Tiwtor I Oedolion Sesiynol

6 months ago

Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae Gwasanaethau Dysgu Cymunedol Oedolion Cyngor Bro Morgannwg yn cynnal pedair rhaglen fel a ganlyn:
**Yn Ôl ar y Trywydd Iawn**

Mae’r rhaglen hon, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig cyrsiau Am Ddim i ddysgwyr sy’n gymwys. Mae’r cyrsiau yn fyr, 10 wythnos neu weithdai un diwrnod ac yn cael eu hachredu. Mae’r rhaglen yn cynnwys Sgiliau Digidol, Cyflogadwyedd, Sgiliau i’r Gweithle, Hunan-hyder ac Iaith Arwyddo Prydeinig, yn ogystal â chyrsiau Iechyd a Lles. Ceir mwyafrif y rhaglen yng Nghanolfan Dysgu Oedolion Palmerston, y Barri CF63 2NT gyda darpariaeth ymestynnol drwy’r Fro.

**Canolfan Ddysgu’r Fro**

Mae’r rhaglen hon, sy’n cael ei ariannu drwy fasnachfraint, yn cynnig amrediad o Sgiliau Hanfodol: Gweithdai Saesneg a Mathemateg ar sawl lefel o Fynediad 1 i Lefel 2. Caiff dysgwyr eu cynnal i lwyddo mewn amrywiaeth o gymwysterau gan gynnwys Agored Cymru a City and Guilds. Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnig gweithdai E.S.O.L (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) lle gall dysgwyr weithio tuag at gymwysterau Arholiad Coleg y Drindod. Lleolir y rhaglen yn bennaf yng Nghanolfan Ddysgu’r Fro o fewn Llyfrgell y Barri CF63 4RW

**Cyrsiau’r Fro**

Mae’r rhaglen hon o gyrsiau Hamdden yn cynnwys amrediad eang o gyrsiau Addysg Oedolion ar-lein ac mewn nifer o leoliadau ar draws Bro Morgannwg. Mae’r pynciau yn cynnwysL Celf, Crefftau, Coginio, Cerdd, Ieithoedd Modern, Ffotograffiaeth, Cwnsela ac Iechyd a Ffitrwydd. Mae’r cyrsiau yn ystod y dydd neu’r noswaith, am ddeg wythnos, ac ar gael fel gweithdau Undydd.

**Dysgu Cymraeg y Fro**

Mae Dysgu Cymraeg y Fro yn cynnig ystod cyfan o gyrsiau Cymraeg i oedolion ym Mro Morgannwg, o lefel Mynediad (dechreuwyr) hyd Gloywi. Gall y dysgwr ddewis y cyflymder o’r cynnig eang o gyrsiau unwaith yr wythnos hyd cyrsiau Cyflym Iawn. Cynigir Dysgu o Bell, gan gynnwys cyrsiau Cyfunol sy’n cynnwys elfen o hunan-astudio. Cynhelir cyrsiau yn ystod y dydd ac yn y nosweithiau, mewn lleoliadau ar draws y Fro, ac hefyd ar-lein dros Zoom. Mae Dysgu Cymraeg y Fro yn cynnig Dysgu Anffurfiol drwy ddigwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol i gefnogi dysgwyr i ddefnyddio eu Cymraeg.

**Ynglŷn â'r rôl**
Manylion am gyflog: Graddfa Gweithwyr Proffesiynol Ieuenctid a Chymuned JNC Pwynt 14

Oriau Gwaith: Sesiynau rhan amser amrywiol fel bo angen. Mae sesiynau fel arfer yn 2.5 awr o hyd ac yn digwydd yn y boreau, prynhawniau neu gyda’r nos. Bydd y cyrsiau’n parhau am gyfnod rhwng 3 a 30 wythnos a gall gynnwys gweithdai undydd a chyrsiau blasu.

Prif Waith: Amrywiol

Mae angen tiwtoriaid sesiynol rhan amser ar gyfer ystod o gyrsiau Addysg i Oedolion ym Mro Morgannwg. Ar hyn o bryd mae angen tiwtoriaid ar gyfer y pynciau isod:

- Sgiliau Digidol,
- Sgiliau i’r Gweithle (e.e. Cymorth Cyntaf, Iechyd a Diogelwch)
- S.O.L. Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill
- Sgiliau Sylfaenol:

- Saesneg a/neu Fathemateg
- Cymraeg i Oedolion

**Rydym yn hapus i dderbyn ceisiadau am bynciau perthnasol eraill ar gyfer ystyriaeth yn y dyfodol.**
**Amdanat ti**
Bydd angen:

- addysg at lefel uchel gyda sgiliau da mewn llythrennedd a rhifedd.
- gwybodaeth drylwyr ac adnabyddiaeth dda o’ch pwnc neu faes.
- cymhwyster addysgu perthnasol neu wrthi’n cwblhau cymhwyster addysgu (Hanfodol)
- profiad o addysgu neu hyfforddi oedolion (dymunol).
- Cymhwyster Ymarferwr perthnasol (dymunol ar gyfer ymgeiswyr sy’n bwriadu dysgu ESOL neu Sgiliau Sylfaenol).
- dealltwriaeth o asesu neu brofiad o addysgu rhaglenni sy’n cael eu hachredu.
- hyder wrth addysgu gan ddefnyddio technoleg ddigidol
- y gallu i addysgu’n Hybrid (wyneb yn wyneb ac ar-lein) lle’n berthnasol, neu yn fodlon hyfforddi ymhellach.
- sgiliau cyfathrebu ardderchog, a’r gallu i ddarparu gwersi arloesol a chreadigol sy’n herio ac yn diddori’r dysgwyr.
- dealltwriaeth o anghenion dysgwyr sy’n oedolion, ac empathi at ddysgwyr bregus.
- parodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant pellach.

**Gwybodaeth Ychwanegol**
Angen Gwiriad DBS: Dim

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Deborah Lewis - 01446 733762

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.

Job Reference: LS00141

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn Ôl ar y Trywydd Iawn** Mae’r rhaglen hon, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig cyrsiau Am Ddim i ddysgwyr sy’n gymwys. Mae’r cyrsiau yn fyr, 10 wythnos neu weithdai un diwrnod ac yn cael eu hachredu. Mae’r rhaglen yn cynnwys Sgiliau Digidol, Cyflogadwyedd, Sgiliau i’r Gweithle, Hunan-hyder ac Iaith Arwyddo Prydeinig, yn...

  • Tiwtor I E.s.o.l

    6 months ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Canolfan Ddysgu’r Fro** Mae’r rhaglen hon, sy’n cael ei ariannu drwy fasnachfraint, yn cynnig amrediad o Sgiliau Hanfodol: Gweithdai Saesneg a Mathemateg ar sawl lefel o Fynediad 1 i Lefel 2. Caiff dysgwyr eu cynnal i lwyddo mewn amrywiaeth o gymwysterau gan gynnwys Agored Cymru a City and Guilds. Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnig...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    7 months ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Os ydych chi am ehangu neu ddatblygu eich dealltwriaeth o salwch meddwl wrth gydweithio â gweithwyr iechyd, dyma’r cyfle i chi. Rydym yn ceisio recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol rhan-amser i ymuno â'n tîm Dementia Cynnar. Ein hathroniaeth yw meithrin diwylliant lle mae gweithwyr yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a'u hannog i gyflawni...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn y Gwasanaeth Dydd Anabledd Dysgu, rydym yn cefnogi oedolion gydag anableddau dysgu a all fod ag anghenion cymhleth hefyd i fanteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd dydd, a all fod yn waith, gwirfoddoli, neu wedi eu seilio ar addysg a hamdden. Rydym yn cynnig cymorth sy’n canolbwyntio ar y person er mwyn gwneud yn fawr o botensial, cynyddu...

    **Amdanom ni** Mae'r Tîm Gweinyddu Ardal yn darparu gwasanaeth rheng flaen a chymorth gweinyddol i Dimau Gwasanaethau Oedolion yng Nghanolfan Tŷ Jenner, Canolfan Gyswllt Un Fro ac Uned Llanfair. Fel prif gysylltiadau ar gyfer y Timau Oedolion maent yn prosesu atgyfeiriadau i'r gwasanaeth ac yn gweinyddu rhestrau aros er mwyn caniatáu trosglwyddo gwaith a...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn y Gwasanaeth Dydd Anabledd Dysgu, rydym yn cefnogi oedolion gydag anableddau dysgu a all fod ag anghenion cymhleth hefyd i fanteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd dydd, a all fod yn waith, gwirfoddoli, neu wedi eu seilio ar addysg a hamdden. Rydym yn cynnig cymorth sy’n canolbwyntio ar y person er mwyn gwneud yn fawr o botensial,...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Yn y Gwasanaeth Dydd Anabledd Dysgu, rydym yn cefnogi oedolion gydag anableddau dysgu a all fod ag anghenion cymhleth hefyd i fanteisio ar amrywiaeth o gyfleoedd dydd, a all fod yn waith, gwirfoddoli, neu wedi eu seilio ar addysg a hamdden. Rydym yn cynnig cymorth sy’n canolbwyntio ar y person er mwyn gwneud yn fawr o botensial, cynyddu...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwsanaeth Addysg Gymunedol Oedolion Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu i oedolion. Mae hyn yn cynnwys y Rhaglen Nôl ar y Trywydd Iawn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n darparu addysg mewn sgiliau a chymwysterau ar gyfer pobl sy’n gymwys, yn cynnwys Sgiliau Hanfodol a Digidol, Cyflogadwyedd, Cyfathrebu a...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    7 months ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaeth Gofal Hirdymor Bro Morgannwg yn asesu pobl sydd ag anghenion hirdymor am ofal a chymorth ac yn eu cefnogi nhw a’u gofalwyr. Mae'r tîm yn ymateb i unigolion y gall eu hanghenion fod yn gymhleth neu y mae angen eu monitro a’u cefnogi’n barhaus er mwyn iddynt gyflawni eu canlyniadau lles. Mae'r tîm yn cefnogi pobl nad yw...

  • Person Gofal Plant

    6 months ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Ysgol Gynradd AGC Dewi Sant tua phedair milltir o'r Bont-faen a phedair milltir o Ben-y-bont ar Ogwr. Adeiladwyd Tŷ Ddewi yn wreiddiol yn 1970 i uno'r tair ysgol blwyf fach bresennol. Yn 2021, oherwydd y galw cynyddol am leoedd, disodlwyd yr adeilad gwreiddiol gan Ysgol newydd yr 21ain Ganrif. Mae'r datblygiad deulawr hwn yn cynnwys...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    6 months ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Gwasanaeth Gofal Hirdymor Bro Morgannwg yn asesu ac yn cefnogi pobl a’u gofalwyr sydd ag anghenion hirdymor am ofal a chymorth. Mae’r tîm yn ymateb i unigolion y mae eu hanghenion o bosibl yn gymhleth neu’n gofyn am fonitro a chymorth parhaus er mwyn cyflawni eu canlyniadau lles. Mae’r tîm yn cefnogi pobl lle nad yw gwasanaethau...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    6 months ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae cyfle wedi codi i unigolyn/unigolion brwdfrydig sy'n gweithio'n galed fod yn rhan o Dîm Iechyd Meddwl Cymunedol Integredig deinamig. Bydd yr ymgeisydd/ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gyda dinasyddion sy'n profi anawsterau iechyd meddwl difrifol a pharhaus ac sydd angen gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd o dan Fesur Iechyd Meddwl...

  • Gweinyddwr Diogelu

    6 months ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** An exciting opportunity to join our team of Safeguarding Administrators. Based within the Adult and Childrens Safeguarding team, we are seeking suitably experienced, enthusiastic, and highly motivated individuals to join our team and provide administrative support across the teams safeguarding functions. Cyfle cyffrous i ymuno â'n tîm o...

  • Gofalwr

    7 months ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Cyrsiau’r Fro yn rhaglen hwyliog a chreadigol sy’n cynnwys gweithgareddau dysgu hamdden a lles ar gyfer oedolion (dros 16 oed) ledled Bro Morgannwg. Mae’r rhaglen hon yn cael ei hunan-ariannu ac mae’n gynaliadwy drwy’r incwm o ffioedd y cyrsiau. Mae’r rhaglen yn cynnig ystod eang o bynciau gyda hyd ac amseroedd amrywiol i fod...

  • Gweithiwr Cymdeithasol

    7 months ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae tîm Asesydd Nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn dîm integredig sy'n cynnwys staff Nyrsio a Gweithwyr Cymdeithasol, Ei prif gyfrifoldebau yw cynnal asesiadau integredig cynhwysfawr o unigolion mewn cartrefi nyrsio a chynrychioli'r Awdurdod Lleol yn y broses o wneud penderfyniadau ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG (CHC) a...

  • Gweithiwr Cymorth

    6 months ago

    Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Rydym yn dîm sydd wedi ymrwymo i ddarparu gofal o safon uchel tra'n cefnogi pobl â namau corfforol er mwyn cyflawni nodau personol gan ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Cyflog: Gradd 4, PCG 5-7, £23,500 - £24,294 Oriau Gwaith / Patrwm Gwaith: 37 awr - Dydd Llun - Dydd Iau, 8.30am - 5pm. Dydd...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Rhaglen Llywodraeth Gymru yw Flying Start ar gyfer teuluoedd â phlant o dan 4 oed ac mae'n darparu ystod o wasanaethau sy'n helpu plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion am gyflog: Gradd 6, PCG 14-19, (£27,334 -£29,777 ) pro rata Oriau Gwaith: 37 Patrwm Gweithio: Llun - Gwener Prif Waith: Y Barri Disgrifiad:...

  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae cyfle cyffrous yn bodoli i ymuno â'n tîm yng Ngwasanaeth Adnoddau Cymunedol y Fro. Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn cael cyfle i weithio o fewn y Gwasanaethau Oedolion. Byddech yn cefnogi swyddogaeth gwaith cymdeithasol y tîm ailalluogi iechyd a gofal cymdeithasol integredig amlddisgyblaethol ac o bryd i’w gilydd y Gwasanaeth...