Uwch Reolwr Prosiectau

6 months ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cael ei gydnabod yn gyson fel yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru gan sicrhau twf cyffrous, cynaliadwy, economaidd a chymunedol tra'n gwella a pharchu amgylchedd arbennig y Fro. Rydym yn ychwanegu'r 2 swydd allweddol hon at ein tîm Prosiectau Mawr i'n galluogi i adeiladu ar y hanes hwn o lwyddiant a chyflymu'r broses o gyflawni prosiectau mawr ar gyfer y Cyngor.
**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion Cyflog: Gradd 9, PCG 31-35, £39,186-£43,421

Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 Awr

Prif Weithle: Swyddfa Doc y Barri a hybrid

Disgrifiad: Gweithio yn y tîm Prosiectau Mawr gyda'r prif reolwyr prosiect i oruchwylio'r gwaith o gyflawni prosiectau cynlluniau allweddol yn llwyddiannus ar gyfer y Cyngor. Mae cynlluniau blaenorol a gyflawnwyd gan y tîm wedi cynnwys sythu ffordd newydd Lôn Pum Milltir, datblygiad y Tŷ Pwmpio a’r datblygiad Goodsheds yng Nglannau'r Barri a datblygiad yr Ardal Arloesi yn y Barri.
**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:
Profiad
- Ymgymryd â phrosesau ymgynghori gan gynnwys cyfranogiad cymunedol effeithiol.
- Arfarnu opsiynau datblygu a phrofi hyfywedd prosiectau.
- Profiad o reolaeth ariannol a rheoli costau.
- Darparu gwasanaeth ar amser, gyda’r adnoddau a’r gyllideb sydd ar gael.
- Hanes o gyflawni prosiectau adfywio’n llwyddiannus.
- Arwain timau llwyddiannus

Gwybodaeth
- Profiad perthnasol ar lefel uwch gydag o leiaf 3 blynedd o brofiad wedi ennill cymwysterau proffesiynol.
- Dealltwriaeth o’r maes perthnasol o’r Fframwaith deddfu a rheoleiddio.
- Gwybodaeth fanwl am ffynonellau a phrosesau ariannu sy'n ymwneud â phrosiectau adfywio.

Sgiliau a rhinweddau
- Tystiolaeth o’r gallu i gyflawni prosiectau a rheoli prosiectau’n llwyddiannus.
- Sgiliau adrodd a chyflwyno ardderchog
- Gallu i adeiladu a chynnal partneriaethau
- Cyfathrebwr cryf sy'n bendant, yn gyfeillgar ac yn ddarbwyllol ac sy'n gallu gweithredu ar ystod eang o lefelau.
- Craffter ariannol a thrafodwr profiadol gyda sgiliau dadansoddi da.

Cymwysterau a hyfforddiant
- Gradd mewn disgyblaeth Cynllunio, Eiddo neu Dir neu gymhwyster cyfatebol.
- Cymhwyster Proffesiynol Perthnasol mewn Cynllunio, Pensaernïaeth, Adfywio / adfywio economaidd neu ddisgyblaeth sy’n seiliedig ar dir.
- Yn gallu defnyddio TG.

Agwedd a chymhelliant
- Arweinydd Prosiect gyda'r gallu i ysgogi eraill ac arwain drwy esiampl.
- Gallu ymateb i flaenoriaethau a gofynion newidiol.
- Ymrwymiad i Gyfle Cyfartal a boddhad cwsmeriaid.
- Y gallu i weithio oriau hyblyg yn ôl yr angen.

Gallu gyrru / teithio ar hyd a lled y Fro neu rhwng lleoliadau fel y bo’n briodol.
**Gwybodaeth Ychwanegol**
Oes angen gwiriad gan y GDG: Nac oes

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Mark White Prif Reolwyr Prosiectau ar 01446 704698

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person a atodir i gael rhagor o wybodaeth.

Job Reference: RES00386


  • Uwch Reolwr Prosiectau

    6 months ago


    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cael ei gydnabod yn gyson fel yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yng Nghymru gan sicrhau twf cyffrous, cynaliadwy, economaidd a chymunedol tra'n gwella a pharchu amgylchedd arbennig y Fro. Rydym yn ychwanegu'r 2 swydd allweddol hon at ein tîm Prosiectau Mawr i'n galluogi i adeiladu ar y hanes hwn o lwyddiant...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae dwy rôl ar gael mewn amgylchedd Adnoddau Dynol prysur, un yn eistedd yn Cylch Bywyd yn cefnogi'r Swyddog Prosiectau - Tâl, Recriwtio a Chadw a'r llall yn Datblygu Busnes yn cefnogi'r Rheolwr Systemau a Data AD, a bydd ganddynt gefnogaeth gan ddau reolwr sydd wedi cefnogi prentisiaid yn flaenorol i rolau parhaol. **Ynglŷn â'r...