Uwch Gynorthwy-ydd

7 months ago


Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

**Amdanom ni**
Mae Llyfrgelloedd ym Mro Morgannwg yn cynnig ystod eang o wasanaethau i ddefnyddwyr llyfrgelloedd drwy weithgareddau, hyfforddiant a digwyddiadau, mynediad am ddim at y rhyngrwyd a gwybodaeth, llogi ystafelloedd, gweithio gyda phartneriaid, ystod o ddeunyddiau astudiaethau lleol ac wrth gwrs cyfle i fenthyg llyfrau, llyfrau llafar a eGylchgronau.
**Ynglŷn â'r rôl**

Manylion am gyflog: Gradd 5, SCP 8 - 12, £24,702 - £26,421 p.a. pro rata

Oriau Gwaith / Patrwm Gweithio: 3 diwrnod, 17 awr yr wythnos

Prif Waith: Llyfrgell Llanilltud Fawr

**Disgrifiad**:
Cynorthwyo gyda rhoi gwasanaeth llyfrgell cyfeillgar a phroffesiynol i’r gymuned. Bydd hyn yn cynnwys ymdrin ag ymholiadau, helpu gyda gweithgareddau llyfrgell a rhoi cymorth i gwsmeriaid i fanteisio ar stoc, adnoddau a chyfleusterau’r llyfrgell.
**Amdanat ti**
Bydd angen y canlynol arnoch:

- Agwedd hyderus a hawddgar gyda dull rhagweithiol o ran helpu cwsmeriaid
- Profiad o weithio gydag ystod o gwsmeriaid neu gleientiaid
- Profiad o ddefnyddio adnoddau gwybodaeth ar-lein
- ESDL neu brawf cyfwerth o’r gallu i ddefnyddio cyfrifiaduron
- O leiaf 5 TGAU gyda graddau A-C, gan gynnwys Saesneg neu NVQ
lefel 2 mewn Gwasanaethau Llyfrgelloedd a Gwybodaeth neu o leiaf 3
blynedd o brofiad o weithio mewn llyfrgell

**Gwybodaeth Ychwanegol**

Angen Gwiriad DBS: Manwl (Plant)

Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person amgaeedig am wybodaeth bellach.

Job Reference: LS00316



  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Rydym yn darparu gwasanaeth cymorth ariannol ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Lleoedd, gan gynnwys gosod a monitro cyllidebau, llunio ffurflenni ystadegol a hawliadau grant amrywiol. Rydym yn dîm bach, felly mae hyblygrwydd a sgiliau cyfathrebu da yn hanfodol i'r rôl. **Ynglŷn â'r rôl** Manylion Tâl: Gradd 5, PCG 8 -12, £22,777 -...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Am y Rôl** Cyfeirnod y swydd (i'w ddefnyddio ar y ffurflen gais): CPS-LSA4 Manylion am gyflog: Level 4, Gradd 6, PCG 14 - 19 £27,334 - £29,777 p.a. pro rata Diwrnodau / Oriau Gwaith: 5 dyddiau/ 32.5 awr Parhaol/Dros Dro: Parhaol **Disgrifiad**: Rydym yn chwilio am Cynorthwy-ydd Cymorth Lefel Uwch profiadol i gefnogi addysgu a dysgu arloesol ein...


  • Barry, United Kingdom Vale of Glamorgan Council Full time

    **Amdanom ni** Mae Ysgol Gynradd Evenlode yn ysgol dau ddosbarth mynediad ffyniannus ym Mhenarth sydd wedi’i rhannu dros ddau safle. Byddwch yn gweithio yn y ddau safle mewn dosbarthiadau yn ôl yr angen ac yn darparu cymorth i grwpiau a nodwyd, o dan gyfarwyddyd athrawon dosbarth. **Am y Rôl** Cyfeirnod y swydd (i'w ddefnyddio ar y ffurflen gais):...