Swyddog Mangre

5 months ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**

Cynnig cymorth safle effeithlon ac effeithiol i’r ystâd gorfforaethol, gan sicrhau bod diogelwch, ymddangosiad a chyffiniau’r adeiladau yn cael eu cynnal yn unol â’r safonau angenrheidiol.

Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd arsylwi arferion gwaith diogel bob amser a meddu ar sgiliau cyfathrebu da i allu defnyddio ei fenter ei hun i flaenoriaethu tasgau a helpu i gadw cofnodion cywir yn gysylltiedig â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch.

**Ynglŷn â'r rôl**

**Manylion am gyflog**:Grade 4 PCG 5 -7, £23,500 - £24,294 pa

**Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio**:37 awr yr wythnos dros

***Prif Waith: Dock offices**

**Disgrifiad**:
***Cynnig cymorth safle effeithlon ac effeithiol i’r ystâd gorfforaethol, gan sicrhau bod diogelwch, ymddangosiad a chyffiniau’r adeiladau yn cael eu cynnal yn unol â’r safonau angenrheidiol.

**Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd arsylwi arferion gwaith diogel bob amser a meddu ar sgiliau cyfathrebu da i allu defnyddio ei fenter ei hun i flaenoriaethu tasgau a helpu i gadw cofnodion cywir yn gysylltiedig â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch.**

**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:

- Cynnig presenoldeb diogelwch corfforol, yn fewnol ac allanol, mewn eiddo sy’n berchen i’r Cyngor er mwyn atal lladrad, tân, difrod / fandaliaeth a thresmasu.
- Cyflawni patrolau rheolaidd o eiddo, yn fewnol ac allanol, yn ystod shifft a monitro offer teledu cylch cyfyng (lle mae wedi’i osod), gan adrodd ar unrhyw achosion mewn modd amserol i’w Oruchwylydd a’r Adran Cyfleusterau.
- Sicrhau bod safleoedd yn cael eu hagor/cau a bod systemau larwm yn cael eu gosod yn unol â’r cyfarwyddiadau a sicrhau cyn lleied â phosib o achosion o larymau ffug/gwallau gan ddefnyddwyr.
- Cynorthwyo a monitro pob ymwelydd â’r safle, gan gynnwys contractwyr, i sicrhau eu bod dim ond yn cael mynediad i’r ardaloedd cywir.
- Ymgyfarwyddo ag offer a pheiriannau’r adeilad, megis systemau gwresogi, i sicrhau bod y safleoedd yn weithredol cyn eu meddiannu.
- Cofnodi tymereddau dŵr yn gywir, am resymau Monitro Legionella, yn Llyfrau Log y Safle.
- Trefnu i glirio rhwystrau, cael gwared ar fater estron o sinciau, tai bach, a draeniau, a glanhau gollyngiadau yn ôl yr angen.
- Sicrhau bod gylïau, draeniau ac ati yn rhydd o rwbel a bod y safle a’r tiroedd yn rhydd o sbwriel.
- Sicrhau mynediad clir a diogel i gerddwyr i’r safle yn enwedig mewn tywydd gwael (e.e. clirio eira, graeanu llwybrau a ffyrdd mynediad, gosod arwyddion rhybudd, cau ardaloedd peryglus).
- Derbyn, storio a dosbarthu nwyddau sydd wedi’u danfon gan eraill, gan sicrhau eu bod yn cael eu danfon yn ddiogel i’r adran berthnasol yn y safle.
- Unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill sy’n gymesur â’r radd ac yn unol â nodweddion cyffredinol y swydd fel y gellid yn rhesymol eu disgwyl gan y Prif Swyddog o dro i dro.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Angen Gwiriad DBS: Dim

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Stephen Ackerman 02920 673211

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach

Job Reference: EHS00517