Cynorthwyydd Sain dan Hyfforddiant

1 month ago


Cardiff, United Kingdom BBC Full time
Cyflwyniad i'r Swydd:

Ydych chi wrth eich bodd gyda sain? Ydych chi'n caru DJ'io, creu a recordio cerddoriaeth, neu'n cynhyrchu eich podlediadau eich hun? Neu efallai eich bod yn gweithio mewn rôl blaen y tŷ - yn gweithio mewn lleoliad cerddoriaeth fyw, theatr neu'n teithio gyda band ac yn ysu i fod yn fwy ymarferol, neu efallai eich bod yn gweithio ym myd radio neu fel cynorthwyydd sain ym maes teledu di-sgript?

Rydyn ni'n chwilio am 2 x Cynorthwyydd Sain dan Hyfforddiant ar gyfer ein cynyrchiadau drama Cymraeg. Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent sy'n siarad Cymraeg ar draws nifer o gyfleoedd hyfforddi ar gyfres sebon hynaf y BBC, Pobol y Cwm, a rom-com gonest, cwiar S4C, Anfamol. Mae'r rolau hyn yn cael eu cynnig gan BBC Studios a Siop Un Stop-One Stop Shop sef Clwstwr Sgiliau'r BFI yng Nghymru.

Dewiswch pa gynhyrchiad (neu'r ddau) yr hoffech wneud cais amdano pan ofynnir i chi. Mae manylion isod am y gwahaniaeth rhwng y cyfleoedd.

Dyddiadau

Pobol y Cwm: 2il - 17eg Rhagfyr
Hyfforddiant pwrpasol ar set (tra bod y ffilmio ar stop) ac yn yr ystafell ddosbarth + 2 wythnos o gysgodi yn hwyrach (Chwefror ymlaen) i'r rhai sy'n cwblhau'r 12 diwrnod cyntaf yn llwyddiannus.

Anfamol: 21ain Hydref - 29ain Tachwedd
Yr holl amser ar y set fel rhan o'r tîm cynhyrchu

Beth yw Cynorthwyydd Sain dan Hyfforddiant:

Mae'r Cynorthwyydd Sain yn rôl gefnogol allweddol o fewn yr adran Sain. Bydd y rôl nid yn unig yn cynnig profiad amhrisiadwy i'r ymgeisydd llwyddiannus o fewn drama barhaus brysur, ond bydd hefyd yn rhoi'r cyfle i ddysgu a datblygu mewn amgylchedd ffilmio diogel, cefnogol a meithringar.

Beth fyddwch chi'n ei wneud?

Gan weithio gyda'n tîm sain, byddwch yn gweld ein hoffer a sut mae'n cael ei weithredu. O'r ddesg gymysgu i osod meicroffonau ar dalent, byddwch yn cefnogi gyda'r broses o recordio ac ailchwarae deunydd, yn ogystal â helpu gyda thasgau gweinyddol, blaengynllunio. Byddwn yn dangos i chi sut rydyn ni'n trosglwyddo, lanlwytho a threfnu ffeiliau, ac yn rhoi profiad ymarferol i chi lle bo'n bosib.

Pa gyfle sy'n iawn i chi?

Bydd y rhai o dan hyfforddiant ar Pobol y Cwm yn treulio 7 diwrnod mewn ystafell ddosbarth a 5 diwrnod ar y set pan fydd y ffilmio ar stop. Ar ôl cwblhau'r 12 diwrnod cyntaf yn llwyddiannus, bydd y rhai o dan hyfforddiant sy'n dangos eu bod yn angerddol ac yn ymroddedig yn y maes sydd o ddiddordeb iddyn nhw'n cael cynnig 2 wythnos o gysgodi ar Pobol y Cwm pan fydd y ffilmio'n ailddechrau ym mis Chwefor 2025.

Mae deall y cynllunio, y paratoadau a'r gwaith papur sydd eu hangen ar gyfer cynhyrchiad yn hanfodol i unrhyw un sydd eisiau gweithio ym myd teledu, felly mae'r 7 diwrnod sy'n cwmpasu'r elfen hon o'r hyn a wnawn yn amhrisiadwy. Bydd 5 diwrnod yn y stiwdio yn rhoi amser dwys i'r rhai o dan hyfforddiant roi cynnig ar offer a dysgu heb dorri ar draws y ffilmio.

Bydd y rhai o dan hyfforddiant ar Anfamol yn treulio 6 wythnos ar set wrth i'r gyfres gael ei ffilmio. Bydd y cyfleoedd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r rhai o dan hyfforddiant ymuno â'r cynhyrchiad a dysgu mewn ffordd fwy ad-hoc na'r amgylchedd dysgu pwrpasol a grëwyd ar gyfer Pobol y Cwm.

O dan gyfarwyddyd mentor, bydd y rhai o dan hyfforddiant yn cael tasgau sy'n cyd-fynd â lefel eu gallu, profiad a brwdfrydedd. Ceir mwy o fanylion am y math o ddyletswyddau y gellid gofyn i chi eu gwneud isod o dan bob disgrifiad swydd. Mae'r rolau hyn yn dibynnu ar y person dan hyfforddiant yn llyncu'r wybodaeth wrth iddyn nhw wylio a chlywed yr arbenigwyr o'u cwmpas.

Ai chi yw'r ymgeisydd iawn?

Mae'r cyfle hwn ar gyfer pobl sy'n cael eu cyffroi gan sain - yn broffesiynol neu yn eu hamser sbâr - a diddordeb mewn gweithio ym myd y ddrama deledu.

I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon dan hyfforddiant, mae'n rhaid i chi gael y canlynol:

• Angerdd go iawn am sain sy'n cael ei ddangos gan ymdrech glir i fagu profiad - boed hynny drwy wneud eich cynnwys eich hun neu drwy sianeli mwy proffesiynol
• Gwybodaeth sylfaenol am offer sain a ffyrdd o storio, recordio a golygu sain
• Ymwybyddiaeth o ganllawiau iechyd a diogelwch perthnasol
• Profiad ac enghreifftiau o adegau pan fyddwch wedi gweithio mewn amgylcheddau lle mae blaenoriaethau sy'n gwrthdaro â'i gilydd a phroblemau i'w datrys
• Profiad ac enghreifftiau o pan fyddwch wedi gweithio fel rhan o dîm ac wedi rhannu tasgau ag eraill yn ogystal â chymryd cyfarwyddyd
• Angerdd am ddramâu sebon a'r ddrama Gymraeg - yn enwedig Pobol y Cwm a/neu Anfamol

Job Introduction:

Are you a sound geek? Do you love DJ'ing, creating and recording music, or producing your own podcasts? Or you might be front of house - working in a live music venue, theatre or touring with a band and desperate to be more hands on, or perhaps you work in radio or as a sound assistant in unscripted TV?

We're looking for 2 x Trainee Sound Assistants for our Welsh speaking drama productions.

BBC Studios is investing in Welsh speaking talent across a number of training opportunities on the BBC's longest running soap, Pobol y Cwm, and S4C's honest, queer rom-com, Anfamol. These roles are being brought to life by BBC Studios and Siop Un Stop-One Stop Shop, a BFI Skills Cluster for Wales.

Please select which production you would like to apply for when asked. There are details below about the difference between the opportunities.

Dates

Pobol y Cwm: 2nd - 17th December
Dedicated training on set (while filming is paused) and in a classroom + 2 weeks shadowing at a later time (Feb onwards) for those who successfully complete the first 12 days

Anfamol: 21st October - 29th November
Whole time on set as part of the production team

What is a Trainee Sound Assistant:

The Sound Trainee is a key supporting role within the Sound department. The role will not only give the successful candidate invaluable experience within a fast-paced continuing drama, but will also provide the opportunity to learn and develop in a safe, supportive and nurturing filming environment.

What will you do?

Working with our sound team you will see our equipment and how it's operated. From the mixing desk to micing up talent, you will support with recording and replaying material, as well as helping with administrative, forward planning tasks. We will show you how we transfer, upload and organise files, and give you hands on experience wherever possible.

Which opportunity is right for you?

Trainees on Pobol y Cwm will spend 7 days in a classroom and 5 days on set while filming of the show is paused. Upon successful completion of the first 12 days, trainees who demonstrate they are passionate and committed to their area of interest will be offered 2 weeks shadowing on Pobol y Cwm when shooting starts again in February 2025.

Understanding the planning, prep and paperwork required for production is essential for anyone who wants to work in TV so 7 days covering this side of what we do is invaluable. 5 days in studio will give trainees concentrated time to try out equipment and learn without the interruption of filming.

Trainees on Anfamol will spend 6 weeks on set while the show is being filmed. These opportunities will require trainees to slot in with production and learn in a more ad-hoc way than the dedicated learning environment created for Pobol y Cwm.

Under the direction of a mentor, trainees will be given tasks which align with their level of ability, experience and enthusiasm. Further details about the type of duties you might be asked to do can be found below under each job description. These roles rely on the trainee to absorb information as they watch and hear from the experts around them.

Are you the right candidate?

This opportunity is for people who are excited by sound - whether professionally or in their spare time - and interested in working in the world of TV drama.

To be successful in this trainee role, you must have the following:

• A genuine passion for sound demonstrated by a clear effort to gain experience - whether through making your own content or via more professional channels
• Basic knowledge about sound equipment and ways of storing, recording and editing sound
• Awareness of relevant health and safety guidelines
• Experience and examples of when you have worked in environments where there are conflicting priorities and problems to solve
• Experience and examples of when you have worked as part of a team and shared tasks with others as well as taking direction
• Passion for soaps and Welsh drama - particularly Pobol Y Cwm and/or Anfamol

  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i’r Swydd:  Ydych chi wrth eich bodd gyda sain? Ydych chi’n caru DJ’io, creu a recordio cerddoriaeth, neu’n cynhyrchu eich podlediadau eich hun? Neu efallai eich bod yn gweithio mewn rôl blaen y tŷ – yn gweithio mewn lleoliad cerddoriaeth fyw, theatr neu’n teithio gyda band ac yn ysu i fod yn fwy ymarferol, neu efallai eich bod...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i’r Swydd: Oes gennych chi brofiad gyda gwisgoedd neu sgiliau sylfaenol wrth greu gwisgoedd? Efallai eich bod yn dod o fyd y theatr, bod gennych gymhwyster cynllunio ffasiwn neu’n wniadydd? Rydyn ni’n chwilio am 3x Cynorthwyydd Gwisgoedd dan Hyfforddiant ar draws ein cynyrchiadau drama Cymraeg. Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i'r Swydd: Oes gennych chi brofiad gyda gwisgoedd neu sgiliau sylfaenol wrth greu gwisgoedd? Efallai eich bod yn dod o fyd y theatr, bod gennych gymhwyster cynllunio ffasiwn neu'n wniadydd? Rydyn ni'n chwilio am 3x Cynorthwyydd Gwisgoedd dan Hyfforddiant ar draws ein cynyrchiadau drama Cymraeg.Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent sy'n siarad...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i’r Swydd: Ydych chi’n caru camerâu? Efallai eich bod wedi astudio’r cyfryngau neu deledu ac wedi cael blas ar greu eich cynnwys eich hun, neu a oes gennych chi gamera gartref rydych chi'n ei ddefnyddio i wneud fideos ar gyfer YouTube a’r cyfryngau cymdeithasol? Rydyn ni’n chwilio am 2 x Cynorthwyydd Camera dan Hyfforddiant i...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i'r Swydd: Ydych chi'n caru camerâu? Efallai eich bod wedi astudio'r cyfryngau neu deledu ac wedi cael blas ar greu eich cynnwys eich hun, neu a oes gennych chi gamera gartref rydych chi'n ei ddefnyddio i wneud fideos ar gyfer YouTube a'r cyfryngau cymdeithasol? Rydyn ni'n chwilio am 2 x Cynorthwyydd Camera dan Hyfforddiant i weithio ar ein...


  • Cardiff, Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i'r Swydd: Ydych chi'n awyddus i ddysgu mwy am baratoi artistiaid ar gyfer amrywiaeth o dasgau colur yn y byd drama deledu? Rydym yn chwilio am 2 x Artist Colur Hyfforddiant ar gyfer ein cynyrchiadau drama Cymraeg. P'un a ydych wedi'ch hyfforddi ar gyfer priodasau, theatr, ffasiwn, manwerthu, salon neu effeithiau arbennig, os oes gennych...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i'r Swydd: Ydych chi'n gynorthwyydd camera profiadol sy'n barod i symud i fod yn ffocysydd? Rydyn ni'n chwilio am Ffocysydd (Focus Puller) dan Hyfforddiant i ymuno â'n cynhyrchiad drama Cymraeg, Pobol y Cwm. Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent sy'n siarad Cymraeg ar draws nifer o gyfleoedd hyfforddi ar gyfres sebon hynaf y BBC, Pobol y Cwm,...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i’r Swydd: Ydych chi’n gynorthwyydd camera profiadol sy’n barod i symud i fod yn ffocysydd? Rydyn ni’n chwilio am Ffocysydd (Focus Puller) dan Hyfforddiant i ymuno â’n cynhyrchiad drama Cymraeg, Pobol y Cwm. Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent sy’n siarad Cymraeg ar draws nifer o gyfleoedd hyfforddi ar gyfres sebon hynaf...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i'r Swydd: Ydych chi'n berson craff? Ydych chi'n tueddu i floeddio ar y teledu pan sylwch ar gamgymeriad dilyniant? Rydyn ni'n chwilio am Oruchwylydd Sgript dan Hyfforddiant i weithio ar ein cynhyrchiad Cymraeg, Pobol y Cwm.Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent sy'n siarad Cymraeg ar draws nifer o gyfleoedd hyfforddi ar gyfres sebon hynaf y...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i’r Swydd: Hoffech chi ddeall mwy am baratoi artistiaid ar gyfer amrywiaeth o dasgau colur ym maes drama deledu? Rydyn ni’n chwilio am 2 x Artist Colur dan Hyfforddiant ar gyfer ein cynyrchiadau drama Cymraeg. P’un a ydych wedi’ch hyfforddi ar gyfer priodasau, theatr, ffasiwn, manwerthu, salon neu effeithiau arbennig, cyn belled â...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i'r Swydd: Hoffech chi ddeall mwy am baratoi artistiaid ar gyfer amrywiaeth o dasgau colur ym maes drama deledu? Rydyn ni'n chwilio am 2 x Artist Colur dan Hyfforddiant ar gyfer ein cynyrchiadau drama Cymraeg.P'un a ydych wedi'ch hyfforddi ar gyfer priodasau, theatr, ffasiwn, manwerthu, salon neu effeithiau arbennig, cyn belled â bod gennych...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i'r Swydd: Oes gennych chi brofiad ym maes trydan y tu hwnt i'r byd teledu? Yn awyddus i drosglwyddo'r sgiliau hynny i ddrama barhaus eiconig Cymru a datblygu sgiliau allweddol ym myd teledu? Rydyn ni'n chwilio am Drydanwr dan Hyfforddiant i weithio ar ein cynhyrchiad drama Cymraeg, Pobol y Cwm. Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent sy'n siarad...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i’r Swydd: Oes gennych chi brofiad ym maes trydan y tu hwnt i’r byd teledu? Yn awyddus i drosglwyddo’r sgiliau hynny i ddrama barhaus eiconig Cymru a datblygu sgiliau allweddol ym myd teledu? Rydyn ni’n chwilio am Drydanwr dan Hyfforddiant i weithio ar ein cynhyrchiad drama Cymraeg, Pobol y Cwm.  Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i'r Swydd: Ydych chi'n gwybod yn reddfol sut i adeiladu palettes lliw ac arddangosiadau gweledol? Oes gennych chi gefndir mewn cynllunio setiau, cynllunio mewnol neu wisgo ffenestri? Rydyn ni'n chwilio am 3 x Cyfarwyddwr Celf dan Hyfforddiant i weithio ar draws ein cynyrchiadau Cymraeg.Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent sy'n siarad Cymraeg...


  • Cardiff, United Kingdom BBC Full time

    Cyflwyniad i’r Swydd: Ydych chi'n gwybod yn reddfol sut i adeiladu palettes lliw ac arddangosiadau gweledol? Oes gennych chi gefndir mewn cynllunio setiau, cynllunio mewnol neu wisgo ffenestri? Rydyn ni’n chwilio am 3 x Cyfarwyddwr Celf dan Hyfforddiant i weithio ar draws ein cynyrchiadau Cymraeg. Mae BBC Studios yn buddsoddi mewn talent sy’n...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous ar gael yn ein lleoliad Gofal Plant Dechrau'n Deg, i weithio dan ddarpariaethau gofal plant Cyngor Caerdydd. Rydym yn chwilio am tri Gynorthwyydd Chwarae i ymuno â'n tîm yn Twinkle Stars. Mae lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg, Twinkle Stars, yn gwasanaethu cymunedau’r Sblot, Tremorfa, Adamsdown a'r Rhath. Rydym yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am y Gwasanaeth** Mae cyfle cyffrous ar gael yn ein lleoliad Gofal Plant Dechrau'n Deg, i weithio dan ddarpariaethau gofal plant Cyngor Caerdydd. Rydym yn chwilio am dau Gynorthwyydd Chwarae i ymuno â'n tîm yn Twinkle Stars. Mae lleoliad gofal plant Dechrau'n Deg, Twinkle Stars, yn gwasanaethu cymunedau’r Sblot, Tremorfa, Adamsdown a'r Rhath. Rydym yn...


  • Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Caerdydd yw un o’r dinasoedd mwyaf medrus ac sy’n tyfu gyflymaf ym Mhrydain gyda Gwasanaeth Cyfreithiol mewnol ag achrediad Lexcel. Mae gennym gyfle gwych i ymarferydd cyfreithiol diwyd, hyblyg a llawn cymhelliant ymuno â Gwasanaeth Cyfreithiol Cyngor Caerdydd yn Neuadd y Sir yng nghanol Bae Caerdydd gyda chysylltiadau trafnidiaeth a...


  • Cardiff, United Kingdom Amgueddfa Cymru National Museum Wales Full time

    **Eich gwaith** - Gweithio yn y Vulcan, gan oruchwylio'r tîm yn uniongyrchol a sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth cwsmer rhagorol bob amser - Bod yn atebol am sicrhau bod y Vulcan yn cydymffurfio â holl ddeddfwriaeth a rheoliadau, gan gynnwys diogelwch bwyd ac iechyd a diogelwch - Sicrhau’r gwerthiant ac elw gorau posibl a chyrraedd targedau trwy...

  • Prentis Corfforaethol

    3 months ago


    Cardiff, United Kingdom Cardiff Council Full time

    **Am Y Gwasanaeth** Byddwch yn ennill £23,152 y flwyddyn gan weithio'n llawn amser (37 awr) neu £12.00 yr awr pro-rata, gan ein bod yn Gyflogwr Cyflog Byw Gwirfoddol. Mae Cyngor Caerdydd yn darparu dros 700 o wahanol wasanaethau i'n dinasyddion, ymwelwyr a busnesau ledled y Ddinas. Fel sefydliad llywodraeth leol, mae ein cwsmeriaid yn dibynnu arnom i...