gweithdrefnau'r llysoedd a rheoli treialon
- Profiad o weithio gyda chyfreithwyr; bargyfreithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill mewn amgylchedd

dadleuol
- Profiad o hyfforddi eraill ar faterion cyfreithiol
- Dangos sgiliau cyfathrebu yn ysgrifenedig ac ar lafar, sy’n addas i’r gynulleidfa.
- Dangos y gallu i weithio i derfynau amser statudol llym
- Dangos gallu i weithio fel rhan o dîm
- Gallu gwerthuso a gweithio gyda gwybodaeth ysgrifenedig a data rhifiadol

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Oes angen gwiriad GDG: Nac oes

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Sarah Smith, Rheolwr y Tîm Troseddau a Deallusrwydd Ariannol, Ffôn: 07872 116265 neu e-bost

neu

Jason Bale, Rheolwr Gweithredol Menter a Gwasanaethau Arbenigol Ffôn: 07968 901945 neu e-bost

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person atodedig am fwy o wybodaeth.

Job Reference: EHS00591


  • Swyddog Cymorth Busnes

    3 months ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Rydym yn awyddus i recriwtio Swyddog Cymorth Busnes yn ein hadran Rheoli Datblygu (Cynllunio) sydd o fewn y gyfarwyddiaeth Lleoedd. Mae'r Tîm Cymorth Busnes yn cynnig ystod lawn o gymorth gweinyddol i'r adran, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i weinyddu ceisiadau cynllunio. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl: Gradd 4, PCG 5 - 7,...

  • Swyddog Incwm

    3 months ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Bro Morgannwg yn recriwtio ar gyfer swydd Swyddog Incwm yn y Tîm Cyllid Gofal Cymunedol, sy’n swyddogaeth allweddol o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae gan y Gyfarwyddiaeth ystod eang o ddyletswyddau a chyfrifoldebau statudol ynghylch amddiffyn a chefnogi plant ac oedolion sy’n agored i niwed. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl:...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r swyddi uchod ar gael o fewn Adran Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth Bro Morgannwg sy'n cynnwys gwasanaethau cydgysylltiedig Gweithrediadau Gwasanaethau Cymdogaeth, Peirianneg a Thrafnidiaeth. Mae'r holl wasanaethau hyn yn cynnwys gweithrediadau rheng flaen sylweddol a blaenllaw sy'n cyflawni swyddogaethau amrywiol yn uniongyrchol i...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Cyfreithiwr dan hyfforddiant - Tîm Cymorth Cyfreitha a Busnes. Cynorthwyo gyda’r gwaith o ddarparu gwasanaeth cyfreithiol cynhwysfawr i’r Cyngor. **Ynglŷn â'r rôl** Gradd 5 (PC 8 - 12) £22,777 - £24,496 P.A. Dydd Llun I Ddydd Gwener 37 awr yr wythnos Y Swyddfeydd Dinesig, Y Barri / Gweithio o gartref Rheswm Dros Dro: sefydlog am 2...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Rydym yn recriwtio Swyddog Gwasanaethau Cymdogaeth i'n Tîm Gwasanaethau Cymdogaeth o fewn y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir. Mae’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir yn gweithio gyda’r tri chyngor partner - Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg - dan un strwythur rheoli unigol. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Cyflog**:Gradd 9, PCG...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Cydweithfa Mabwysiadu’r Fro, y Cymoedd a Chaerdydd (VVC) yn un o bum Cydweithrediad rhanbarthol sy’n rhan o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yng Nghymru. Mae'n cyflawni ystod o swyddogaethau'r Asiantaeth Fabwysiadu ar ran CBS Merthyr Tudful, CBC RCT, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg. Mae'r cwmni cydweithredol yn gyfrifol...

  • Uwch Gyfreithiwr

    4 months ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn Dibynnu ar gymhwyster a phrofiad, teitl y swydd fydd nail ai: Uwch Gyfreithiwr neu Gyfreithiwr Cynorthwyol. Croesewir ceisiadau gan unigolion sydd â diddordeb / cefndir amlwg mewn gwaith cyfreithiol Cyflogaeth, ac Ymgyfreitha. Os mai chi yw hwn, gallai hwn fod yn gyfle newydd a chyffrous i unigolyn brwdfrydig sydd efallai'n meddu ar...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Are you committed to providing excellent services to children and families? Do you want a job where you can make a direct impact in the community? Are you creative and seeking a role where you can develop services? An opportunity has arisen within the Youth Offending Service as a Family and Parenting Support Officer. We are looking for a...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg yn ceisio rhoi pobl wrth galon eu gofal eu hunain, waeth pam y mae angen cymorth gofal cymdeithasol arnynt. Rydym am gynnig y cymorth iawn i bobl ar yr adeg iawn i'w helpu i fod yn hapus, yn ddiogel ac i gael y cyfleoedd gorau mewn bywyd. Ym Mro Morgannwg mae ymarferwyr yn gallu gwneud...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Cefnogi Llywodraethwyr i gyfrannu at effeithiolrwydd cyffredinol yr Uned Cefnogi Llywodraethwyr (UCLl) o fewn Adran Strategaeth ac Adnoddau y Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau. Mae'r UCLl yn darparu cyngor, cefnogaeth a hyfforddiant i lywodraethwyr i'w galluogi i gyflawni eu rôl o ran gwella ysgolion drwy herio...

  • Swyddog Mangre

    3 months ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Cynnig cymorth safle effeithlon ac effeithiol i’r ystâd gorfforaethol, gan sicrhau bod diogelwch, ymddangosiad a chyffiniau’r adeiladau yn cael eu cynnal yn unol â’r safonau angenrheidiol. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd arsylwi arferion gwaith diogel bob amser a meddu ar sgiliau cyfathrebu da i allu defnyddio ei fenter ei hun i...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Bro Morgannwg yn recriwtio ar gyfer swydd Cynorthwyydd Gweinyddol yn y Tîm Comisiynu, sy’n swyddogaeth allweddol o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol. Prif ddiben y swydd yw rhoi cymorth gweinyddol i'r Swyddog Datblygu Taliadau Uniongyrchol a'r Tîm Taliadau Uniongyrchol. Mae hyn yn cynnwys gohebu â defnyddwyr gwasanaeth, gweithwyr...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Rydym yn chwilio am Uwch Swyddog Cefnogi Llywodraethwyr i gyfrannu at effeithiolrwydd cyffredinol yr Uned Cefnogi Llywodraethwyr (UCLl) o fewn Adran Strategaeth ac Adnoddau y Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau. Mae'r UCLl yn darparu cyngor, cefnogaeth a hyfforddiant i lywodraethwyr i'w galluogi i gyflawni eu rôl o ran gwella ysgolion drwy herio...

  • Rheolwr Tîm

    4 months ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Ymunwch ag Awdurdod sy'n: - 'Gadael i ti fod yn ti dy hun' - Bod â 'rheolwyr y gellir mynd atynt ar bob lefel' a - 'Gofal am bobl' Yn dilyn buddsoddiad sylweddol i Wasanaethau Plant a Phobl Ifanc, rydym wedi darparu adnoddau pellach i'n timau ac wedi gwella ein gwasanaethau ar gyfer plant sydd angen gofal a chymorth. Mae hyn yn cynnwys...

  • Uwch Gyfreithiwr

    4 months ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Cynorthwyo gyda’r gwaith o ddarparu gwasanaeth cyfreithiol cynhwysfawr i’r Cyngor. Gyda phwyslais ar waith cyfreithiol anafiadau personol ymgyfreitha a thai. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion am gyflog: Gradd 10; 36-39, £42,503 - £45,495 Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 37 awr yr wythnos / Dydd Llun I dydd Gwener Prif Waith: Swyddfeydd...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg yn ceisio rhoi pobl wrth galon eu gofal eu hunain, ni waeth pam mae angen cymorth gofal cymdeithasol arnynt. Rydyn ni am gynnig yr help iawn i bobl ar yr amser iawn i'w helpu i fod yn hapus, yn ddiogel a chael y cyfleoedd gorau mewn bywyd. O fewn Bro Morgannwg gall ymarferwyr wneud...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae'r tîm Cymunedau am Waith a Mwy yn rhaglen Llywodraeth Cymru sy'n rhan o'r Gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau. Rydym yn cynnig cymorth cyflogadwyedd i oedolion 16+ oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio gyda'r unigolion hyn i'w symud i gyflogaeth gynaliadwy ac i ddatblygu eu sgiliau. Rydym yn...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae dwy rôl ar gael mewn amgylchedd Adnoddau Dynol prysur, un yn eistedd yn Cylch Bywyd yn cefnogi'r Swyddog Prosiectau - Tâl, Recriwtio a Chadw a'r llall yn Datblygu Busnes yn cefnogi'r Rheolwr Systemau a Data AD, a bydd ganddynt gefnogaeth gan ddau reolwr sydd wedi cefnogi prentisiaid yn flaenorol i rolau parhaol. **Ynglŷn â'r...

  • Uwch Swyddog Cymorth

    3 months ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir (GRhR) yn bartneriaeth rhwng Cynghorau Pen - y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg i gyflawni’r swyddogaethau Trwyddedu, Safonau Masnach ac Iechyd yr Amgylchedd. Mae hon yn rôl amrywiol a diddorol yn gweithio o fewn tîm Cymorth Busnes Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir. Bydd yr ymgeisydd...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Rondel House yn darparu Gwasanaeth Dydd i bobl hŷn sy'n byw yn ardaloedd Canol a Dwyrain Bro Morgannwg, a allai ddioddef o eiddilwch sy'n gysylltiedig ag oedran, salwch cronig, anabledd a/neu ddementia. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal gwasanaeth 5 diwrnod, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac yn darparu amgylchedd diogel lle gall pobl...